Duns Scotus
Duns Scotus | |
---|---|
Ffugenw | Doctor Subtilis |
Ganwyd | John Duns 1266 Duns |
Bu farw | 8 Tachwedd 1308 Cwlen |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, diwinydd, academydd, llenor, darlithydd, clerigwr rheolaidd, pregethwr |
Cyflogwr | |
Dydd gŵyl | 8 Tachwedd |
Roedd Johannes Duns Scotus (tua 1265/66—8 Tachwedd 1308), [1] a oedd yn cael ei adnabod yn gyffredin fel Duns Scotus ("Duns y Sgotyn"), yn offeiriad Catholig o'r Alban ac yn aelod o Urdd Sant Ffransis, yn athro prifysgol, yn athronydd, ac yn ddiwinydd. Ef oedd un o bedwar athronydd-ddiwinydd pwysicaf Gorllewin Ewrop yng nghanol yr Oesoedd Canol, ynghyd â Thomas Aquinas, Bonaventura, a William o Ockham. [2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddys am Duns Scotus ar wahân i'w waith. Credir i'w ddyddiad geni fod rhywbryd rhwng 23 Rhagfyr, 1265 a 17 Mawrth, 1266. Ganwyd ef i deulu blaenllaw yn yr Alban. Mae safle honedig ei eni, ger Castell Duns, Swydd Berwick yn yr Alban, bellach wedi'i nodi gan garnedd a godwyd ym 1966 gan frodyr Ffransisgaidd y Deyrnas Unedig i nodi 700 mlynedd ers ei eni. Cafodd Duns Scotus ei urddo yn aelod o'r Brodyr Lleiaf Ffransisgaidd yn Dumfries, lle'r oedd ei ewythr, Elias Duns, yn warcheidwad. [3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd Duns Scotus ei ordeinio'n offeiriad yn St Andrew's, Northampton, Lloegr, ar 17 Mawrth 1291. [4]
Yn ôl y traddodiad, addysgwyd Duns Scotus mewn studium generale Ffransisgaidd (prifysgol ganoloesol), tŷ y tu ôl i Eglwys St Ebbe, Rhydychen [5]
Ymddengys fod Duns Scotus yn Rhydychen erbyn 1300, gan ei fod wedi'i restru ymhlith criw o frodyr y gofynnodd uwch-swyddog taleithiol talaith eglwysig Lloegr (a gynhwysai'r Alban) am gyfadrannau oddi wrth Esgob Lincoln i wrando cyffes. Ymysg ei athrawon ym Mhrifysgol Rhydychen oedd Siôn Gymro.[6] Cymerodd ran mewn dadl dan y rhaglaw-feistr, Philip o Bridlington ym 1300-01. [7] Dechreuodd ddarlithio ar Ddatganiadau Peter Lombard ym Mhrifysgol fawreddog Paris tua diwedd 1302 . Yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd honno, fodd bynnag, cafodd ei ddiarddel o Brifysgol Paris am ochri â'r Pab Boniffas VIII yn ei ffrae â Brenin Philippe IV, brenin Ffrainc ynghylch trethu eiddo eglwysig.
Roedd Duns Scotus yn ôl ym Mharis cyn diwedd 1304, yn ôl pob tebyg ym mis Mai. Parhaodd i ddarlithio yno hyd iddo symud i'r stiwdiwm Ffransisgaidd yng Nghwlen, tua Hydref 1307.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Duns Scotus yn sydyn yng Nghwlen ym mis Tachwedd 1308. Claddwyd ef yn Eglwys y Brodyr Lleiaf yno.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd Duns Scotus nifer o draethodau a chofnodion. Ei ddau waith mawr yw Ordinatio a Quaestiones quodlibibetales, y ddau wedi eu gadael heb eu gorffen ar ei farwolaeth.[8]
Yn ei ddydd roedd Dun Scotus yn cael ei ystyried yn un o'r athronwyr, ysgolheigion a diwinyddion mwyaf galluog ei oes. Erbyn y 16g bu ymosodiadau ar ei waith yn gyntaf gan y dyneiddwyr, ac yna gan y diwygwyr Protestannaidd. Roedd y rhai oedd yn cefnogi'r 'ddysg newydd' yn gwawdio'r rhai oedd yn dal i goleddu syniadaeth Duns fel pobl hen ffasiwn a daeth ei enw yn foes am un oedd yn anfodlon dysgu pethau newydd, ac wedyn am un rhy dwp i allu dysgu unrhyw beth. Sef tarddiad y gair Dunce yn Saesneg.[9] Hyd y 1960au bu plant ysgol yn gorfod gwisgo het gyda'r gair Dunce neu'r llythyren "D" arno fel cosb am fethu deall eu gwersi.[10]
Er y feirniadaeth ar ei waith gan ddyneiddwyr a diwygwyr parhaodd Duns i fod yn ddylanwadol ymysg ysgolheigion Catholig a daeth diddordeb newydd yn ei waith pan ddechreuodd athronwyr seciwlar fel Peter King, Martin Heidegger, Gyula Klima, Paul Vincent Spade, ac eraill ei astudio.
Cafodd ei fendithio fel un Bendigaid gan y Pab Ioan Pawl II ym 1993[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, Thomas (2019), "John Duns Scotus", The Stanford Encyclopedia of Philosophy, https://plato.stanford.edu/archives/win2019/entries/duns-scotus/
- ↑ Spade, Paul Vincent (2018), "Medieval Philosophy", The Stanford Encyclopedia of Philosophy, https://plato.stanford.edu/archives/sum2018/entries/medieval-philosophy/, "Histories of medieval philosophy often treat Thomas Aquinas (1224/25-74), John Duns Scotus (c. 1265-1308), and William of Ockham (c. 1287-1347) as the “big three” figures in the later medieval period; a few add Bonaventure (1221-74) as a fourth."
- ↑ "People of Note: John Duns Scotus". Duns, Scotland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2007. Cyrchwyd 18 January 2007.
- ↑ Er bod Vos (2006, t. 23) wedi dadlau mai 'Duns' oedd ei enw teuluol mewn gwirionedd, gan y byddai rhywun o Duns wedi cael ei adnabod fel 'de Duns'.
- ↑ Vos 2006, p. 27. gweler hefyd Roest, Bert (2000). A history of Franciscan education (c. 1210–1517). Brill. tt. 21–24. ISBN 978-90-04-11739-6.
- ↑ Gwerddon; Dr Carys Moseley, Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau ‘Cymreig’? Archifwyd 2020-09-22 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Ebrill 2022
- ↑ Williams, Thomas (golF.). The Cambridge Companion to Duns Scotus. Cambridge University Press, 2002, p. 3.
- ↑ "Blessed John Duns Scotus | Biography, Works, Ordinatio, & Facts | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-25.
- ↑ "dunce, n.". OED Online. March 2022. Oxford University Press.
- ↑ Edwards, Owen Morgan (1927). "Ar Ystol y Gosb". Llyfr Del. Wrecsam: Hughes a'i Fab. t. 58.
- ↑ "20 de marzo de 1993, Reconocimiento del culto litúrgico del beato Juan Duns Escoto y beatificación de Dina Bélanger | Juan Pablo II". www.vatican.va. Cyrchwyd 2022-04-26.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Vos, Antonie (2006). The Philosophy of John Duns Scotus. Edinburgh: Edinburgh University Press. ISBN 978-0-7486-2462-1.