Neidio i'r cynnwys

Cored bysgod

Oddi ar Wicipedia
Cored bysgod
Ynys Gored Goch, gyda mur y gorad yn amlwg
Mathcored Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cored pysgod llanw ym Mae Manila, yn y Philipinau (t. 1940au)

Rhwystr a osodir ger yr arfordir, mewn aber neu ar draws afon, i reoli llif y dŵr yw cored neu gorad. Amrywiad arni yw'r cored bysgod, gyda'r nod o ddal pysgod. Arferid codi a defnyddio coredau i ddal pysgod yn agos i'r lan, wrth i'r llanw gilio, pysgod fel eogiaid wrth iddynt geisio nofio i fyny'r afon i fridio i fyny'r afon, neu lysywod wrth iddynt fudo i lawr yr afon. Erbyn hyn, peidiodd yr arfer o ddefnyddio coredau yng Nghymru, ond mae'n parhau ledled y byd. Adeiladwyd coredau'n draddodiadol o bren neu gerrig, a cheir enghreifftiau o'r ddau fath yma yn y Fenai. Mae’n debyg bod y defnydd o goredau pysgota fel maglau pysgod yn dyddio’n ôl cyn ymddangosiad bodau dynol modern.

Fe'i cofnodir yn gyntaf yn y Gymraeg yn y 12g yn Llyfr Llandaf.[1]

Ar hyt Guy hahafrenn can y choretou haidiscynua yloggou betaper muric.

Proto-Geltaidd *koret = palis, pared
Hen Wyddeleg (Goídelc) cora = cored
Gwyddeleg Canol (Gaoidhealg) cora = wal garreg, cored
Gwyddeleg (Gaeilge) cora = cored, rhyd carreg lle croesir afon, penrhyn

cora éisc = cored bysgod cloch chora = cerrig camu

Gaeleg yr Alban (Gàidhlig) caradh, cairidh = cored, twmpath mewn dŵr (llyn fel arfer)

cairidh-iasgaich = cored bysgod

Cymraeg Canol kored, cored, coret = argae, cored, cawell pysgod
Cymraeg cored
Hen Lydaweg kored / gored = cored bysgod
Llydaweg

(Brezhoneg)

kored = cored bysgod

Coredau pysgota fesul rhanbarth

[golygu | golygu cod]

Affrica

[golygu | golygu cod]

Mae'n bosibl bod llinell o gerrig yn dyddio i'r Acheulean (Hen Oes y Cerrig Isaf) yn Cenia wedi ei defnyddio fel cored llanw carreg mewn llyn cynhanesyddol. Os yw hyn yn gywir, yna mae'n gwneud y dechnoleg hon yn hŷn na bodau dynol modern.[2]

Americas

[golygu | golygu cod]

Gogledd America

[golygu | golygu cod]
Cored eogiaid ym Mhentref Quamichan ar Afon Cowichan, Ynys Vancouver, t. 1866.

Ym Medi 2014 daeth ymchwilwyr o Brifysgol Victoria o hyd i'r hyn a all fod yn gored bysgod 14,000 o flynyddoedd oed mewn 120 troedfedd (37 m) o ddŵr oddi ar arfordir Haida Gwaii, British Columbia.[3]

Yn Virginia, adeiladodd yr Americanwyr Brodorol goredau carreg siâp V yn Afon Potomac ac Afon James. Disgrifiwyd y rhain yn 1705 yn The History and Present State of Virginia, In Four Parts gan Robert Beverley Jr.

At the falls of the Rivers, where the Water is shallow, and the Current strong, the Indians use another kind of Weir thus made. They make a Dam of loose stone where of there is plenty on hand, quite across the River, leaving One, Two or more Spaces or Tunnels, for the water to pass thro': at the Mouth of which they set a Pot of Reeds, Wove in form of a Cone, whose Base is about Three Foot, and in Perpendicular Ten, into which the Swiftness of the Current carries the Fish, and wedges them in fast, that they cannot possibly return.[4]

Mabwysiadwyd yr arfer hwn gan y gwladfawyr cynnar ond gorchmynnodd Cynulliad Cyffredinol Maryland ddinistrio'r coredau ar y Potomac ym 1768. Rhwng 1768 a 1828 dinistriwyd llawer o goredau a oedd yn rhwystr i gychod fordwyo, ac o ganol y 1800au, y rhai y tybiwyd eu bod yn niweidiol i bysgota gwialen a rhwyd.

De America

[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd cyfres o goredau, camlesi ac ynysoedd artiffisial gan ddiwylliant cyn-Columbaidd anhysbys yn rhanbarth Baures yn Bolifia, rhan o'r Llanos de Moxos. Mae’r gwrthgloddiau hyn yn gorchuddio dros 500 metr sg (190 milltir sg), ac mae'n ymddangos iddynt gynnal poblogaeth fawr a dwys tua 3000 CC.

Asia ac Oceania

[golygu | golygu cod]
Cored bysgota 'Y Galon-Ddwbwl o Garreg' ym Mhenghu, Taiwan
Cored yn Efate, Fanwatw

Mae coredau carreg llanw yn un o dechnolegau pysgota hynafol y bobloedd Awstronesaidd morwrol. Maent i'w cael ledled rhanbarthau a setlwyd gan Awstronesiaid yn rhwng 3.000 a 1,500 CC ac maent yn debyg iawn o ran siâp ac adeiladwaith drwyddi draw. Mewn rhai rhanbarthau maent defnyddio deunyddiau mwy darfodus fel bambŵ, pren o lwyni a rhwydi. Ar Ynys Penghu yn Taiwan, y ceir y casgliad gorau o goredau, a hefyd yn Ynysoedd y Philipinau, a ledled Micronesia.[5][6][7][8] Maent hefyd yn gyffredin yn nwyrain Indonesia, Melanesia, a Pholynesia. Mae tua 500 o goredau carreg wedi goroesi yn Taiwan, a chredir bod miliynau o goredau carreg yn arfer bodoli trwy holl ynysoedd Micronesia.[8] Adeiladwyd yr enghraifft hynaf y gwyddys amdani o gored pysgod carreg yn Taiwan gan bobl frodorol Taokas yn Sir Miaoli.[7] Credir bod y rhan fwyaf o goredau pysgod carreg hefyd yn hynafol, ond mae'n beth anodd iawn gan eu bod yn cael eu hailadeiladu'n barhaus yn yr un lleoliad.[8]

Yn Ewrop yr Oesoedd Canol, adeiladwyd coredau mawr o byst pren a ffensys plethwaith i ddal pysgod. Gallai strwythurau siâp V mewn afonydd fod cyhyd â 60 metr (200 tr) ac yn gweithio trwy gyfeirio pysgod tuag at faglau neu rwydi pysgod. Ceir darluniau o faglau basged mewn darluniau canoloesol a darganfuwyd enghreifftiau sydd wedi goroesi. Mae coredau basged tua dwy fetr (6.6 tr) o hyd ac yn cynnwys dau gôn gwiail, y naill y tu mewn i'r llall - gan ei wneud yn hawdd i bysgod fynd i mewn iddynt ond anodd dianc.

Gwledydd Prydain

[golygu | golygu cod]

Yn ngwledydd Prydain, y ffurf draddodiadol oedd un neu fwy o goredau carreg a adeiladwyd fel argae llanw neu ar draeth tywodlyd, gyda bwlch bach y gellid ei rwystro gan ffensys plethwaith neu rwydi pan drodd y llanw i lifo allan eto.

Olion cored bysgod ganoloesol ychydig uwchben y marc distyll yn Nhraeth Lligwy, Ynys Môn
Cored ganoloesol Gwyrfai ger Caernarfon, Cymru

Ceir enghreifftiau da sydd wedi goroesi, ond nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach, yn Afon Menai, gyda'r enghreifftiau sydd wedi'u cadw orau i'w cael yn Ynys Gored Goch sy'n dyddio'n ôl i tua 1842.[9] Hefyd yn goroesi mae 'goredi' (deuddeg mewn nifer yn wreiddiol) ar draeth Aberarth, Ceredigion. Enghraifft hynafol arall oedd yn Llandrillo-yn-Rhos yng Nghymru, a oedd yn dal i gael ei defnyddio tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofrestrwyd y gored ganoloesol yn Nhraeth Lligwy, Moelfre, Ynys Môn yn heneb yn 2002.[10]

Lloegr
[golygu | golygu cod]

Ystyria'r Sais fod coredau pysgod yn rhwystr i longau ac yn fygythiad i stociau pysgod, a gwnaed sawl ymdrech i'w rheoli. Mae’r Magna Carta o 1215 yn cynnwys cymal sy’n ymgorffori gofynion y barwniaid i gael gwared ar goredau’r brenin ac eraill:

All fish-weirs shall be removed from the Thames, the Medway, and throughout the whole of England, except on the sea coast.[11]

Iwerddon

[golygu | golygu cod]

Yn Iwerddon, mae darganfyddiadau o drapiau dal pysgod sy'n gysylltiedig â choredau wedi'u dyddio i 8,000 o flynyddoedd yn ôl.[12][13]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://geiriadur.ac.uk; adalwyd 5 Yachwedd 2024.
  2. Clark, J. Desmond (1960). "Human Ecology During Pleistocene and Later Times in Africa South of the Sahara". Current Anthropology 1 (4): 317. doi:10.1086/200115. JSTOR 2739766. https://archive.org/details/sim_current-anthropology_1960-07_1_4/page/n55.
  3. "Canada's Oldest Archaeological find unearthed on Haida Gwaii". Global T.V. Cyrchwyd 24 Medi 2014./
  4. Hranicky, William (1 Ebrill 2009). Material Culture from Prehistoric Virginia. 1. Authorhouse. ISBN 978-1438968490.
  5. Jeffery, Bill (16 Ebrill 2024). "Tidal Stone-Walled Fish Weirs across Asia-Pacific: An Austronesian Cultural Identity and Its Relevance in Marine Ecology Conservation". Sustainability in Ancient Island Societies: 174–197. doi:10.5744/florida/9780813069975.003.0007.
  6. Jeffery, Bill (Mehefin 2013). "Reviving Community Spirit: Furthering the Sustainable, Historical and Economic Role of Fish Weirs and Traps". Journal of Maritime Archaeology 8 (1): 29–57. doi:10.1007/s11457-013-9106-4.
  7. 7.0 7.1 Chen, Chao-Yuan; Lee, Ming-Ju (31 Rhagfyr 2023). "Evolution of stone fish weirs in Jibei area, Penghu Archipelago (eighteenth to twenty-first century)". Journal of Maps 19 (1). doi:10.1080/17445647.2023.2277904.
  8. 8.0 8.1 8.2 Iwabuchi, Akifumi (1 Medi 2022). "On the Frontline of Climate Change: The Underwater Cultural Heritage of Stone Tidal Weirs". Blue Papers 1 (1): 89–95. doi:10.58981/bluepapers.2022.1.09.
  9. Anon. "Ynys Gorad Goch". Menai Heritage. Menai Bridge Community Heritage Trust. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
  10. Anon. "Traeth Lligwy Fish Weir". Ancient monument. Cyrchwyd 24 Chwefror 2018.
  11. The Text of Magna Carta, see paragraph 33.
  12. Jecock, Marcus. "River Fisheries and Coastal Fish Weirs" (PDF). Introductions to Heritage Assets. English heritage. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2014.
  13. Nishimura, Asahitaro (1975). "Cultural and social change in the mode of ownership of stone tidal weirs". In Richard W. Casteel; Jean-Claude Passeron; Walter de Gruyter (gol.). Maritime Adaptations of the Pacific. Walter de Gruyter. tt. 77–88. ISBN 9783110879902.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]