Gwynedd
Arwyddair | Cadernid Gwynedd |
---|---|
Math | prif ardal |
Prifddinas | Caernarfon |
Poblogaeth | 124,560 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,534.9252 km² |
Gerllaw | Bae Caernarfon, Sianel San Siôr, Bae Ceredigion |
Yn ffinio gyda | Ynys Môn, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Powys |
Cyfesurynnau | 52.8333°N 3.9167°W |
Cod SYG | W06000002 |
GB-GWN | |
- Mae'r erthygl yma am sir Gwynedd. Am y deyrnas ganoloesol gweler Teyrnas Gwynedd. Gweler hefyd Gwynedd (gwahaniaethu).
Sir yng ngogledd-orllewin Cymru yw Gwynedd. Mae'n ffinio â Sir Conwy i'r dwyrain a gogledd, a Phowys a Cheredigion i'r de. Gwynedd yw y sir sydd â'r gyfartaledd uchaf o'i phoblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae'r prif drefi yn cynnwys dinas Bangor, Caernarfon, Dolgellau, Harlech, Blaenau Ffestiniog, Y Bala, Porthmadog, Pwllheli, Bethesda a Llanberis. Lleolir Prifysgol Bangor yn y sir. Plaid Cymru sydd wedi rheoli'r cyngor ers ei sefydlu yn 1995.
Tarddiad yr enw
[golygu | golygu cod]Yn y gorffennol tybiodd haneswyr megis J. E. Lloyd taw tarddiad Celtaidd y gair "Gwynedd" oedd "casgliad o lwythau" – yr un gwraidd â'r Wyddeleg fine, sef llwyth.[1] Bellach, cydnabyddir cysylltiad rhwng yr enw â'r Wyddeleg Féni, sef un o enwau cynnar y Gwyddelod arnynt eu hunain, sy'n perthyn i fían, "mintai o ŵyr yn hela a rhyfela, mintai o ryfelwyr dan arweinydd". Efallai *u̯en-, u̯enə (ymdrechu, dymuno, hoffi) yw'r bôn Indo-Ewropeg.[2] Ymsefydlodd Gwyddelod yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn Nyfed, ar ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid. Venedotia oedd y ffurf Ladin, ac ym Mhenmachno mae carreg goffa o tua'r flwyddyn 500 sy'n darllen Cantiori Hic Iacit Venedotis ("Yma y gorwedd Cantiorix, dinesydd o Wynedd").[1] Cedwid yr enw gan y Brythoniaid pan ffurfiwyd Teyrnas Gwynedd yn y 5g, a barhaodd hyd oresgyniad Edward I. Adferwyd yr enw hanesyddol hwn pan ffurfiwyd y sir newydd ym 1974.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd yr hen sir Gwynedd (1974–1996) yn cyfateb yn fras i Gwynedd Uwch Conwy, prif diriogaeth Teyrnas Gwynedd. Roedd yn cynnwys rhan orllewinol Sir Conwy, yn cynnwys y Creuddyn, ac Ynys Môn, sef yr hen Sir Gaernarfon, Sir Fôn a Sir Feirionnydd. Mae'r hen sir yn bodoli o hyd fel un o "siroedd cadwedig" Cymru at bwrpasau seremonïol.
-
Gwynedd 1974–96
-
Gwynedd heddiw
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Economi
[golygu | golygu cod]Ceir economi cymysg yn y sir. Mae rhan bwysig o'r economi yn seiliedig ar dwristiaeth gyda nifer o ymwelwyr yn cael eu denu gan y traethau niferus a'r mynyddoedd. Gorwedd rhan sylweddol o'r sir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sy'n ymestyn o arfordir y gogledd i lawr i ardal Meirionnydd yn y de ac yn llawer ehangach na'r Eryri go iawn. Ond gwaith tymhorol yw twristiaeth ac mae hynny'n golygu diffyg gwaith yn y gaeaf. Problem arall gyda thwristiaeth yw'r alwad a greir am dai haf. Mae hyn yn gwthio prisiau tai i fyny allan o gyrraedd pobl leol ac yn effeithio ar sefyllfa'r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd gwledig.
Mae amaethyddiaeth yn llai pwysig nag yn y gorffennol, yn enwedig yn nhermau y nifer o bobl sy'n ennill eu bywiolaeth o'r tir, ond mae'n aros yn elfen bwysig.
Y pwysicaf o'r diwydiannau traddodiadol yw'r diwydiant llechi, ond canran isel o weithwyr sy'n ennill eu bywoliaeth yn y chwareli erbyn heddiw.
Mae diwydiannau sydd wedi datblygu yn fwy diweddar yn cynnwys stiwdios teledu a sain (lleolir pencadlys Cwmni Recordiau Sain yn y sir). Ceir dau atomfa yng Ngwynedd: mae atomfa Trawsfynydd wedi cau ond ar hyn o bryd mae atomfa Wylfa yn dal i redeg.
Mae'r sector addysg yn bwysig iawn i'r economi lleol hefyd. Lleolir Prifysgol Bangor yma a cheir sawl coleg arall fel Coleg Menai hefyd.
Prif drefi
[golygu | golygu cod]- Abermaw neu Y Bermo
- Y Bala
- Bangor
- Bethesda
- Blaenau Ffestiniog
- Caernarfon
- Cricieth
- Dolgellau
- Harlech
- Nefyn
- Porthmadog
- Pwllheli
- Tywyn
Cymunedau
[golygu | golygu cod]Ar gyfer llywodraeth leol ceir sawl cymuned yng Ngwynedd. Mae nifer o'r rhain gyda'i chynghorau eu hunain.
Cestyll
[golygu | golygu cod]- Castell Caernarfon
- Castell Cricieth
- Castell Dolbadarn
- Castell Dolwyddelan
- Castell Harlech
- Castell y Bere
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Crëyr, Afon Glaslyn, Porthmadog
-
Machlud, Llandanwg
-
Gorsaf reilffordd Clogwyn, Rheilffordd Yr Wyddfa
-
Machlud, Porth Neigwl
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cestyll Gwynedd (1985), llyfr
- Rhestr o hynafiaethau Gwynedd
- Teyrnas Gwynedd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Bedwyr Lewis Jones, Enwau (Llyfrau Llafar Gwlad) (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t. 5–6
- ↑ Gwynedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr
|