Neidio i'r cynnwys

Cronos

Oddi ar Wicipedia
Cronos yn gorchfygu ei dad, Wranos

Ym mytholeg Roeg, arweinydd y Titaniaid, y genhedlaeth gyntaf o dduwiau, plant Gaia, y ddaear, ac Wranos yr awyr oedd Cronos neu Cronus (Hen Roeg: Κρόνος, Krónos).'[1] Diorseddodd Cronos ei dad, ac ef oedd y rheolwr yn ystod yr Oes Aur, hyd nes iddo ef gael ei ddiorseddu gan ei feinion, Zews, Hades a Poseidon. Roedd yn cyfateb i Sadwrn yn y traddodiad Rhufeinig. Cysylltir ef â'r cnydau a'r cynhaeaf ac ag amser.

Yn ôl un chwedl, roedd Wranos wedi cuddio plant ieuengaf Gaia, Hecatonchires a Seiclopsiaid, yn Tartarws, fel na allent weld y goleuni. Perswadiodd Gaia ei mab Cronos i ymosod ar Wranos â chryman, gan ei ysbaddu. Daeth Cronos â'i wraig Rhea yn rheolwyr.

Roedd proffwydoliaeth y diorseddid Cronos gan un o'i blant, ac o'r herwydd, llyncodd Demeter, Hera, Hades, Hestia a Poseidon cyn gynted ag y ganwyd hwy. Rhoddodd Rhea enedigaeth i'r chweched plentyn, Zews, mewn ogof ar Fynydd Ida ar ynys Creta, a rhoddodd garreg, yr Omphalos, mewn dillad baban i Cronos ei llyncu. Wedi iddo dyfu, gorfododd Zews ei dad i chwydu ei frodyr a'i chwiorydd, a bu rhyfel, y Titanomachia, rhyngddynt hwy a'r Titaniaid, a diorseddwyd Cronos gan Zews. Yn ôl rhai fersiynau, carcharwyd ef yn Tartarws; yn ôl Pindar daeth yn frenin Elysiwm.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Galwyd ef gan Andrew Lang yn Cronos, sillafiad nad yw'n yr Hen Roeg nac yn Lladin; gweler llyfr Robert Brown: Semitic influence in Hellenic mythology, 1898, tudd. 112-13.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: