Copa Adda
Gwedd
![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ratnapura district ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 2,243 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 6.8094°N 80.4997°E ![]() |
Cadwyn fynydd | Central Massif ![]() |
![]() | |
Mynydd o siâp pigyrnaidd yng nghanolbarth Sri Lanca yw Copa Adda (Sinhaleg, Samanalakanda "Mynydd glöyn byw"; Tamileg, Sivanolipatha Malai; Saesneg Sri Pada neu Adam's Mount). Mae'n adnabyddus fel lleoliad y Sri Pada ("ôl troed sanctaidd"), craig 1.8 m ger y copa, sy'n sanctaidd yn nhraddodiad Bwdhaeth fel ôl troed y Bwdha, i Hindŵiaid fel ôl troed y duw Shiva ac i Fwslemiaid fel ôl troed Adda. Am hynny mae'n gyrchfan pererindod gan Fadwyr, Hindwiaid a Mwslemiaid, ac i raddau llai gan Gristnogion ac Iddewon (oherwydd y cysylltiad honedig ag Adda'r Beibl).
Gorwedd y mynydd ym mharthau deheuol Ucheldiroedd y Canolbarth, yn ardal Ratnapura yn nhalaith Sabaragamuwa, tua 20 km i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o ddinas Ratnapura.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan y mynydd