Chris Coleman (pêl-droediwr)
Coleman gyda tîm Cymru yn 2016 | ||
Manylion Personol | ||
---|---|---|
Enw llawn | Christopher Coleman | |
Llysenw | Cookie | |
Dyddiad geni | 10 Mehefin 1970 | |
Man geni | Abertawe, Cymru | |
Clybiau Iau | ||
Manchester City | ||
Clybiau | ||
Blwyddyn |
Clwb |
Ymdd.* (Goliau) |
1987-1991 1991-1995 1995-1997 1977-2002 |
Abertawe Crystal Palace Blackburn Rovers Fulham Cyfanswm |
160 (2) 154 (13) 28 (0) 136 (8) 478 (23) |
Tîm Cenedlaethol | ||
1992-2002 | Cymru | 32 (4) |
Clybiau a reolwyd | ||
2003-2007 2007-2008 2008-2010 2011-2012 2012-2017 |
Fulham Real Sociedad Coventry City Larissa Cymru | |
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
Rheolwr a chyn bêl-droediwr o Gymru yw Christopher "Chris" Coleman, OBE (ganwyd 10 Mehefin 1970 yn Abertawe).
Gyrfa fel chwaraewr
[golygu | golygu cod]Chwaraeai fel amddiffynnwr ond weithiau byddai'n chwarae fel blaenwr. Dechreuodd ei yrfa gyda Abertawe yn 17 oed, cyn symud i Crystal Palace yn 1991. Fe'i brynwyd gan Blackburn Rovers am £2.8 miliwn yn 1995, ond wedi dim ond 28 ymddangosiad mewn tymor a hanner, fe gymmerodd gambl drwy ymuno â thîm Fulham a oedd dwy adran yn is ar y pryd. Arweniniodd Fulham i ddyrchafiad i'r Adran Gyntaf fel capten yn nhymor 1998/1999. Yn mis Ionawr 2001, fe dorrodd ei goes mewn damwain car, ac arweiniodd hyn at ei ymddeoliad cynnar yn 2002.
Enillodd 32 o gapiau dros Gymru.
Gyrfa fel rheolwr
[golygu | golygu cod]Fulham
[golygu | golygu cod]Daeth yn reolwr dros-dro i Fulham ar ddiwedd tymor 2002/2003 ac arwain y tîm o berygl disgyn allan o'r Uwchgynghair. Fe'i benodwyr yn reolwr llawn amser yn mis Mai 2003 a dod yn rholwr ieuengaf erioed yn yr Uwchgyngrhair. Cafod ei ddiswyddo yn Ebrill 2007 yn dilyn rhediad o saith gêm heb fuddigoliaeth.
Real Sociedad
[golygu | golygu cod]Daeth Coleman yn reolwr ar Real Sociedad ar 28 Mehefin 2007. Roedd y clwb newydd ddisgyn o brif adran Sbaen y tymor cynt, ac fe ddechreuodd y tymor yn wael, ond fe wellodd y canlyniadau. Ymddiswyddodd yn Ionawr 2008 gan ddweud nad oedd yn cytuno â gweledigaeth perchennog newydd y clwb.
Coventry City
[golygu | golygu cod]Penodwyd yn reolwr ar Coventry City yn mis Chwefror 2008 hyd mis Mai 2010.
Sunderland
[golygu | golygu cod]Wedi gadael ei swydd gyda tîm Cymru cafodd ei benodi fel rheolwr Sunderland yn Nhachwedd 2017. Erbyn diwedd Ebrill 2018 dim ond 5 gêm allan o 29 enillodd y clwb a bydd y tîm yn gostwng i'r Adran Gyntaf yn nhymor 2018/19. Diswyddwyd Coleman o'i swydd ar 29 Ebrill 2018.[1]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Yn Hydref 2016, dyfarnwyd rhyddid Abertawe iddo ac yn Rhagfyr 2016 derbyniodd Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru am arwain ei dîm i rownd gynderfynol Ewrop 2016. Derbyniodd OBE am ei wasanaeth i'r byd pêl-droed yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn Ionawr 2017. Ar 11 Ionawr 2017 derbyniodd Gradd MSc er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.[2] Ar 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Chris Coleman wedi gadael Sunderland , Golwg360, 29 Ebrill 2018.
- ↑ Prifysgol Abertawe'n dyfarnu Gradd er Anrhydedd i Christopher Coleman. Prifysgol Abertawe (11 Ionawr 2017). Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2017.
- ↑ Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor. Prifysgol Bangor (17 Gorffennaf 2017).