Disgybl-athro
Enghraifft o: | rôl |
---|
Roedd y system disgybl athro yn rhaglen hyfforddi a ddefnyddid yn eang cyn yr ugeinfed ganrif, fel system prentis i baratoi athrawon. Gyda dyfodiad addysg cyffredinol ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynyddodd y galw am athrawon. Erbyn 1840, daeth yn amlwg bod paratoadau academaidd myfyrwyr ar gyfer hyfforddiant athrawon mewn system golegau yn annigonol. Ym 1846, ffurfiolodd Llywodraeth Prydain system disgybl-athro, gan ganolbwyntio ar hyfforddi athrawon, lle bu disgyblion hŷn o leiaf dair ar ddeg oed yn gwasanaethu fel prentisiaid, am bum mlynedd fel arfer, i ddysgu bod yn athrawesau neu'n athrawon awdurdodedig. Roedd disgybl-athrawon yn gweithredu fel athrawon plant iau, gan ddysgu o arsylwi a chymhwyso ymarferol, tra'n cwblhau eu haddysg eu hunain ar yr un pryd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Teacher training in England and Wales - Past, Present and Future Perspectives" (PDF). 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-07. Cyrchwyd 2022-12-23.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)