Barf
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol ![]() |
---|---|
Math | human facial hair, set of facial hairs, endid anatomegol arbennig ![]() |
![]() |

Blew ar wyneb dyn yw barf. Fe all dyfu ar yr ên, y bochau, y gwddf ac uwchben y gwefus uchaf. Mae rhai dynion yn dewis siafio yn hytrach na thyfu barf. Mae agweddau cymdeithasol tuag at barfau yn armrywio'n aruthrol trwy'r byd, a thrwy wahanol gyfnodau hanes. Astudiaeth barfau yw Pogonoleg.

Mae blew barfol yn cychwyn tyfu ym mlynyddoedd olaf y glasoed, pan mae dyn oddeutu 15-18 oed.
Hoffai rhai o Feirdd yr Uchelwyr ddychanu'r farf mewn cerddi sy'n ddosbarth arbennig mewn canu dychan yr Oesoedd Canol.