Asanas ymlaciol
Asana myfyrdod hynafol: Siddhasana | |
Math | myfyrdod, ioga |
---|
Osgo neu asana myfyriol tra'n eistedd yw myfyrdod ymlaciol. Fel arfer, mae'r person sy'n myfyrio yn eistedd ond weithiau mae'n sefyll neu'n lled-orwedd. Ceir y safleoedd hyn o fewn y traddodiadau Bŵdhaidd a Hindŵaidd, yr enwocaf mae'n debyg yw'r safle (neu'r asana) a elwir yn lotws; mae'r asana penlinio hefyd yn eitha ymlaciol a phoblogaidd a cheir opsiynau eraill gan gynnwys eistedd ar gadair, gyda'r asgwrn cefn yn unionsyth.
Weithiau caiff y Myfyrdod ei ymarfer tra'n cerdded, megis kinhin, gwneud tasgau ailadroddus syml, fel yn Zen SAMU, neu waith sy'n annog ymwybyddiaeth ofalgar.
Asanas Ioga Swtras
[golygu | golygu cod]Mae Swtrâu Ioga Patanjali yn disgrifio ioga fel un sydd ag wyth cangen, ac un o'r wyth hyn yw'r asana, y sedd fyfyrio. Nid yw'r swtras yn enwi unrhyw asanas, dim ond nodi nodweddion asana da, gan ddweud:[1]
स्थिरसुखमासनम् ॥४६॥
sthira sukham āsanam
Dylai ei safle, eich osgo myfyrio fod yn gyfforddus ac yn un y gellir ei ddal am gyfnod hir. Yoga Sutras 2:46
Mae'r Swtras wedi'u hymgorffori yn sylwebaeth Bhasya, ac mae ysgolheigion bellach yn credu fod y cyfan wedi'u sgwennu gan yr un awdur;[2] mae'n enwi 12 asana myfyrdod tra'n eistedd, pob un o bosibl yn draws-goesau, gan gynnwys Padmasana, Virasana, Bhadrasana (a elwir bellach yn Baddha Konasana), a Svastikasana.[3]
Eistedd ar y llawr
[golygu | golygu cod]Mae safleoedd eistedd, yn cynnwys croesi'r coesau ac yn darparu sylfaen sefydlog ar gyfer myfyrdod, ac fe'u defnyddir at y diben hwn mewn Bŵdhaeth a Hindŵaeth ers canrifoedd lawer. Ymhlith y rhain mae Padmasana (lotws llawn), Ardha Padmasana (hanner lotws), Siddhasana neu Muktasana (a elwir hefyd yn osgo Burma, sef eistedd gyda'r pengliniau ar y ddaear a'r traed yn agos at y corff),[4][5] a Sukhasana (unrhyw safle traws-goes hawdd).[6] Posibiliadau eraill yw'r ystumiau penlinio Virasana (yn eistedd rhwng y sodlau) a Vajrasana neu Seiza (yn eistedd ar y sodlau).[7] Mae asanas eistedd eraillll, Baddha Konasana (Y Crydd), yn addas ar gyfer pobl sy'n gallu eistedd gyda'r traed gyda'i gilydd a'r ddwy ben-glin ar y ddaear; noda BKS Iyengar y dylid dal cledrau'r dwylo mewn gweddi dros y frest i fyfyrio yn y sefyllfa hon, sy'n gofyn am rywfaint o gydbwysedd.
Gall safle'r lotws fod yn hynod anghyfforddus i Orllewinwyr nad ydyn nhw wedi ymarfer eistedd gan groesi'r coesau ers plentyndod cynnar. Efallai eu bod, yng ngeiriau'r athro ioga a myfyrdod Anne Cushman, yn ymarfer "hunan-artaith... mae'n debyg eu bod yn credu bod cleisio'ch morddwyd fewnol â'ch ffêr yn hanfodol i ddeffroad ysbrydol."[7] Gall yr asana achosi poen pen-glin i ddechreuwyr.[8][9] Mae'r safle Baddha Konasana yn llai poenus.[10]
Ystumiau eraill
[golygu | golygu cod]Mewn amrywiol draddodiadau mae pobl yn myfyrio mewn safleoedd eraill. Gall pobl sy'n ei chael hi'n anghyffyrddus eistedd gan groesi'r coesau eistedd yn unionsyth ar gadair gefn syth, troed-wastad a heb gefnogaeth gefn, gyda'r dwylo'n gorffwys ar y cluniau, yn yr hyn a elwir weithiau'n safle'r Aifft.[6]
- Rhai asanas
Rhestr Wicidata:
rhif | enw | isddosbarth o'r canlynol | delwedd | Cat Comin |
---|---|---|---|---|
Ardha Matsyendrasana (Hanner Arlgwydd y Pysgod) | asanas eistedd ioga Hatha asanas ymlaciol |
Ardha Matsyendrasana | ||
Baddha Konasana (Y Teiliwr) | asanas eistedd asanas ymlaciol |
Baddha Konasana | ||
Bhagaritasana | asanas sefyll asanas ymlaciol |
|||
Dandasana (Y Ffon) | asanas eistedd asanas ymlaciol |
Daṇḍāsana | ||
Gorakshasana | asanas eistedd asanas ymlaciol |
Gorakṣāsana | ||
Guptāsana (Y Gyfrinach) | Siddhasana asanas eistedd ioga Hatha asanas ymlaciol |
|||
Muktasana | Siddhasana asanas eistedd ioga Hatha asanas ymlaciol |
|||
Mulabandhasana | asanas eistedd asanas ymlaciol |
Mulabandhasana | ||
Padmasana (Lotws) | asanas eistedd ioga Hatha asanas ymlaciol |
Padmāsana | ||
Simhasana (Y Llew) | asanas penlinio ioga Hatha asanas ymlaciol |
Simhāsana | ||
Svastikasana (Yr Addawol) | asanas eistedd ioga Hatha asanas ymlaciol |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Patanjali. Yoga Sutras. t. Book 2:46.
- ↑ Maas, Philipp A. (2006). Samādhipāda. Das erste Kapitel des Pātañjalayogaśāstra zum ersten Mal kritisch ediert [Samādhipāda | The First Chapter of the Pātañjalayogaśāstra for the First Time Critically Edited] (yn Almaeneg). Aachen: Shaker.
- ↑ Āraṇya, Hariharānanda (1983). Yoga Philosophy of Patanjali. State University of New York Press. t. 228 and footnotes. ISBN 978-0873957281.
- ↑ Reninger, Elizabeth (2015). Meditation Now: A Beginner's Guide: 10-Minute Meditations to Restore Calm and Joy Anytime, Anywhere. Callisto Media. ISBN 978-1623154981.
- ↑ Powers, Sarah (2020). Insight Yoga: An Innovative Synthesis of Traditional Yoga, Meditation, and Eastern Approaches to Healing and Well-Being. Shambhala Publications. ISBN 978-0834822429.
- ↑ 6.0 6.1 Ginsburg, Seymour B. (2005). Gurdjieff Unveiled: An Overview and Introduction to Gurdjieff's Teaching. Lighthouse Editions. t. 59. ISBN 978-1-904998-01-3. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "Ginsburg 2005" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ 7.0 7.1 Cushman, Anne (2014). Moving into Meditation. Shambhala. tt. 116–126. ISBN 978-1-61180-098-2. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "Cushman 2014" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ Acott, Ted S.; Cramer, Holger; Krucoff, Carol; Dobos, Gustav (2013). "Adverse Events Associated with Yoga: A Systematic Review of Published Case Reports and Case Series". PLOS ONE 8 (10): e75515. doi:10.1371/journal.pone.0075515. ISSN 1932-6203. PMC 3797727. PMID 24146758. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3797727.
- ↑ Penman, Stephen; Stevens, Philip; Cohen, Marc; Jackson, Sue (2012). "Yoga in Australia: Results of a national survey". International Journal of Yoga 5 (2): 92–101. doi:10.4103/0973-6131.98217. ISSN 0973-6131. PMC 3410203. PMID 22869991. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3410203.
- ↑ Cole, Roger (5 Chwefror 2019) [2007]. "How to Protect the Knees in Lotus and Related Postures". Yoga Journal.