Dinas Lwcsembwrg
![]() | |
![]() | |
Math | bwrdeistref Lwcsembwrg, dinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf, prifddinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 136,208 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Lydie Polfer ![]() |
Cylchfa amser | CET, UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Prag, Camden, Metz ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Canton Lwcsembwrg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 51.46 km² ![]() |
Uwch y môr | 146 metr ![]() |
Gerllaw | Alzette, Pétrusse, Zéissengerbaach, Q25584407, Drosbach ![]() |
Yn ffinio gyda | Walferdange, Steinsel, Niederanven, Sandweiler, Hesper, Roeser, Leudelange, Bertrange, Strassen, Kopstal ![]() |
Cyfesurynnau | 49.6106°N 6.1328°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor cymunedol Lwcsembwrg ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Luxembourg ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Lydie Polfer ![]() |
![]() | |
Prifddinas Archddugiaeth Lwcsembwrg yw Dinas Lwcsembwrg (Lwcsembwrgeg: Stad Lëtzebuerg; Ffrangeg: Ville de Luxembourg, Almaeneg: Luxemburg Stadt). Lleolir y ddinas wrth gyfaber afonydd Alzette a Pétrusse, yn Ne Lwcsembwrg, ac mae'n cynnwys Castell Lwcsembwrg, castell hanesyddol a sefydlwyd gan y Ffrancod yn gynnar yn yr Oesoedd Canol; tyfodd y ddinas o'i gwmpas.
Yn 2010, roedd poblogaeth Dinas Lwcsembwrg yn 100,000, sef tua theirgwaith mwy na'r commune' (cymuned) ail boblog yn y wlad. Y boblogaeth ddinasol, gyda communes Hesperange, Sandweiler, Strassen a Walferdange yw 103,973. Lleolir Dinas Lwcsembwrg yng nghanol Gorllewin Ewrop, 117 milltir o ddinas Brwsel, 179 milltir o Baris a 118 milltir o Cwlen.
Un o'r dinasoedd cyfoethocaf yn y byd yw Dinas Lwcsembwrg, am ei bod yn ganolfan bancio a gweinyddiaeth. Mae Dinas Lwcsembwrg wedi croesawu amryw o sefydliadau yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft Llys Cyfiawnder Ewrop, Llys Archwilwyr Ewropeaidd a'r Banc Buddsoddiadau Ewropeaidd.