Neidio i'r cynnwys

Pacistan

Oddi ar Wicipedia
Pacistan
Gweriniaeth Islamaidd Pakistan
اِسلامی جمہوریہ پاكِستان (Wrdw)
Islāmī Jumhūriyah Pākistān
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlsincerity in Islam, Punjab, Khyber Pakhtunkhwa, Azad Kashmir, Sindh, Balochistan Edit this on Wikidata
PrifddinasIslamabad Edit this on Wikidata
Poblogaeth223,773,700 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 Awst 1947 Edit this on Wikidata
AnthemQaumi Taranah Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethShehbaz Sharif Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:00, Asia/Karachi Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iTsushima Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Wrdw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Pacistan Pacistan
Arwynebedd881,913 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAffganistan, India, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Iran Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30°N 71°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Pacistan Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholLlywodraeth Pacistan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Pacistan Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAsif Ali Zardari Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Pacistan Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethShehbaz Sharif Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadIslam, Cristnogaeth, Hindŵaeth, Ahmadiyya Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$348,263 million, $376,533 million Edit this on Wikidata
ArianRupee Pacistan Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant3.53 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.544 Edit this on Wikidata

Gwlad yn ne Asia yw Gweriniaeth Islamaidd Pakistan neu Pakistan (hefyd Pacistan). Y gwledydd cyfagos yw India i'r dwyrain, Iran i'r gorllewin, Affganistan i'r gogledd-orllewin a Gweriniaeth Pobl Tsieina (Tibet) i'r gogledd. Mae ar arfordir Môr Arabia yn y de. Mae mwy na 150 miliwn o bobl yn byw yn y wlad, y mwyafrif ohonynt yn Fwslemiaid. Islamabad yw prifddinas y wlad.

Hi yw pumed wlad fwyaf poblog y byd, gyda'i phoblogaeth yn fwy na 225.2 miliwn, ac mae ganddi boblogaeth Fwslimaidd ail-fwyaf y byd. Pacistan yw'r 33ain wlad fwyaf yn ôl arwynebedd, sy'n 340,509 milltir sg (881,913 km sg). Mae wedi ei wahanu o Tajikistan gan Goridor Wakhan yn y gogledd, ac mae hefyd yn rhannu ffin forwrol ag Oman.

Mae Pacistan yn safle sawl diwylliant hynafol, gan gynnwys safle Oes Newydd y Cerrig (Neolithig) Mehrgarh 8,500 mlwydd oed yn Balochistan,[1] a Gwareiddiad Dyffryn Indus yn o'r Oes Efydd, y gwareiddiadau mwyaf helaeth o'r Hen Fyd.[2] Roedd y rhanbarth sy'n cynnwys talaith fodern Pacistan yn deyrnas i sawl ymerodraeth a brenhiniaeth, gan gynnwys yr Achaemenid; am gyfnod byr roedd yn nwylo Alecsander Fawr; y Seleucid, y Maurya, y Kushan, y Gupta;[3] Califf yr Umayyad yn ei ranbarthau deheuol, yr Hindw Shahi, y Ghaznavids, y Delhi Sultanate, y Mughals,[4] y Durranis, yr Ymerodraeth Sikhaidd, rheolaeth Cwmni Dwyrain India Prydain, ac yn fwyaf diweddar, Ymerodraeth Indiaidd Prydain o 1858 i 1947.

Wedi'i sbarduno gan 'Fudiad Pacistan', a geisiodd famwlad i Fwslimiaid India Prydain, a buddugoliaethau etholiadol ym 1946 gan yr 'All-India Muslim League', enillodd Pacistan annibyniaeth o Loegr ym 1947 ar ôl Rhaniad Ymerodraeth Indiaidd Prydain. Dyfarnwyd gwladwriaeth ar wahân i'w rhanbarthau Mwslimaidd a gwelwyd ymfudo torfol digyffelyb a bu farw llawer iawn.[5] Yn wreiddiol, roedd yn Ddominiwn o Gymanwlad Prydain, drafftiodd Pacistan ei chyfansoddiad yn swyddogol ym 1956, a daeth i'r amlwg fel gweriniaeth Islamaidd. Ym 1971, ymbellhaodd Dwyrain Pacistan fel gwlad newydd a alwyd yn "Bangladesh" ar ôl rhyfel cartref naw mis o hyd. Yn ystod y pedwar degawd canlynol, rheolwyd Pacistan gan lywodraethau sifil a milwrol, democrataidd ac awdurdodol, cymharol seciwlar a hollol Islamaidd.[6] Etholodd Pacistan lywodraeth sifil yn 2008, ac yn 2010 mabwysiadodd system seneddol newydd gydag etholiadau.[7]

Mae Pacistan yn bŵer canol, ac mae ganddi'r chweched lluoedd arfog mwyaf yn y byd. Mae'n wladwriaeth gydag arfau niwclear ac mae ymhlith yr economïau sy'n dod i'r amlwg ac sy'n tyfu,[8] gyda dosbarth canol mawr sy'n tyfu'n gyflym.[9] Nodweddir hanes gwleidyddol Pacistan ers annibyniaeth gan gyfnodau o dwf economaidd a milwrol sylweddol yn ogystal â rhai ansefydlog, yn wleidyddol ac yn economaidd. Mae'n wlad o ethnigrwydd amrywiol iawn a cheir amryw o ieithoedd; amrywiol hefyd yw ei daearyddiaeth a'i bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae'r wlad yn parhau i wynebu heriau, gan gynnwys tlodi, anllythrennedd, llygredd a therfysgaeth.[10] Mae Pacistan yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Cydweithrediad Shanghai, y Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd, Cymanwlad y Cenhedloedd, Cymdeithas Cydweithrediad Rhanbarthol De Asia, y Glymblaid Gwrthderfysgaeth Filwrol Islamaidd, ac fe'i dynodir yn brif gynghrair nad yw'n aelod o NATO gan yr Unol Daleithiau.

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Ystyr yr enw 'Pacistan' yn llythrennol yw "gwlad sy'n gyforiog o'r pur" neu "wlad lle mae'r pur yn gyforiog ohoni", yn Wrdw a Phersia. Mae'n cyfeirio at y gair پاک (pāk), sy'n golygu "pur" mewn Perseg a Pashto.[11] Daw'r ôl-ddodiad ـستان (wedi'i drawslythrennu yn Gymraeg fel 'stân' o Bersieg, ac mae'n golygu "lle sy'n gyforiog o" [12] neu "y fan llelle ceir digonedd".[13]

Bathwyd enw'r wlad ym 1933 gan Choudhry Rahmat Ali, actifydd o fewn Mudiad Pacistan, pan gyhoeddodd yr enw mewn pamffled Nawr neu Byth, gan ei ddefnyddio fel acronym ("tri deg miliwn o frodyr Mwslimaidd sy'n byw yn PAKISTAN"),[14].

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae Pakistan yn gorwedd yn rhan orllewinol isgyfandir India. Mae ei thirwedd yn amrywio'n fawr, o fynyddoedd uchel yr Hindu Kush a'r Karakoram yn y gogledd i wastadeddau poeth ar arfordir Cefnfor India yn y de. Dominyddir y wlad gan ddyffryn eang Afon Indus.

Cynhanes

[golygu | golygu cod]
Cerflun Brenin-Offeiriad Indws o Mohenjo-Daro.

Deilliodd rhai o'r gwareiddiadau dynol hynafol cynharaf yn Ne Asia yn yr ardaloedd lle saif Pacistan heddiw.[15] Y trigolion cynharaf y gwyddys amdanynt yn y rhanbarth oedd y Soaniaid a hynny yn ystod Hen Oes y Cerrig Isaf (neu'r Paleolithig Isaf). Darganfuwyd offer carreg o'r cyfnod hwn yn Nyffryn Soan Punjab.[16] Roedd rhanbarth Indus, sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o Bacistan heddiw, yn safle sawl diwylliant hynafol olynol gan gynnwys y Mehrgarh Neolithig [17] a Gwareiddiad Dyffryn Indus (o'r Oes Efydd)[18][19] (2,800–1,800 CC) yn Harappa a Mohenjo-Daro.[20]

Bwdha o Gandhara, celf Greco-Bwdhaidd, 1g - 2g OC.

Nodweddir y cyfnod Vedic (1500–500 CC) gan ddiwylliant Indo-Aryan; yn ystod y cyfnod hwn cyfansoddwyd y Vedas, yr ysgrythurau hynaf sy'n gysylltiedig â Hindŵaeth, ac yn ddiweddarach ymsefydlodd y diwylliant hwn yn y rhanbarth.[21] Roedd Multan yn ganolfan bererindod Hindŵaidd bwysig.[22] Ffynnodd gwareiddiad Vedic yn ninas hynafol Gandhāran Takṣaśilā, sydd bellach yn Taxila yn y Punjab, a sefydlwyd tua 1000 BCE.[23][17] Rheolodd ymerodraethau a theyrnasoedd hynafol olynol y rhanbarth: Ymerodraeth Achaemenid Persia (tua 519 CC), ymerodraeth Alecsander Fawr yn 326 CC[24] ac Ymerodraeth Maurya, a sefydlwyd gan Chandragupta Maurya ac a estynnwyd gan Ashoka Fawr, tan 185 CC. Roedd y Deyrnas Indo-Roegaidd a sefydlwyd gan Demetrius o Bactria (180–165 CC) yn cynnwys Gandhara a Punjab a chyrhaeddodd ei anterth daearyddol o dan Menander (165-150CC), pan ffynnodd y diwylliant Greco-Bwdhaidd yn y rhanbarth.[17][25]

Roedd gan Taxila un o'r prifysgolion a chanolfannau addysg uwch cynharaf yn y byd, a sefydlwyd yn ystod y cyfnod Vedic hwyr (6g CC).[26][27] Roedd yr ysgol yn cynnwys sawl mynachlog heb ystafelloedd cysgu mawr na neuaddau darlithio, lle darparwyd y cyfarwyddyd crefyddol ar sail unigol.[27] Cafodd y brifysgol hynafol ei dogfennu gan luoedd goresgynnol Alecsander Fawr ac fe'i cofnodwyd hefyd gan bererinion Tsieineaidd yn y 4g neu'r 5g OC.[28]

Yn ei anterth, rheolodd Brenhinllin Rai (489–632 OC) o Sindh y rhanbarth hwn a'r tiriogaethau cyfagos.[29] Brenhinllin Pala oedd yr ymerodraeth Fwdhaidd olaf, a oedd, o dan Dharmapala a Devapala, yn ymestyn ar draws De Asia o'r hyn sydd bellach yn Bangladesh trwy Ogledd India i Bacistan.

Goresgyniad Islamaidd

[golygu | golygu cod]

Gorchfygodd y gorchfygwr Arabaidd Muhammad bin Qasim Sindh ym 711 OC.[30][31] Mae cronoleg swyddogol llywodraeth Pacistan yn honni mai dyma’r adeg y gosodwyd sylfaen Pacistan[30][32] ond cyrhaeddodd y cysyniad o Bacistan yn y 19g. Ymledodd Islam drwy'r rhanbarth yn y cyfnod Canoloesol Cynnar (642–1219 OC). Yn ystod y cyfnod hwn, chwaraeodd cenhadon Sufi ran ganolog wrth drosi mwyafrif o'r boblogaeth Fwdhaidd a Hindŵaidd ranbarthol i Islam.[33] Ar ôl trechu llinach y Turk a Hindwaidd Shahi a oedd yn llywodraethu Cwm Kabul, Gandhara (Khyber Pakhtunkwa heddiw), a gorllewin Punjab yn y 7g i'r 11g OC, rheolodd sawl ymerodraeth Fwslimaidd olynol y rhanbarth, gan gynnwys Ymerodraeth Ghaznavid ( 975–1187 OC), Teyrnas Ghorid, a Sultanate Delhi (1206–1526 OC). Disodlwyd llinach Lodi, yr olaf o Swltaniaeth Delhi, gan Ymerodraeth Mughal (1526-1857 OC).

Mosg Badshahi, Lahore

Cyflwynodd y Mughaliaid lenyddiaeth Persia a diwylliant uchel, gan sefydlu gwreiddiau diwylliant Indo-Persia yn y rhanbarth.[34] Yn rhanbarth Pacistan heddiw, y dinasoedd allweddol yn ystod y cyfnod Mughal oedd Lahore a Thatta,[35] a dewiswyd y ddwy fel safle adeiladau Mughal trawiadol.[36] Yn gynnar yn yr 16g, daeth y rhanbarth o dan Ymerodraeth Mughal.[37]

Yn y 18g, chwalwyd yr Ymerodraeth Mughal wrth i bwerau cystadleuol Cydffederasiwn Maratha ddod i'r amlwg ac yn ddiweddarach yr Ymerodraeth Sikhaidd, ynghyd â goresgyniadau gan Nader Shah o Iran ym 1739 ac Ymerodraeth Durrani yn Afghanistan ym 1759. Nid oedd pŵer gwleidyddol cynyddol y Prydeinwyr yn Bengal wedi cyrraedd tiriogaethau Pacistan fodern eto.

Cyfnod trefedigaethol

[golygu | golygu cod]

Yn 1839 daeth newid byd, pan reolwyd tiriogaeth Pacistan fodern gan Loegr (neu 'Prydain'), pan feddiannodd byddin Lloegr Karachi a'i ddal fel porthladd milwrol strategol bwysig yn ystod y Rhyfel Cyntaf Afghanistan a ddilynodd yn fuan wedyn. Cymerwyd gweddill Sindh ym 1843, ac yna cymerodd yr East India Company (Cwmni Dwyrain India), ac yna ar ôl rheol uniongyrchol Gwrthryfel ôl-Sepoy (1857-1858) goresgynnodd y Frenhines Victoria o'r Ymerodraeth Brydeinig, y rhan fwyaf o'r wlad drwy ryfel a thrais. Y prif ryfeloedd oedd yn erbyn llinach Baloch Talpur, a ddaeth i ben gan Frwydr Miani (1843) yn Sindh, y Rhyfeloedd Eingl-Sikhaidd (1845-1849) a'r Rhyfeloedd Eingl-Afghanistan (1839–1919). Erbyn 1893, roedd pob Pacistan fodern yn rhan o Ymerodraeth Indiaidd Prydain, ac arhosodd felly tan annibyniaeth Pacistan ym 1947.

O dan Brydain, rhannwyd Pacistan fodern yn Adran Sind, Talaith Punjab, ac Asiantaeth Baluchistan yn bennaf. Roedd yna amryw o daleithiau tywysogaidd, a'r mwyaf ohonynt oedd Bahawalpur.

Gwrthryfel 1857 o'r enw "Gwrthryfel Sepoy o Bengal" oedd brwydr arfog fwya'r ardal yn erbyn y Prydeinwyr.[38] Daeth rhwyg yn y berthynas rhwng yr Hindŵiaid a'r Mwslemiaid a arweiniodd at drais crefyddol yn India Prydain.[39] Gwaethygodd y ddadl iaith y tensiynau rhwng Hindwiaid a Mwslemiaid ymhellach.[40] Dadleuwyd dros dwy genedl,[41] ac arweiniodd at greu'r <a href="https://en.wikipedia.org/wiki/All-India_Muslim_League" rel="mw:ExtLink" title="All-India Muslim League" class="cx-link" data-linkid="704"><i>All-India Muslim League</i></a> ym 1906.

Mewn cyferbyniad ag ymdrechion gwrth-Brydeinig Cyngres Genedlaethol India, roedd y Gynghrair Fwslimaidd yn fudiad o blaid Prydain ac yn derbyn rhai o werthoedd Prydain a fyddai’n siapio cymdeithas sifil Pacistan yn y dyfodol.[42] Mewn digwyddiadau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe wnaeth Cudd-wybodaeth Prydain ddifetha cynllwyn gwrth-Seisnig yn ymwneud â chysylltiad y Gyngres ac Ymerodraeth yr Almaen.  Ymgysylltodd y frwydr ddi-drais dros annibyniaeth, a arweiniwyd gan Gyngres India, filiynau o wrthdystwyr mewn ymgyrchoedd torfol o anufudd-dod sifil yn y 1920au a'r 1930au yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig.[43][44]

Yn raddol, cododd y Gynghrair Fwslimaidd i boblogrwydd torfol yn y 1930au. Yn ei anerchiad arlywyddol ar 29 Rhagfyr 1930, galwodd Allama Iqbal am "gyfuno taleithiau Indiaidd mwyafrif Mwslimaidd y Gogledd-orllewin " sy'n cynnwys Punjab, Talaith Gogledd Orllewin y Gogledd-orllewin, Sind a Baluchistan.[45] Arweiniodd Muhammad Ali Jinnah, sylfaenydd Pacistan i arddel y theori dwy genedl ac arwain y Gynghrair Fwslimaidd i fabwysiadu Penderfyniad Lahore 1940 a gyflwynwyd gan Sher -e-Bangla AK Fazlul Haque, a elwir yn boblogaidd fel "Penderfyniad Pacistan".[41] Yn yr Ail Ryfel Byd, cefnogodd Jinnah a'r Gynghrair Fwslimaidd ymdrechion rhyfel Prydain.[46]

Mudiad Pacistan

[golygu | golygu cod]

Arweiniodd etholiadau 1946 at ennill y Gynghrair Fwslimaidd 90% o'r seddi a neilltuwyd ar gyfer Mwslimiaid. Felly, plebiscite oedd etholiad 1946 i bob pwrpas lle roedd Mwslimiaid India i bleidleisio ar greu Pacistan, pleidlais a enillodd y Gynghrair Fwslimaidd. Cefnogwyd y fuddugoliaeth hon gan dirfeddianwyr mawr Sindh a Punjab. Gorfodwyd y Gyngres i gydnabod y ffaith.[47] Nid oedd gan y Prydeinwyr unrhyw ddewis arall heblaw ystyried barn Jinnah gan ei fod wedi dod i'r amlwg fel unig lefarydd Mwslimiaid India-Prydeinig gyfan. Fodd bynnag, nid oedd y Prydeinwyr am i India drefedigaethol gael ei rhannu, ac mewn un ymdrech olaf i'w hatal, fe wnaethant ddyfeisio cynllun Cenhadaeth y Cabinet.[48]

Wrth i genhadaeth y cabinet fethu, cyhoeddodd llywodraeth Prydain ei bwriad i ddod â Rheol Prydain i ben ym 1946-47.[49] Cytunodd cenedlaetholwyr yr India-Prydeinig - gan gynnwys Jawaharlal Nehru ac Abul Kalam Azad o'r Gyngres, Jinnah o Gynghrair Fwslimaidd All-India, a'r Meistr Tara Singh a oedd yn cynrychioli'r Sikhiaid - i'r telerau a throsglwyddo pŵer ac annibyniaeth ym Mehefin 1947 gyda Ficeroy India, Arglwydd Mountbatten o Burma.[50] Wrth i'r Deyrnas Unedig gytuno i rannu India ym 1947, sefydlwyd talaith fodern Pacistan ar 14 Awst 1947, gan gyfuno rhanbarthau dwyreiniol a gogledd-orllewinol mwyafrif Mwslimaidd India Prydain.[44] Roedd yn cynnwys taleithiau Balochistan, Dwyrain Bengal, Talaith Gogledd Orllewin y Gogledd Orllewin, Gorllewin Punjab, a Sindh.[41][50]

Yn y terfysgoedd a ddaeth gyda’r rhaniad yn Nhalaith Punjab, credir bod rhwng 200,000 a 2,000,000[51] o bobl wedi’u lladd yn yr hyn y mae rhai wedi’i ddisgrifio fel hil-laddiad dialgar rhwng y crefyddau.[52] Cipiwyd a threisiwyd 50,000 o ferched Mwslimaidd gan Hindŵiaid a Sikhiaid. Cipiwyd a threisiwyd 33,000 o ferched Hindŵaidd a Sikhaidd gan Fwslemiaid hefyd.[53] Symudodd tua 6.5 miliwn o Fwslimiaid o India i Orllewin Pacistan a symudodd 4.7 miliwn o Hindwiaid a Sikhiaid o Orllewin Pacistan i India.[54] Hwn oedd yr ymfudiad torfol mwyaf yn hanes dyn.[55] Yn y pen draw, achosodd anghydfod dilynol ynghylch Jammu a Kashmir yr hyn a elwir yn Rhyfel Indo-Pacistanaidd 1947-1948.[56]

Annibyniaeth a Phacistan fodern

[golygu | golygu cod]

Ar ôl annibyniaeth ym 1947, daeth Jinnah, Llywydd y Gynghrair Fwslimaidd, yn Llywodraethwr Cyffredinol cyntaf y genedl yn ogystal ag Arlywydd-Llefarydd cyntaf y Senedd,  ond bu farw o'r ddarfodedigaeth ar 11 Medi 1948.[57] Yn y cyfamser, penodwyd Liaquat Ali Khan, yn Brif Weinidog cyntaf y genedl. Rhwng 1947 a 1956, roedd Pacistan yn frenhiniaeth yng Nghymanwlad y Cenhedloedd, ac roedd ganddi ddwy frenhiniaeth nes iddi ddod yn weriniaeth.[58]

Ni dderbyniwyd Pacistan annibyniaeth yn llwyr gan lawer o arweinwyr Prydain, yn eu plith yr Arglwydd Mountbatten.[59] Mynegodd Mountbatten yn glir ei ddiffyg cefnogaeth a ffydd yn syniad y Gynghrair Fwslimaidd o Bacistan.[60] Gwrthododd Jinnah gynnig Mountbatten i wasanaethu fel Llywodraethwr Cyffredinol Pacistan.[61] Pan ofynnodd Collins a Lapierre i Mountbatten a fyddai wedi ymosod ar Pacistan pe bai'n gwybod bod Jinnah yn marw o'r ddarfodedigaeth, atebodd 'baswn, mae'n debyg'.[62]

Gwleidyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Diwylliant

[golygu | golygu cod]

Economi

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Coningham, Robin; Young, Ruth (2015), The Archaeology of South Asia: From the Indus to Asoka, c. 6500 BCE – 200 CE, Cambridge University Press Quote: ""Mehrgarh remains one of the key sites in South Asia because it has provided the earliest known undisputed evidence for farming and pastoral communities in the region, and its plant and animal material provide clear evidence for the ongoing manipulation, and domestication, of certain species.
  2. Wright, Rita P. (2009), The Ancient Indus: Urbanism, Economy, and Society, Cambridge University Press, pp. 1–2, ISBN 978-0-521-57219-4, https://books.google.com/books?id=MG2ztAEACAAJ, "The Indus civilisation is one of three in the 'Ancient East' that, along with Mesopotamia and Pharaonic Egypt, was a cradle of early civilisation in the Old World (Childe, 1950). Mesopotamia and Egypt were longer lived, but coexisted with Indus civilisation during its florescence between 2600 and 1900 B.C. Of the three, the Indus was the most expansive, extending from today's northeast Afghanistan to Pakistan and India."
  3. Wynbrandt, James (2009). A Brief History of Pakistan. Infobase Publishing. ISBN 978-0-8160-6184-6.
  4. Spuler, Bertold (1969). The Muslim World: a Historical Survey. Leiden: E.J. Brill. ISBN 90-04-02104-3.
  5. Copland, Ian (2001), India, 1885-1947: The Unmaking of an Empire, Seminar Studies in History, Longman, ISBN 978-0-582-38173-5, https://books.google.com/books?id=Dw1uAAAAMAAJ Quote: "However, the real turning point for the new Muslim League came with the general election of December 1945 and Ionawr 1946.
  6. Talbot, Ian (2016), A History of Modern South Asia: Politics, States, Diasporas, Yale University Press, pp. 227–240, ISBN 978-0-300-21659-2, https://books.google.com/books?id=sXsmCwAAQBAJ
  7. "Pakistani parties to share power". BBC News. 9 Mawrth 2008.
  8. Iqbal, Anwar (8 Tachwedd 2015). "Pakistan an emerging market economy: IMF". www.dawn.com. Cyrchwyd 27 Chwefror 2016.
  9. "Pakistan has 18th largest 'middle class' in the world: report". The Express Tribune. 16 Hydref 2015.
  10. Mathew Joseph C. (2016). Understanding Pakistan: Emerging Voices from India. Taylor & Francis. t. 337. ISBN 978-1-351-99725-6.
  11. Raverty, Henry George. A Dictionary of Pashto. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-07. Cyrchwyd 2021-09-23.
  12. Hayyim, Sulayman, "ستان", New Persian-English Dictionary, 2, Tehran: Librairie imprimerie Béroukhim, p. 30, https://dsal.uchicago.edu/cgi-bin/app/steingass_query.py?qs=ستان&searchhws=yes |quote= ستان (p.
  13. Steingass, Francis Joseph, "ستان", A Comprehensive Persian-English Dictionary, p. 655, https://dsal.uchicago.edu/cgi-bin/app/steingass_query.py?qs=ستان&searchhws=yes, "stān (after a vowel), istān (after a consonant), Place where anything abounds, as ḵẖurmāstān, A palm-grove, gulistān, A flower-garden, &c."
  14. Choudhary Rahmat Ali (28 Ionawr 1933). "Now or never: Are we to live or perish for ever?". Columbia University. Cyrchwyd 4 December 2007.
  15. Petraglia, Michael D.; Allchin, Bridget (2007), "Human evolution and culture change in the Indian subcontinent", in Michael Petraglia, Bridget Allchin, The Evolution and History of Human Populations in South Asia: Inter-disciplinary Studies in Archaeology, Biological Anthropology, Linguistics and Genetics, Springer, ISBN 978-1-4020-5562-1
  16. Parth R. Chauhan. "An Overview of the Siwalik Acheulian & Reconsidering Its Chronological Relationship with the Soanian[[:Nodyn:Snd]] A Theoretical Perspective". Sheffield Graduate Journal of Archaeology. University of Sheffield. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Ionawr 2012. Cyrchwyd 22 December 2011. URL–wikilink conflict (help)
  17. 17.0 17.1 17.2 Vipul Singh (2008). The Pearson Indian History Manual for the UPSC Civil Services Preliminary Examination. Dorling Kindesley, licensees of Pearson Education India. tt. 3–4, 15, 88–90, 152, 162. ISBN 978-81-317-1753-0.Vipul Singh (2008).
  18. Wright 2010.
  19. Feuerstein, Georg; Subhash Kak; David Frawley (1995). In search of the cradle of civilization: new light on ancient India. Wheaton, IL: Quest Books. t. 147. ISBN 978-0-8356-0720-9.
  20. Robert Arnett (2006). India Unveiled. Atman Press. tt. 180–. ISBN 978-0-9652900-4-3. Cyrchwyd 23 December 2011.
  21. Marian Rengel (2004). Pakistan: a primary source cultural guide. New York: The Rosen Publishing Group Inc. tt. 58–59, 100–102. ISBN 978-0-8239-4001-1.
  22. Sarina Singh; Lindsay Brow; Paul Clammer; Rodney Cocks; John Mock (2008). Pakistan & the Karakoram Highway. Lonely Planet. tt. 60, 128, 376. ISBN 978-1-74104-542-0.
  23. Allchin & Allchin 1988.
  24. David W. del Testa, gol. (2001). Government Leaders, Military Rulers, and Political Activists. Westport, CN: The Oryx Press. t. 7. ISBN 978-1-57356-153-2.
  25. Ahmad Hasan Dani. "Guide to Historic Taxila". The National Fund for Cultural Heritage. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-05. Cyrchwyd 15 Ionawr 2010.
  26. "History of Education", Encyclopædia Britannica, 2007.
  27. 27.0 27.1 Scharfe, Hartmut; Bronkhorst, Johannes; Spuler, Bertold; Altenmüller, Hartwig (2002). Handbuch Der Orientalistik: India. Education in ancient India. t. 141. ISBN 978-90-04-12556-8.
  28. Joseph Needham (1994). A selection from the writings of Joseph Needham. McFarland & Co. t. 24. ISBN 978-0-89950-903-7. When the men of Alexander the Great came to Taxila in India in the fourth century BCE they found a university there the like of which had not been seen in Greece, a university which taught the three Vedas and the eighteen accomplishments and was still existing when the Chinese pilgrim Fa-Hsien went there about CE 400.
  29. Andre Wink (1996). Al Hind the Making of the Indo Islamic World. Brill. t. 152. ISBN 978-90-04-09249-5.
  30. 30.0 30.1 "History in Chronological Order". Ministry of Information and Broadcasting, Government of Pakistan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 15 Ionawr 2010.
  31. Paracha, Nadeem F. "Why some in Pakistan want to replace Jinnah as the founder of the country with an 8th century Arab". Scroll.in.
  32. Saigol, Rubina (2014). "What is the most blatant lie taught through Pakistan textbooks?". Dawn. Cyrchwyd 14 Awst 2014.
  33. Lapidus, Ira Marvin (2002). A history of Islamic societies. Cambridge University Press. tt. 382–384. ISBN 978-0-521-77933-3.
  34. Robert L. Canfield (2002). Turko-Persia in historical perspective. Cambridge University Press. tt. 4–21. ISBN 978-0-521-52291-5. Cyrchwyd 28 December 2011.
  35. Chandra, Satish (2005). Medieval India: From Sultanat to the Mughals Part II. Har-Anand Publications. t. 365. ISBN 978-81-241-1066-9.
  36. Malik, Iftikhar Haider (2008). The History of Pakistan. Greenwood Publishing Group. t. 79. ISBN 978-0-313-34137-3.
  37. Metcalf, B.; Metcalf, T. R. (2006). A Concise History of Modern India (arg. 2nd). Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-68225-1.
  38. "Sepoy Rebellion: 1857". Thenagain.info. 12 Medi 2003. Cyrchwyd 19 December 2013.
  39. Markovits, Claude (2 Tachwedd 2007). "India from 1900 to 1947". Online Encyclopedia of Mass Violence. Cyrchwyd 2 Chwefror 2015.
  40. Ak̲h̲tar, Altāf Ḥusain Ḥālī; Talk̲h̲īṣ, Salim (1993). Ḥayāt-i jāved. Lāhore: Sang-i Mīl Publications. ISBN 978-969-35-0186-5.
  41. 41.0 41.1 41.2 "Country Profile: Pakistan". Library of Congress. 1995. tt. 2–3, 6, 8. Cyrchwyd 2 Medi 2019."Country Profile: Pakistan".
  42. Qureshi, M. Naeem (1999). Pan-Islam in British Indian politics: a study of the Khilafat movement, 1918–1924. Leiden [u.a.]: Brill. tt. 57, 245. ISBN 978-90-04-11371-8.
  43. John Farndon (1999). Concise encyclopaedia. Dorling Kindersley Limited. t. 455. ISBN 978-0-7513-5911-4.
  44. 44.0 44.1 Cohen, Stephen Philip (2004). The idea of Pakistan (arg. 1st pbk.). Washington, DC: Brookings Institution Press. ISBN 978-0-8157-9761-6.Cohen, Stephen Philip (2004).
  45. "Sir Muhammad Iqbal's 1930 Presidential Address". Speeches, Writings, and Statements of Iqbal. Cyrchwyd 19 December 2006.
  46. "Understanding Jinnah's Position on World War I and II Lessons to be learned". United Kingdom: Politact. 5 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2015. Cyrchwyd 3 Chwefror 2015.
  47. Mohiuddin, Yasmin Niaz (2007). Pakistan: A Global Studies Handbook. ABC-CLIO. t. 70. ISBN 978-1-85109-801-9. In the elections of 1946, the Muslim League won 90 percent of the legislative seats reserved for Muslims. It was the power of the big zamindars in Punjab and Sindh behind the Muslim League candidates that led to this massive landslide victory (Alavi 2002, 14). Even Congress, which had always denied the League's claim to be the only true representative of Indian Muslims had to concede the truth of that claim. The 1946 election was, in effect, a plebiscite among Muslims on Pakistan.
  48. Mohiuddin, Yasmin Niaz (2007). Pakistan: A Global Studies Handbook. ABC-CLIO. t. 71. ISBN 978-1-85109-801-9. Despite the League's victory in the elections, the British did not want the partition of British India. As a last attempt to avoid it, Britain put forward the Cabinet Mission Plan, according to which India would become a federation of three large, self-governing provinces and the central government would be limited to power over foreign policy and defense, implying a weak center.
  49. Akram, Wasim. Jinnah and cabinet Mission Plan. Academia Edu. https://www.academia.edu/2146058. Adalwyd 3 Chwefror 2015.
  50. 50.0 50.1 Stanley Wolpert (2002). Jinnah of Pakistan. Oxford University Press. tt. 306–332. ISBN 978-0-19-577462-7.
  51. "Murder, rape and shattered families: 1947 Partition Archive effort underway". Dawn. 13 Mawrth 2015. Cyrchwyd 14 Ionawr 2017. There are no exact numbers of people killed and displaced, but estimates range from a few hundred thousand to two million killed and more than 10 million displaced.
  52. Brass, Paul R. (2003). "The partition of India and retributive genocide in the Punjab, 1946–47: means, methods, and purposes" (PDF). Journal of Genocide Research. Carfax Publishing: Taylor and Francis Group. tt. 81–82 (5(1), 71–101). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-14. Cyrchwyd 16 Awst 2014. In the event, largely but not exclusively as a consequence of their efforts, the entire Muslim population of the eastern Punjab districts migrated to West Punjab and the entire Sikh and Hindu populations moved to East Punjab in the midst of widespread intimidation, terror, violence, abduction, rape, and murder.
  53. Daiya, Kavita (2011). Violent Belongings: Partition, Gender, and National Culture in Postcolonial India. Temple University Press. t. 75. ISBN 978-1-59213-744-2. The official estimate of the number of abducted women during Partition was placed at 33,000 non-Muslim (Hindu or Sikh predominantly) women in Pakistan, and 50,000 Muslim women in India.
  54. Hasan, Arif; Raza, Mansoor (2009). Migration and Small Towns in Pakistan. IIED. t. 12. ISBN 978-1-84369-734-3. When the British Indian Empire was partitioned in 1947, 4.7 million Sikhs and Hindus left what is today Pakistan for India, and 6.5 million Muslims migrated from India to Pakistan.
  55. Bates, Crispin (3 Mawrth 2011). "The Hidden Story of Partition and its Legacies". BBC History. Cyrchwyd 16 Awst 2014. Unfortunately, it was accompanied by the largest mass migration in human history of some 10 million.
  56. Subir Bhaumik (1996). Insurgent Crossfire: North-East India. Lancer Publishers. t. 6. ISBN 978-1-897829-12-7. Cyrchwyd 15 April 2012.
  57. "BBC – History – Historic Figures: Mohammad Ali Jinnah (1876–1948)". BBC. Cyrchwyd 20 December 2016. Jinnah became the first governor general of Pakistan, but died of tuberculosis on 11 Medi 1948.
  58. Kumarasingham, Harshan (2013), THE 'TROPICAL DOMINIONS': THE APPEAL OF DOMINION STATUS IN THE DECOLONISATION OF INDIA, PAKISTAN AND CEYLON, vol. 23, Transactions of the Royal Historical Society, pp. 223, JSTOR 23726109, https://www.jstor.org/stable/23726109, "Few today, including those who work on the subcontinent, recollect that India, Pakistan and Sri Lanka did not become republics the day British rule ended. Even distinguished scholars of Empire like Perry Anderson and A. G. Hopkins have made the common assumption that India naturally became a republic upon independence on 15 Awst 1947. Instead, all three of these South Asian states began their independent life as Realms within the British Commonwealth and mirrored the style and institutions of the Dominions of Canada, Australia, South Africa and New Zealand. Though their sovereignty was in no way impaired by this seemingly ambiguous position they all held the British sovereign as their head of state who was represented in each capital by a governor- general appointed on the advice of the local prime minister. India, Pakistan and Ceylon were Realms from 1947 to 1950, 1947 to 1956 and 1948 to 1972 respectively."
  59. McGrath, Allen (1996). The Destruction of Pakistan's Democracy. Oxford University Press. t. 38. ISBN 978-0-19-577583-9. Undivided India, their magnificent imperial trophy, was besmirched by the creation of Pakistan, and the division of India was never emotionally accepted by many British leaders, Mountbatten among them.
  60. Ahmed, Akbar S. (1997). Jinnah, Pakistan and Islamic Identity: The Search for Saladin. Psychology Press. t. 136. ISBN 978-0-415-14966-2. Mountbatten's partiality was apparent in his own statements. He tilted openly and heavily towards Congress. While doing so he clearly expressed his lack of support and faith in the Muslim League and its Pakistan idea.
  61. Wolpert, Stanley (2009). Shameful Flight: The Last Years of the British Empire in India. Oxford University Press. t. 163. ISBN 978-0-19-974504-3. Mountbatten tried to convince Jinnah of the value of accepting him, Mountbatten, as Pakistan's first governor-general, but Jinnah refused to be moved from his determination to take that job himself.
  62. Ahmed, Akbar (2005). Jinnah, Pakistan and Islamic Identity: The Search for Saladin. Routledge. ISBN 978-1-134-75022-1. When Mountbatten was asked by Collins and Lapierre if he would have sabotaged Pakistan if he had known that Jinnah was dying of tuberculosis, his answer was instructive. There was no doubt in his mind about the legality or morality of his position on Pakistan. 'Most probably,' he said (1982:39).