Herwgipio merched ysgol Chibok, 2014
Rhieni'r merched a herwgipiwyd | |
Dyddiad | 15 Ebrill 2014 |
---|---|
Cyfesurynnau | 10°51′57″N 12°50′49″E / 10.865833°N 12.846944°E |
Canlyniad | 276 o fyfyrwyr benywaidd wedi'u cipio gan wrthryfelwyr terfysgaidd islamaidd |
Ar goll | 219 |
Drwgdybir | Boko Haram |
Fin nos y 14–15 Ebrill 2014, herwgipiwyd 276 o ferched ifanc o ysgol uwchradd y wladwriaeth yn nhref Chibok, Nigeria.[1] Derbyniodd y grŵp Islamiaethol Boko Haram y cyfrifoldeb am y weithred; mae'r grŵp wedi'i sefydlu yng ngogledd-ddwyrain y wlad.
Ystyr yr enw Hausa 'Boko Haram' yw "Mae addysg Orllewinol yn bechod". Mae Boko Haram wedi targedu ysgolion ers 2010, gan ladd cannoedd o ddisgyblion. Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp y byddent yn parhau i weithredu fel hyn, hyd nes y rhydd Llywodraeth Nigeria'r gorau i "ymyrryd gyda hawl pobl i dderbyn addysg Islamaidd, draddodiadol". Oherwydd yr ymgyrch hon gan y terfysgwyr mae o leiaf 10,000 o bobl ifanc heb dderbyn addysg dros y blynyddoedd diwethaf.[2] Cred y terfysgwyr hefyd mai dim ond bechgyn ddylai dderbyn addysg, ac mai lle'r ferch yw bod adref yn coginio ac yn cael cyfathrach rywiol.[3]
Dwyshaodd yr ymosodiadau yn 2014. Yn Chwefror lladdwyd dros 100 o Gristnogion (dynion) ym mhentrefi Doron Baga a Izghe,[4] a lladdwyd 59 o fechgyn mewn coleg preswyl yng ngogledd-ddwyrain y wlad.[5] Ym mis Mawrth ymosodwyd ar wersyll milwrol Giwa gan ryddhau nifer o'u cyd-derfysgwyr, a lladdwyd 88.[4][6] Yn 2014, credid fod Boko Haram wedi lladd cyfanswm o 4,000 o bobl,[4] a'u bod yn derbyn hyfforddiant gan gangen o al-Qaeda,[7] sef Cyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb Islamaidd.
Adwaith cartref
[golygu | golygu cod]Hyd at Ebrill 2015, doedd awdurdodau Nigeria ddim yn gwybod ym mhle roedd y merched yn cael eu cadw. Credir eu bod wedi eu gorfodi i droi i grefydd Islam,[8] neu i briodi aelodau o Boko Haram, gyda "phris" amdanynt o oddeutu ₦2,000 y pen ($12.50/£7.50).
Cafwyd hyd i ddwy ferch ar y 30ain o Fai yn ardal Baale, y ddwy mewn cyflwr eitha truenus ac wedi'u clymu i goeden.[9][10] Dywedodd y pentrefwyr lleol i aelodau o Boko Haram adael y merched ac iddynt ladd 4 arall. Yn Ebrill 2015 roedd 223 yn dal ar goll.[10] Ers hynny mae nifer o'r merched wedi'u canfod, ond y rhan fwyaf yn parhau ar goll.
Adwaith rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Mae'r ffaith na chafwyd hyd i'r merched wedi achosi protestiadau a beirniadaeth ryngwladol reit llym. Ar 29 Mai dywedodd un o gynrychiolwyr byddin y wlad fod y gwasanaethau diogelwch wedi darganfod y merched a herwigipiwyd ond y byddai ceisio eu hachub yn golygu y byddai llawer iawn ohonynt a sifiliaid eraill yn marw.[11]
Mae cymorth wedi'i gynnig gan nifer o wledydd gan gynnwys Iran, Ffrainc, y Deyrnas Gyfunol, Unol Daleithiau America, Tsieina a Chanada. Pasiodd yr Undeb Ewropeaidd gynnig ar 17 Gorffennaf 2014, yn "galw am ryddhau'r merched ar unwaith."[12]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Nigeria says 219 girls in Boko Haram kidnapping still missing". Fox News. 26 June 2014. Cyrchwyd 30 June 2014.
- ↑ McElroy, Damien (6 July 2013). "Extremist attack in Nigeria kills 42 at boarding school". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 3 Hydref 2013.
- ↑ Aronson, Samuel (28 Ebrill 2014). "AQIM and Boko Haram Threats to Western Interests in the Africa's Sahel". Combating Terrorism Center Sentinel (CTC), West Point. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-13. Cyrchwyd 2015-05-01.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Dorell, Oren (21 April 2014). "Terrorists kidnap more than 200 Nigerian girls". USA Today. Cyrchwyd 23 April 2014.
- ↑ "Boko Haram kills 59 children at Nigerian boarding school". The Guardian. 25 Chwefror 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-26. Cyrchwyd 6 Mawrth 2014.
- ↑ Perkins, Anne (23 Ebrill 2014). "200 girls are missing in Nigeria – so why doesn't anybody care?". The Guardian. Cyrchwyd 23 Ebrill 2014.
- ↑ Abubakar, Aminu; Levs, Josh (5 May 2014). "'I will sell them,' Boko Haram leader says of kidnapped Nigerian girls". CNN. Cyrchwyd 5 May 2014.
- ↑ Howard LaFranchi (5 Mai 2014). "What role for US in efforts to rescue Nigeria's kidnapped girls?". CSMonitor. Cyrchwyd 9 Mai 2014.
- ↑ #BringBackOurGirls: Two Chibok Girls Raped And Left To Die In Sambisa Forest By Boko Haram. Archifwyd 2015-01-29 yn y Peiriant Wayback The Paradigm; 19 Mai 2014.
- ↑ 10.0 10.1 Grill, Bartholomaus and Selander, Toby (30 Mai 2014) The Devil in Nigeria: Boko Haram's Reign of Terror Der Spiegel English edition, Adalwyd 1 Mehefin 2014
- ↑ "Nigeria army 'knows where Boko Haram are holding girls'". BBC News. 26 Mai 2014. Cyrchwyd 27 May 2014.
- ↑ "European Parliament calls for immediate and unconditional release of Chibok girls". News Africa. 17 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-26. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2014.