Neidio i'r cynnwys

Daniel Simon Evans

Oddi ar Wicipedia
Daniel Simon Evans
Ganwyd29 Mai 1921 Edit this on Wikidata
Llanfynydd Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 1998 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethperson dysgedig Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Cymreig oedd Daniel Simon Evans (1921 -1998), yn ysgrifennu fel D. Simon Evans. Mae D. Ellis Evans yn frawd iddo. Fe'i ganed yn Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin.

Arbenigodd mewn gramadeg Cymraeg Canol a thestunau rhyddiaith Cymraeg Canol. Bu'n ddalithydd ym Mhrifysgol Lerpwl yna'n Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan o 1974 hyd ei ymddeoliad.

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • (gol.), Buched Dewi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1959. Golygiad o destun Buchedd Dewi.
  • Stori Dewi Sant (Llyfrau'r Dryw, 1959)
  • Gramadeg Cymraeg Canol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960). Ymhelaethiad: A Grammar of Middle Welsh (Gwasg Prifysgol Cymru, 1964).
  • (gol.), Historia Gruffudd vab Kenan (Gwasg Prifysgol Cymru, 1977). Golygiad o Hanes Gruffudd ap Cynan
  • Llafar a llyfr yn yr hen gyfnod: darlith goffa G.J. Williams (Gwasg Prifysgol Cymru 1982)
  • Medieval religious literature (Gwasg Prifysgol Cymru ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru, 1986)
  • A mediaeval prince of Wales: the life of Gruffudd ap Cynan (Llanerch, 1990)
  • O fanc y Spite : atgofion am Gapel y Methodistiaid yn Llanfynydd, a'r fro (Mellen, 1997)


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.