Goleddf Rimutaka
![]() | |
Math | llinell rheilffordd ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1878 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | New Zealand Railways Department ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 41.152772°S 175.19545°E ![]() |
Rheolir gan | New Zealand Railways Department ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | New Zealand Railways Department ![]() |



Roedd Goleddf Rimutaka yn rhan o'r rheilffordd rhwng Wellington a Featherston ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd, tair milltir o hyd rhwng Gorsaf reilffordd Summit a Gorsaf reilffordd Cross Creek, ar raddiant 1:15. Roedd y rheilffordd yn un o 3 i ddefnyddio'r System 'Fell'; roedd un ym Mrasil ac yr un arall ar Fynydd Snaefell ar Ynys Manaw. Defnyddiwyd y System Fell gan sawl rheilffordd arall, ond dim ond fel system brecio.
Mewn mathemateg, mae goledd neu raddiant llinell yn rhif sy'n disgrifio cyfeiriad a pa mor serth yw'r linell neu'r allt. Mewn daearyddiaeth, mae'n berthnasol i ffyrdd a rheilffyrdd.
Disodlwyd y goleddf gan dwnnel ar 3 Tachwedd 1955. Defnyddir cwrs yr hen reilffordd fel llwybr cerdded, y Rimutaka Rail Trail, erbyn hyn. Mae ymddiriodolath dreftadaeth yn gobeithio ail-agor y lein.
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorwyd y goleddf ar 12 Hydref 1878. Adeiladwyd 4 locomotif Fell gan Gwmni Avonside ym 1875 a dau arall gan Gwmni Neilson ym 1886. Adeiladwyd 6 cerbyd diesel ar gyfer teithwyr yng Ngweithdai Hutt yn 1936.[1]