Neidio i'r cynnwys

Pentrebach

Oddi ar Wicipedia
Pentrebach
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMerthyr Tudful Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7256°N 3.3567°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO064035 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDawn Bowden (Llafur)
AS/au y DUGerald Jones (Llafur)
Map

Pentref yng nghymuned Troed-y-rhiw, bwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Pentrebach[1] neu Pentre-bach.[2] Saif yn rhan ddeheuol y sir, i'r de o ganol tref Merthyr Tudful, yr ochr arall o Afon Taf i bentref Abercannaid ac i'r gogledd o bentref Troed-y-rhiw. I'r dwyrain o'r pentref mae Mynydd Cilfach-yr-Encil (445 m.).

Tyfodd y pentref wedi i John Guest sefydlu Gwaith Haearn Plymouth yn 1763 (262 mlynedd yn ôl). Roedd rheilffordd wreiddiol Trevethick, a adeiladwyd yn 1804, yn arwain trwy'r pentref ar ei ffordd rhwng Penydarren ac Abercynon. Mae twnnel yn dal i'w weld yma. Agorwyd Glofa South Duffryn yn 1862.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 13 Medi 2019
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-24.
  4. Gwefan Senedd y DU