Valle d'Aosta
Math | rhanbarth ymreolaethol gan statud arbennig, Q3622070 |
---|---|
Prifddinas | Aosta |
Poblogaeth | 125,666 |
Pennaeth llywodraeth | Erik Lavévaz |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg, Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd yr Eidal |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 3,263.22 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 951 metr |
Yn ffinio gyda | Valais, Piemonte, Rhône-Alpes, Haute-Savoie, Savoie, Talaith Biella, Talaith Vercelli, Talaith Torino, Auvergne-Rhône-Alpes |
Cyfesurynnau | 45.72°N 7.37°E |
Cod post | 11100, 11010–11029 |
IT-23 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Valle d'Aosta |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Valle d'Aosta |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Valle d'Aosta |
Pennaeth y Llywodraeth | Erik Lavévaz |
Rhanbarth a thalaith yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Valle d'Aosta (Ffrangeg: Vallée-d'Aoste neu Val-d'Aoste). Aosta yw'r brifddinas.
Saif Valle d'Aosta yn yr Alpau, ac mae'n cynnwys Mont Blanc a'r Matterhorn, y ddau ar y ffin. Mae'n ffinio ar Ffrainc yn y gorllewin, y Swistir yn y gogledd a rhanbarth Piemonte yn y de a'r dwyrain. Valle d'Aosta yw'r lleiaf o rhanbarthau'r Eidal o ran poblogaeth, a'r unig un nad yw wedi ei rannu'n daleithiau. Siaredir Ffrangeg gan gyfran o'r boblogaeth, ac mae'r Ffrangeg yn gyd-iaith swyddogol y rhanbarth gydag Eidaleg. Siaredir tafodiiaith o Almaeneg mewn rhai rhannau hefyd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 126,806.[1]
Ers i dalaith Aosta gael ei diddymu ym 1945, nid yw rhanbarth Valle d'Aosta wedi'i rannu'n daleithiau. Darperir swyddogaethau gweinyddol taleithiol gan y llywodraeth ranbarthol. Rhennir y rhanbarth yn 74 cymuned.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 22 Rhagfyr 2020
|