4chan
Gwefan ddelweddfwrdd Saesneg yw 4chan. Lansiwyd ar 1 Hydref 2003, a defnyddir ei byrddau yn bennaf ar gyfer postio lluniau a thrafodaeth o manga ac anime. Yn gyffredinol mae defnyddwyr yn postio'n ddienw a chysylltir y wefan at isddiwylliannau a gweithredaeth, yn enwocaf Project Chanology.
Defnyddwyr 4chan sydd yn gyfrifol am greu neu boblogeiddio nifer o memes y rhyngrwyd megis lolcats, Rickrolling, "Chocolate Rain", a "Pedobear". Bwrdd "Random" (Ar Hap) y wefan yw ei nodwedd fwyaf poblogaidd a drwg-enwog. Fe'i elwir yn "/b/", a phrin yw'r rheolau ar gynnwys ei physt. Yn aml mae cymuned a diwylliant Anonymous y wefan wedi peri sylw'r cyfryngau. Disgrifiodd The Guardian cymuned 4chan yn gryno gan ddweud ei bod yn "wallgof, anaeddfed... gwych, chwerthinllyd a dychrynllyd."
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Hafan 4chan
- (Saesneg) Tudalen Twitter swyddogol 4chan
- (Saesneg) Archif o edafedd dethol 4chan[dolen farw]