Delphi
Gwedd
Mae Delffi (Groeg: Δελφ��ί), yn safle archeologol yng Ngwlad Groeg ac hefyd yn enw ar y dref fodern gerllaw. Mae ar lechweddau isaf y Mynydd Parnasws yn Phocis.
Roedd Delffi yn safle o bwysigrwydd mawr yng Ngroeg yr Henfyd oherwydd presenoldeb Oracl Delffi. Mae'r safle yn dyddio i'r cyfnod cynhanesyddol, pan addolid Gaia yma; yn ddiweddarch roedd yn gysegredig i'r duw Apolon.
Delffi oedd safle yr omphalos (ομφαλός) carreg oedd yn dynodi canolbwynt y byd. Roedd yr omphalos yn nheml Apolon o Delffi (Ἀπόλλων Δελφίνιος).
Saif y dref fodern i'r gorllewin o'r safle archeolegol. Roedd y boblogaeth yn 3,511 yn 2001.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]Hen dref
[golygu | golygu cod]- Gymnasiwm
- Marchredfa
- Teml Apollo
- Theatr
- Tholos
- Trysorfa Athen
Dref fodern
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Delffi
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Hegesander (m. c. 250CC), hanesydd