Asid sitrig
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | fatty alcohol, asid brasterog, tricarboxylic acid |
Màs | 192.027 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₆h₈o₇ |
Dyddiad darganfod | 1784 |
Rhan o | cylch Krebs, citrate secondary active transmembrane transporter activity, citrate synthase activity |
Yn cynnwys | ocsigen, carbon, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asid gwan ydy asid sitrig neu asid citrig, sydd hefyd yn asid organig, a ddefnyddir yn aml i roi blas sur ar fwyd a diodydd meddal ac i brisyrfio bwyd yn naturiol. Mae'n gweithio fel gwrthocsidant ac mae ganddo briodweddau naturiol i lanhau o amgylch y cartref ayb.
Mae gan lemon a leim, a gweddill y teulu o ffrwythau sitrig ganran uchel iawn o asid sitrig ynddynt.
Priodweddau
[golygu | golygu cod]Dan amgylchiadau cyffredin, powdwr o grisialau ydy asid sitrig ac nid hylif. Mae'n perthyn i'r teulu o asidau a elwir asid carbocsylig. Pan gaif ei gynhesu'n uwch na 175 °C, mae'n dadelfennu o ganlyniad ei fod wedi colli carbon deuocsid a moleciwlau dŵr. Oherwydd ei briodweddau naturiol, caiff ei ddefnyddio'n aml fel ychwanegiad at fwydydd megis diodydd meddal, cwrw a seltzer.