Cofiant a phregethau y Parchedig D. Saunders, D.D
Mae Cofiant a phregethau y Parchedig D. Saunders, D.D, dan olygyddiaeth W. James a John Morgan Jones yn gofiant a gyhoeddwyd gan Argraffwasg Lewis Evans, 13 castle Street, Abertawe ym 1894.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae'r gyfrol yn adrodd hanes David Saunders (20 Mai 1831 – 19 Hydref 1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a anwyd yng Nghastellnewydd Emlyn a bu farw yn Aberdâr.[2]
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Mae'r cofiant yn sôn am hanes ei fagwraeth a'i ieuenctid yn Llanbedr Pont Steffan a Threforys a'i waith cyntaf fel saer. Mae'r llyfr yn trafod yr addysg derbyniodd yn ysgolion Abertawe, Coleg Normal Abertawe a Choleg Trefeca a Phrifysgol Glasgow. Ceir ei hanes fel gweinidog ym Mhenclawdd, Bro Gŵyr, Aberdâr, Lerpwl, Abercarn a Lerpwl eto. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys cofnod o 19 o'i bregethau. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[3]
Penodau
[golygu | golygu cod]Mae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:
- Ei Rieni
- Ei Enedigaeth
- Ei Febyd
- Dechrau Pregethu
- Yn yr Athrofa
- Yn Aberdâr
- Yn Liverpool
- Yn Abercarn
- Yn Abertawe
- Nodweddion ei Gymeriad
- Nodweddion ei Bregethu.
- Ei Gystudd, ei Angau, a'i Gladdedigaeth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ James, W; Jones, John Morgan, gol. (1894). Cofiant a phregethau y parchedig D. Saunders. Abertawe: L. Evans.
- ↑ "SAUNDERS, DAVID (1831 - 1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, pregethwr huawdl | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-28.
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.