Faunula Grustensis
Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | John Williams |
Cyhoeddwr | John Jones |
Dyddiad cyhoeddi | 1830 |
Lleoliad cyhoeddi | Llanrwst |
Prif bwnc | gwyddoniaeth naturiol, Dyffryn Conwy |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Llyfr ar fyd natur gan John Williams yw Faunula Grustensis, a gyhoeddwyd yn Llanrwst yn 1830. Ystyr lythrennol y teitl Lladin yw "Planhigion ac anifeiliaid Crwstaidd", sef "Byd natur ardal Llanrwst".[1]
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Mae'r Faunula Grustensis yn llyfr gwyddonol ar gyfer lleygwyr er mwyn iddynt allu dysgu am fyd natur a sut i gofnodi'r hyn y maent yn eu darganfod. Mae'r llyfr yn trafod yr anifeiliaid a'r planhigion y darganfu'r awdur yn ardal Llanrwst, ond roedd ei apêl yn ehangach na'r fro ei hun; gobaith yr awdur oedd y byddai darllenwyr trwy Gymru yn creu cofnodion cyffelyb ar gyfer eu hardaloedd hwy. Yn ogystal â nodi sut i greu cofnodion ysgrifenedig mae'r llyfr hefyd yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i gadw samplau o fyd natur trwy egluro sut i flingo a stwffio anifeiliaid a sychu planhigion.[1]
Yn ogystal, mae'r llyfr yn cynnwys gwybodaeth am rai o'r afiechydon mwyaf cyffredin yn Nyffryn Conwy a chynghorion y meddyg ar y moddion gorau i'w trin nhw. Mae'n trafod cyflwr masnach ac amaethyddiaeth y fro gan resynu at ddiffyg mentergarwch y trigolion yn eu defnydd o'r cynnyrch naturiol; ymysg pethau eraill mae'n awgrymu tyfu afalau yn yr ardal ac agor bragdy er mwyn cynhyrchu seidr i'w werthu yn Lloegr, tyfu cnydau tybaco, agor ffatri sebon i greu sebon o wymon y môr a phuro halen o ddŵr yr arfordir ger Llandudno.[1]
Gwerth mwyaf y llyfr efallai yw ei restrau o enwau anifeiliaid a phlanhigion tair ieithol yn y Lladin, y Saesneg a'r Gymraeg a fu (yn ôl y diweddar Thomas Shankland, Llyfrgellydd Prifysgol Cymru Bangor) yn foddion i gadw rhai o'r enwau Cymraeg hynny yn fyw.[2]
Cyhoeddwyd argraffiad newydd o'r llyfr yn 2019 wedi'i olygu gan John Edmondson[3], gynt o'r Ardd Fontanegol Frenhinol yng Nghaeredin. Yn ogystal â chopi verbatim o'r testun gwreiddiol, ceir bywgraffiad o'r awdur, arolwg o'r llenyddiaeth gynnar sy'n trafod hanes naturiol yr ardal, rhestrau o enwau'r rhywogaethau a llyfryddiaeth.
Cyhoeddwr
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd y Faunula Grustensis gan yr argraffydd lleol John Jones, Llanrwst (1786-1865), ŵyr yr argraffydd arloesol Dafydd Jones o Drefriw. Roedd yn un o sawl llyfr a argraffwyd ganddo ar y wasg argraffu a adeiladwyd ganddo ei hunan; mae'r llyfrau unigryw hynny yn cynnwys y llyfrau Cymraeg lleiaf a argraffwyd erioed.[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Carey Jones, Y Llanc o Lan Conwy. Gwasg Gee, 1990.
- ↑ Llawysgrifau Thomas Shankland, Adran Archifau Prifysgol Bangor.
- ↑ John Edmondson (gol.), John Williams, Faunula Grustensis, the Natural History of the Parish of Llanrwst. Cambridge Scholars Press, 2019.
- ↑ Gerald Morgan, Y Dyn a Wnaeth Argraff (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1982).