Cyflafan Wounded Knee
![]() Maes y gad | |
Enghraifft o: | cyflafan ![]() |
---|---|
Dyddiad | 29 Rhagfyr 1890 ![]() |
Lladdwyd | 300 ![]() |
Rhan o | Ghost Dance War ![]() |
Lleoliad | Wounded Knee Creek, Wounded Knee National Historic Landmark ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Rhanbarth | De Dakota ![]() |
![]() |


Cyflafan Wounded Knee oedd y digwyddiad mawr olaf yn y gwrthdaro rhwng lluoedd arfog yr Unol Daleithiau (UDA) a brodorion Gogledd America. Digwyddodd ar 29 Rhagfyr 1890 mewn llecyn anghysbell o'r enw Wounded Knee ym mryniau De Dakota.
Y gyflafan
[golygu | golygu cod]Mewn ymateb i'r sefyllfa truenus yn y reservations roedd rhai aelodau o'r Sioux wedi dianc i'r bryniau. Eisoes roedd y pennaeth enwog Tatanka Lyotake (1831-1890) neu 'Sitting Bull' yn Saesneg, a oedd erbyn hynny'n henwr, wedi ei saethu'n farw gan filwyr ac roedd y Sioux yn ofnus iawn. Eu harweinydd oedd y pennaeth Si Tȟaŋka sef 'Big Foot', oedd erbyn hynny'n sâl ac yn heneiddio. Roedd ei grŵp o ddilynwyr cymysg yn cynnwys gwragedd a phlant. Erbyn i'r Seithfed Farchoglu, dan reolaeth y capten Nelson Appleton Miles, eu tracio i lawr roeddynt bron â llwgu ac mewn cyflwr truenus. Cytunwyd iddynt fynd i Wounded Knee, ymgasglu yno ac ildio eu harfau.
Roedd y tywydd yn aeafol a'r eira'n disgyn. Amgylchynwyd y pentref tipi gan y milwyr Yanci. Wrth i'r rhyfelwyr Sioux ddechrau ildio eu harfau dechreuodd y milwyr saethu. Roedd yr hyn a ddilynodd yn gyflafan ddidrugaredd. Saethwyd dros 300 o frodorion yn farw, nifer sylweddol ohonynt yn bobl mewn oed, gwragedd a phlant. Un o'r cyntaf i gael ei ladd oedd y pennaeth Big Foot, oedd yn gorwedd ar gludydd oherwydd ei salwch.
Ceir disgrifiad llygad-dyst gan Black Elk yn ei gyfrol Black Elk Speaks.
Protest 1973
[golygu | golygu cod]Yn 1973 meddianwyd pentref Wounded Knee gan tua 200 aelod o'r Fudiad Brodorion America (American Indian Movement) mewn protest yn erbyn polisïau Indiaidd llywodraeth UDA. Anfonwyd heddlu a milisia i'w gwarchae. Parhaodd y gwarchae am 69 diwrnod a lladdwyd dau o'r protestwyr cyn iddynt orfod ildio i'r awdurdodau.
Hyd heddiw Wounded Knee yw un o symbolau pennaf yr ymgyrch dros hawliau i'r brodorion yn America.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Dee Brown, Bury My Heart at Wounded Knee (Efrog Newydd, 1960)
- Black Elk, Black Elk Speaks (1932)