Arthur James Johnes
Arthur James Johnes | |
---|---|
Ganwyd | 4 Chwefror 1809 Garthmyl |
Bu farw | 23 Gorffennaf 1871 Garthmyl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, llenor, cyfieithydd |
Barnwr ac awdur o Gymru oedd Arthur James Johnes (Maelog) (4 Chwefror 1809 – 23 Gorffennaf 1871).[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Johnes yn y Garthmyl, Sir Drefaldwyn yn blentyn i Edward Johnes a Mary (née Davies) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Croesoswallt a Phrifysgol Llundain. Ni fu'n briod.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi ymadael a'r coleg aeth Johnes i Lincoln's Inn gan gael ei alw i'r bar ar 30 Ionawr 1835. Dechreuodd ymarfer y gyfraith fel drafftsmon ecwiti a thrawsgludwr. Pan sefydlwyd y llysoedd sirol ym 1847, daeth Johnes yn farnwr yr ardal a oedd yn cynnwys siroedd gogledd orllewin Cymru a rhai o siroedd y de, gan barhau yn y swydd hyd 1870.[3]
Gyrfa lenyddol
[golygu | golygu cod]Ym 1831 cyhoeddodd Cymdeithas y Cymmrodorion traethawd arobryn Johnes Causes of Dissent in Wales. Rhwng 1834 a 1869 cyhoeddodd lawer o bamffledi yn cefnogi diwygio nifer o agweddau o'r gyfraith megis y gyfraith yn ymwneud â dyledion bychain. Yn 1834 cyhoeddodd gyfieithiadau Saesneg o rhai o gerddi Dafydd ap Gwilym.
Yn y 1830au bu ymgyrch i greu esgobaeth newydd Manceinion (sefydlwyd yn y pendraw ym 1847). Roedd tref Manceinion, a oedd yn rhan o Esgobaeth Caer, wedi tyfu yn aruthrol yn ystod y chwildro diwydiannol. Er mwyn ariannu'r esgobaeth newydd awgrymwyd uno esgobaethau gwledig Bangor a Llanelwy a throsglwyddo cyfoeth un ohonynt i'r esgobaeth newydd. Bu Johnes yn gwrthwynebu'r syniad o uno'r esgobaethau Cymreig a throsglwyddo rhan o'u harian i Loegr.[4] Ym 1841 cyhoeddodd ei wrthwynebiad mewn pamffled dylanwadol Claims of the Welsh dioceses to the funds of the ecclesiastical commissioners, in a letter to Lord John Russell. Ym 1843 cyhoeddodd Philological Proofs of the Original Unity and Recent Origin of the Human Race, llyfr am ddatblygiad ieithoedd.[5]
Roedd yn gyfeillgar efo nifer o offeiriaid llengar Eglwys Loegr megis Walter Davies (Gwallter Mechain) [6], John Jenkins (Ifor Ceri) [7], a Thomas Richards [8], ac yr oedd yn un o hyrwyddwyr a chyfranwr i The Cambrian Quarterly Magazine .
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn y Garthmyl yn 62 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Aberriw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "JOHNES, ARTHUR JAMES (1809 - 1871), barnwr llysoedd sirol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-11.
- ↑ "Johnes, Arthur James [pseud. Maelog] (1809–1871), judge | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/14860. Cyrchwyd 2020-03-11.
- ↑ Williams, Richard (1894). Montgomeryshire worthies - Arthur James Johnes.
- ↑ Thomas, David Richard (1874). A history of the diocese of St. Asaph, general, cathedral, and parochial. London: James Parker.
- ↑ Johnes, Arthur James (2011-02-04). "Philological Proofs of the Original Unity and Recent Origin of the Human Race". www.gutenberg.org. Cyrchwyd 2020-03-11.
- ↑ "DAVIES, WALTER (' Gwallter Mechain'; 1761 - 1849), offeiriad, bardd, hynafiaethydd, a beirniad | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-12.
- ↑ "JENKINS, JOHN ('Ifor Ceri'; 1770 - 1829), clerigwr a hynafiaethydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-12.
- ↑ "RICHARDS, THOMAS (1754-1837), clerigwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-12.