Cathen
Gwedd
Cathen | |
---|---|
Dinasyddiaeth | ![]() |
Blodeuodd | 6 g ![]() |
Dydd gŵyl | 17 Mai ![]() |
Tad | Cawrdaf mab Caradog Freichfras ![]() |
Sant o Gymru oedd Cathen (weithiau Cathan) (fl. diwedd y 6g).[1] Dethlir ei ddydd gŵyl ar 17 Mai.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Yn ôl yr achau, roedd yn fab i Gawrdaf fab Caradog Freichfras. Ei frodyr oedd y seintiau Medrod (ni ddylir ei gymysgu â'r Medrawd Arthuraidd) ac Iddon.[1]
Sefydlodd llan, yn Llangathen, Sir Gaerfyrddin. Ceir Ffynnon Garthen ar fferm yn y plwyf hwnnw. Yn ôl rhai ffynonellau cafodd ei gladdu ar Ynys Bŷr, sy'n awgrymu fod ganddo gysylltiad â'r fynachlog gynnar yno.[1]