Benllech
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 2,332 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3203°N 4.2258°W |
Cod OS | SH518828 |
Cod post | LL74 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Tref yng nghymuned Llanfair Mathafarn Eithaf, ar arfordir ddwyreiniol Ynys Môn, yw Benllech.[1][2] Fe'i lleolir 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Borthaethwy ar lôn yr A5025, hanner ffordd rhwng Pentraeth a Moelfre. Mae ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn. Mae'n ganolfan gwyliau glan-môr boblogaidd yn yr haf ac mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol. Mae nifer o dai newydd a byngalos yn gymysg â thai hŷn yn y dref. Mae Traeth Benllech yn lân a diogel. I'r gorllewin ceir meysydd carafanau ar gyfer ymwelwyr.Pentref mawr ar Ynys Môn yng Nghymru yw Benllech.
Poblogaeth Benllech yw 3,382, felly dyma'r 5ed anheddiad mwyaf yn ôl poblogaeth ar yr ynys. Mae benllech yn lanmor neis.
Y dref heddiw
[golygu | golygu cod]Mae Benllech efo'r traeth mwyaf poblogaidd ar yr ynys gyda thywod euraid a dyfroedd glas clir sy'n hynod o ddiogel ar gyfer ymdrochi a ffadlo. Celr ysgol gynradd, meddygfa medddyg teulu, llyfrgell, swyddfa bost a nifer o gaffis a siopau bach yn y dref, ynghyd â thair tafarn. Dros y degawdau diwethaf mae nifer o bobl a arferai fynd ar eu gwyliau i Fenllech wedi prynu tai yn y dref ac mewn canlyniad mae hi wedi'i Seisnigeiddio cryn dipyn, yn arbennig mewn cymhariaeth â'r pentrefi bach yn y cylch.
Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.Mae yna Spar,Co-op a Tesco yn y pentref.
Mae Ysgol Goronwy Owen yn y pentref. Cyfeiriad yr ysgol yw LL74 8SN.
Mae nifer o lefydd bwyta ym Menllech gan gynnwys llawer o lefydd bwyd-sydyn. Mae hefyd sawl siop gan gynnwys Tesco, Spar co-op a siop 'sgod a sglods blasus.
Hanes lleol
[golygu | golygu cod]Ceir dwy siambr gladdu Neolithig hanner milltir i'r gorllewin o Fenllech. Ganwyd y bardd Goronwy Owen yn Rhosfawr, dwy filltir i'r gorllewin o'r dref. Bu marchnad Croes Wion mewn bri am ganrifoedd, ac mae sïon i Gwion Goch sefydlu capel neu eglwys ar y llecyn hwn.
Yn 1939 ar Draeth Bychan rhwng Moelfre a Benllech aeth y llong danfor Thetis ar y creigiau a chollodd 99 eu bywydau. Mae Benllech yn gyrchfan gwiliau traeth poblogaidd.Enillydd gwobr Baner las ewrop ers 2004.
Atyniadau eraill
[golygu | golygu cod]- Traeth Coch - bae llydan agored filltir a hanner i'r de-ddwyrain.
- Dinas - bryngaer dwy filltir i'r gogledd o'r dref, ger Traeth Bychan.
Cludiant
[golygu | golygu cod]Ceir gwasanaethau bws i Amlwch, Porthaethwy a Bangor.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 31 Hydref 2021
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele