Che Guevara
Che Guevara | |
---|---|
![]() Llun gymerwyd gan Alberto Korda ar 5 Mawrth 1960, yng ngwasanaeth goffa Coubre | |
Ffugenw | Che Guevara, Pelado, Teté, Furibundo Serna, Fuser, Chancho, Chang-Cho, Luís Hernández Gálvez, Tatu, Adolfo Mena González, Ramón, Fernando Sacamuelas ![]() |
Ganwyd | Ernesto Guevara ![]() 14 Mehefin 1928 ![]() Rosario ![]() |
Bu farw | 9 Hydref 1967 ![]() o anaf balistig ![]() La Higuera ![]() |
Man preswyl | yr Ariannin, Ciwba, Bolifia, Gwatemala, Mecsico ![]() |
Dinasyddiaeth | Ciwba, yr Ariannin ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, meddyg, bardd, diplomydd, awdur ysgrifau, chwyldroadwr, partisan, person milwrol, llenor, gohebydd gyda'i farn annibynnol ![]() |
Swydd | Minister of Industry of Cuba ![]() |
Adnabyddus am | Guerrilla Warfare, The Bolivian diary ![]() |
Prif ddylanwad | Karl Marx, Mao Zedong, Vladimir Lenin ![]() |
Taldra | 176 centimetr ![]() |
Plaid Wleidyddol | Communist Party of Cuba ![]() |
Tad | Ernesto Guevara Lynch ![]() |
Mam | Celia de la Serna ![]() |
Priod | Hilda Gadea, Aleida March ![]() |
Partner | María del Carmen ''Chichina'' Ferreyra ![]() |
Plant | Aleida Guevara ![]() |
Gwobr/au | Coler Urdd y Llew Gwyn, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, Order of the Republic, Urdd y Llew Gwyn, Urdd Croes y De, Order of Augusto César Sandino ![]() |
Chwaraeon | |
llofnod | |
![]() |
Chwyldroadwr o'r Ariannin oedd Ernesto Guevara (14 Mai 1928 – 9 Hydref 1967) a chwareuodd ran allweddol yn chwyldro Ciwba.
Ei fywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Meddyg oedd Che o ran ei broffesiwn. Yn ddyn ifanc rhoddodd ei waith ei fyny a theithiodd yr holl ffordd trwy dde a chanolbarth America ar fotorbeic. Roedd y daith honno i newid ei fywyd. Bu'n llygad-dyst i dlodi ac anghyfiawnder ar raddfa eang a phenderfynodd fod rhaid newid hynny. Ym Mecsico syrthiodd i mewn gyda chriw o Giwbanwyr alltud a ddyheai weld chwyldro yn Ciwba. Un ohonynt oedd Fidel Castro.
Y chwyldroadwr
[golygu | golygu cod]Roedd Che yn aelod o Fudiad 26ain o Orffennaf dan arweiniad Fidel Castro a gipiodd awdurdod yn Ciwba yn 1959 ar ôl disodlu llywodraeth Batista. Gwasanaethodd mewn nifer o swyddi yn y llywodraeth newydd, ond canolbwyntiodd ar ddiywgio byd amaeth. Gadawodd Ciwba yn 1966 i geisio tanio chwyldro mewn gwledydd eraill gan gynnwys y Congo a Bolifia. Fe'i dienyddiwyd gan fyddin Bolifia yn Hydref 1967.
Ei ddylanwad
[golygu | golygu cod]Cafodd esiampl Che ddylanwad aruthrol ar genhedlaeth radicalaidd y 1960au. Tyfodd ei lun, yn benodol y ffotograff Guerrillero Heroico, i fod yn un o eiconau mwyaf amlwg y chwedegau a'r saithdegau cynnar. Mae Dafydd Iwan wedi canu cân i Che Guevara.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Sbaeneg) Che, Guía y Ejemplo Archifwyd 2011-09-10 yn y Peiriant Wayback