C.P.D. Bow Street
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Bow Street Bow Street Football Club | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | Y Piod | ||
Maes | Cae Piod, Rhydypennau | ||
Cadeirydd | Wyn Lewis | ||
Rheolwr | Barry Williams | ||
Cynghrair | Adran Gyntaf Cynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru | ||
2016-2017 | Adran Gyntaf Cynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru, 10fed (o 15) | ||
|
Lleolir CP Bow Street ym mhentref Rhydypennau ger Bow Street, Ceredigion. (Noder mai enw pentref yw Bow Street, nid stryd). Mae Rhydypennau a Bow Street bellach i bob pwrpas yn un pentref, tua Lua error in Modiwl:Convert at line 452: attempt to index field 'titles' (a nil value). i'r gogledd o Aberystwyth ar briffordd A487 i Machynlleth.
Mae gan y clwb ddau dîm sy'n chwarae mewn adrannau pêl-droed lleol; y tîm cyntaf yn adran gyntaf Cynghrair Canolbarth Cymru, a'r eilyddion yn chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Cambrian Tyres Aberystwyth.
Mae gan y clwb nifer o dimau ieuenctid, gyda'u hoedrannau yn amrywio o 6 i 16 mlwydd oed, ac y mae gan y clwb hefyd ddau dîm merched sy'n cystadlu mewn cynghreiriau lleol.
Daw'r mwyafrif helaeth o aelodau'r timau o bentref Bow Street a'r ardaloedd cyfagos sy'n cynnwys Rhydypennau, Llandre a Dole
Llysenw
[golygu | golygu cod]Llysenw'r tîm yw Y Piod neu Magpies yn Saesneg, gan fod lliwiau swyddogol crys y clwb yn streipiau du a gwyn, yn debyg i grysau chwaraewyr Newcastle United.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Adran Gyntaf Cynghrair Pêl-droed Aberystwyth a'r Cylch (Aberystwyth Football League Division One)
- 1992–93, 1994–95, 1995–96, 2001–02, 2002–03, 2003–04, 2006–07
- Cwpan y Gynghrair
- 1985–86, 1988–89, 1991–92, 1992–93, 1994–95
- Cwpan J.Emrys Morgan
- 1982–83, 1999–00, 2005–06
Carfan 2017
[golygu | golygu cod]Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.