Neidio i'r cynnwys

Côr y Cewri

Cyfesurynnau: 51°10′44″N 1°49′34″W / 51.17889°N 1.82611°W / 51.17889; -1.82611
Oddi ar Wicipedia
Côr y Cewri

Côr y Cewri ym mis Gorffennaf 2007
Lleoliad Wiltshire, Lloegr
Rhanbarth Gwastadedd Caersallog
Cyfesurynnau 51°10′44″N 1°49′34″W / 51.17889°N 1.82611°W / 51.17889; -1.82611
Math Heneb
Taldra Roedd pob maen hir tua 13 tr (4.0 m)
History
Deunydd(iau) Sarsen, Glasfaen
Sefydlwyd Oes Newydd y Cerrig ac Oes yr Efydd
Nodiadau safle
Dyddiadau cloddio Nifer o gloddiadau
Perchennog Y Goron
Rheolwyr English Heritage
Gwefan english-heritage.org.uk/stonehenge
Math Diwylliannol
Meini prawf i, ii, iii
Dynodwyd 1986 (10fed sesiwn)
Rhan o Côr y Cewri, Avebury, a Safleoedd Cysylltiedig
Rhif cyfeirnod 373
Rhanbarth Ewrop a Gogledd America
Heneb Cofrestredig
Enw swyddogol Côr y Cewri, y Rhodfa, a thri chrug gerllaw'r Rhodfa sy'n rhan o fynwent crug crwn ar Countess Farm[1]
Dynodwyd 18 Awst 1882; 142 o flynyddoedd yn ôl (1882-08-18)
Rhif cyfeirnod 1010140[1]

Cylch cerrig yw Côr y Cewri (Saesneg: Stonehenge), a godwyd yn Oes Newydd y Cerrig ar Wastadedd Caersallog i ogledd dinas Caersallog, Wiltshire, yn ne Lloegr. Mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986. Credir bellach iddo gael ei godi tua 3,650 CC.[2]

Mae mwyafrif y cerrig yn dod o'r Marlborough Downs, ond mae cerrig gleision y cylch canol yn dod o fryniau'r Preseli, Sir Benfro ac wedi'u cludo yno bum mil o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y trigolion lleol yn cychwyn amaethu.[2] Yn wreiddiol tybiwyd fod carreg y Maen Allor yng nghanol y cylch yn dod o Gymru hefyd er fe gwestiynwyd hynny gan wyddonwyr ar ddechrau'r 20fed ganrif. Yn Awst 2024 cyhoeddwyd ymchwil yn dangos yn hytrach fod y Maen wedi ei drosglwyddo yno o ogledd-ddwyrain Yr Alban. Arweiniwyd yr ymchwil gan Anthony Clarke, myfyriwr PhD o Sir Benfro, sydd yn gweithio ym mhrifysgol Curtin yng ngorllewin Awstralia.[3]

Mor gynnar â 1649, mynnodd John Aubrey mai'r derwyddon a gododd y cerrig, ac mae'r farn honno yn dal yn boblogaidd heddiw.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Nodyn:National Heritage List for England
  2. 2.0 2.1 Trysorau Cudd, Timothy Darvill a Geoffrey Wainwright, 2009
  3. "Maen Allor Côr y Cewri 'yn tarddu o ogledd yr Alban, nid Cymru'". BBC Cymru Fyw. 2024-08-14. Cyrchwyd 2024-08-14.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Wiltshire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato