Anatomeg ddynol
Enghraifft o'r canlynol | cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Rhan o | mammal anatomy, meddygaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr astudiaeth wyddonol o forffoleg y corff (ffurf, siap a golwg organau a ffurfiannau eraill) y corff dynol ydy anatomeg ddynol (hefyd anatomi dynol). Mae dwy ran iddi:
- anatomeg topograffig: yr astudiaeth o strwythurau y gellir eu gweld gyda'r llygad noeth;
- anatomeg microscopig: yr astudiaeth o strwythurau'r corff gyda chymorth microsgop ac offer tebyg.
Mae anatomeg dynol hefyd yn un o'r dair astudiaeth sy'n ffurfio meddygaeth; y ddwy ran arall ydy: anatomeg ffisiolegol (sut mae'r corff yn gweithio) ac yn symud a biocemeg, sef yr astudiaeth gemegol o'r corff.
Mae gan y corff dynol systemau biolegol (gweler isod) sy'n cynnwys organau wedi'u gwneud o feinwe, sydd yn ei dro yn cynnwys celloedd a meinwe cysylltiol.
Mae'r asudiaeth o'r corff dynol wedi carlamu ymlaen oherwydd technoleg yn ystod y ganrif ddiwethaf, gan ymestyn hyd bywyd dyn.
Astudio'r corff dynol
[golygu | golygu cod]Mae'r gweithwyr canlynol i gyd wedi astudio, ac yn parhau i astudio anatomeg ddynol: deintyddion, geinecolegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys, parafeddygon, radiograffyddion a meddygon drwy gymorth diagramau, llyfrau, gwefannau, ysgerbydau, modelau, cyrff marw, lluniau, darlithoedd ayb. Gellir astudio anatomi'r corff mewn (o leiaf) dwy ffordd:
- o ran lleoliad;
- o ran pwrpas.
Oherwydd dylanwad Gray's Anatomy, fel arfer rydym yn dosbarthu yn ôl lleoliad.
Dosbarthu yn ôl lleoliad
[golygu | golygu cod]- Y pen a gwddf — gan gynnwys popeth uwchben y thoracs
- Y breichiau — gan gynnwys y llaw, yr arddwn, y penelin, y fraich, a'r ysgwydd.
- Y thoracs — ynghyd â diaffram y thoracs.
- O'r abdomen i dop y pelfis.
- Y cefn — gan gynnwys yr asgwrn cefn a'i wahanol rannau, y fertibrae, y sacrwm, a cwtyn y cynffon (neu 'cocsycs').
- Y pelfis — ynghyd â'r arffed, mons Venus a'r perinewm.
- Y coesau — gan gynnwys y glun, y pen-glin, croth y goes, y figwrn ac ar y gwaelod un — y droed.
Systemau'r corff dynol
[golygu | golygu cod]Beth yw pwrpas y gwahanol rannau a sut maen nhw'n cysylltu a chydweithio gyda'i gilydd? Dyma ddull arall o ddosbarthu'r corff i wahanol gategoriau.
- Y system atgenhedlu: yr organau rhyw megis yr ofari, y tiwbiau ffalopian, yr iwterws, y wain, y chwarennau llaeth, llinyn y bogail, y ceilliau, vas deferens, y prostrad a'r pidyn.
- Y system cyhyrau: (a'r system symud isod) sy'n cynnwys angori'r gewynnau gwahanol a'r cartilag yn sownd i esgyrn, gan eu henwi a disgrifio eu pwrpas, eu ffurf a'r modd y cânt eu creu a'u rhoi at ei gilydd i symud yr ysgerbwd.
- Y system gylchredol: sy'n ymwneud â phwmpio a sianelu gwaed o amgylch y corff (a'r ysgyfaint) drwy rym y galon a hynny drwy wythiennau a rhydwelïau.
- Y system endocrin: sy'n gyfrifol am y cyfathrebu rhwng gwahanol rannau o'r corff drwy gyfrwng hormonau wedi'u cynhyrchu yn y chwarennau endocrin megis yr hypothalamws, y chwarren bitwidol ("pituitary gland"), y corffyn pineol, y thyroid, y chwarennau y parathyroid, y chwarennau adrenal, yr ofari a'r pidyn.
- Y system nerfol: system o gasglu, trosglwyddo ac o brosesu gwybodaeth yn yr ymennydd, yr asgwn cefn, y nerfau ymylol a'r nerfau eu hunain. Un o'i brif is-system yw system y synhwyrau.
- Y system resbiradu: sef yr organau a ddefnyddir i anadlu, y ffaryncs (neu'r "uwchlwnc"), y tracea, y bronci, yr ysgyfaint a'r diaffram thorasig.
- Y system iwrein: gan gynnwys yr afu, yr iwreter, y bledren a'r iwrethra a ddefnyddir i symud hylif, ac i gadw balans yr hylif yn y corff, ac i'w ysgarthu allan o'r corff.
- Y system symud: (ar y cyd gyda'r system cyhyrau — gweler uchod) sy'n symud yr esgyrn a'r ysgerbwd sy'n cynnal ffrâm y corff, ynghyd â'r cartilag, y gewynnau a'r tendonau.
- Y system dreulio: treulio a phrosesu'r bwyd drwy organau megis y geg, y ffaryncs, y chwarennau glafoer, yr oesoffagws, y stumog, y cefndenyn, yr iau (afu), y bledren, y pancreas, y goden fustl, y coluddion, y dwodenwm, y coluddyn dall, y rectwm a'r anws.
- Y system imiwnedd: dyma'r system sy'n amddiffyn y corff rhag clefydau drwy adnabod a lladd pathogenau a chelloedd tiwmor.
- Y system bilynol (Sa: "Integumentary system"): croen, gwallt ac ewinedd.
- Y system lymffatig: strwythurau sy'n delio â throsglwyddo'r lymph rhwng meinweoedd a thrwy'r gwaed a'r lymph eu hunain, nodau lymff a thiwbiau lymff sy'n ei gludo. Mae hyn hefyd yn cynnwys y system imiwnedd ac amddiffyn rhag clefydau drwy gyfrwng y lwcosets (Sa: "leukocytes"), y tonsiliau, yr adenoids, y thymws a'r boten (Sa: "spleen").
Anatomi gweledol
[golygu | golygu cod]Weithiau rydym yn dosbarthu yn ôl yr hyn y gallwn ei weld gyda'r llygad; mae hyn yn gymorth i ddarganfod lleoliad rhannau llai, mewnol.
- anws
- abdomen
- arffed
- botwm bol
- braich
- bron
- bys
- cedor
- cefn
- ceilliau
- ceg
- clust
- coes
- croen
- cymal
- dannedd
- ffolen ("bochau tin")
- gwallt
- gwddf
- hollt Gwener
- llaw
- llygad
- mons Veneris
- organau cenhedlu
- idyn
- sawdl
- afod
- troed
- wyneb
Yr organau mewnol
[golygu | golygu cod]Dyma enwau'r prif organau (yn nhrefn yr Wyddor):
- yr arennau
- y bledren
- croth y goes
- y ceilliau
- y coluddion
- cwlwm y coledd ("apendics")
- y chwaren bitwidol
- y chwarennau adrenal
- y galon
- y goden fustl
- y gwythiennau
- afu / yr iau
- yr iwterws
- y llygaid
- yr oesoffagws
- yr ofaris
- y pancreas
- y parathyroid
- y prostrat
- y stumog
- y thymws
- thyroid
- yr ymennydd
- yr ysgyfaint