Arena Pula
Pula Arena | |
---|---|
Lleoliad | Pula, Croatia |
Math | Amffitheatr Rhufeinig |
Hanes | |
Sefydlwyd | 27 CC - 68 ÔC |
Cyfnodau | Yr Ymerodraeth Rufeinig |
Amffitheatr Rufeinig ydy Pula Arena, wedi'i lleoli yng nghanol Pula, Croatia. Dyma'r unig amffitheatr sydd wedi goroesi'r blynyddoedd gyda phedwar tŵr a llawer o nodweddion Rhufeinig mewn cyflwr mor dda. Fe'i codwyd yn 27 CC - 68 ÔC[1] ac mae ymhlith y 7 arena fwyaf sydd wedi goroesi drwy'r byd.[1] Mae'n esiampl brin ymhlith y 200 amffitheatr a ellir eu gweld heddiw, a dyma'r gorau yng Nghroatia.
Ceir llun o'r Arena ar gefn papur 10 Kuna Croatiaidd a welodd olau dydd yn 1993, 1995, 2001 a 2004.[2] Mae'r Arena yn parhau i gael ei ddefnyddio yn aml ar gyfer cyngherddau, gyda llwyfan a chadeiriau yn cael eu gosod tu fewn iddo.
Adeiladu
[golygu | golygu cod]Calchfaen yw'r muriau, ac mae tri llawr i'r rhannau hynny sy'n wynebu'r môr a dau ar y gweddill. Codwyd yr Arena ar lethr ac mae'r waliau'n 29.4 metr ar eu huchaf. Mae gan y ddau lawr cyntaf 72 bwa yr un, gyda 64 agoriad petryal ar y llawr uchaf.
Mae echelin yr amffitheatr siâp ofal yma yn 132.45 and 105.10 m (434.5 and 344.8 tr) o ran hyd, a'r waliau'n 32.45 m (106.5 tr) mewn uchder. Yn ei hamser gallai gynnwys 2,000 o wylwyr yn y cavea, oedd a 40 o risiau wedi'u rhannu'n ddau meniani. Mae'r seddau wedi'u lleoli'n uniongyrchol ar y llawr serth. Mae'r maes lle roedd y chwarae'n digwydd (y gwir arena) yn mesur 67.95 by 41.65 m (222.9 by 136.6 tr). Yn gwahanu'r maes hwn a'r gynulleidfa roedd gatiau haearn cryf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Kristina Džin: 2009, Tud 7
- ↑ Banc Cenedlaethol Croatia. Features of Kuna Banknotes Archifwyd 2009-05-06 yn y Peiriant Wayback: 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback (1993), 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback (1995), 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback (2001) & 10 kuna Archifwyd 2011-06-04 yn y Peiriant Wayback (2004). – Adalwyd 30 Mawrth 2009.