Codi pwysau yng Nghymru
Gwedd
Dechreuodd codi pwysau fel mabolgamp boblogaidd yng Nghymru pan ffurfiwyd Cymdeithas Amatur Codi Pwysau Cymru ym 1927 wedi i'r Almaenwr Hermann Görner ymddangos yn Neuadd y Farchnad, Llanelli.[1] Newidiodd y Gymdeithas ei henw yn hwyrach i Ffederasiwn Codi Pwysau Cymru.
Mae Cymru wedi ennill 18 medal aur, 12 medal arian ac 20 medal efydd mewn cystadlaethau codi pwysau yng Ngemau'r Gymanwlad,[2] mwy o fedalau i Gymru na mewn unrhyw gamp arall.[1]
Ymhlith codwyr pwysau enwog o Gymru mae David Morgan, Michaela Breeze, Mel Barnett a'r codwr pŵer Chris Jenkins.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 177 [CODI PWYSAU].
- ↑ (Saesneg) Wales - Medals Tally by Sports. Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad. Adalwyd ar 27 Medi 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am godi pwysau neu gorfflunio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.