Ers mis Tachwedd 1999, mae sawl episôd Doctor Who wedi cael eu rhyddhau ar DVD, yn bennaf gan BBC Video.
Trosolwg[]
Hanes[]
Yn union fel sawl rhaglen teledu eraill, mae episodau Doctor Who wedi cael eu rhyddhau ar DVD yn 1999. Y stori gyntaf i'w rhyddhau yn y fformat yma oedd The Five Doctors. Ers hynny, mae BBC Video ynghyd 2|entertain wedi rhyddhau sawl stori yn y fformat, yn cynnwys sylwebaeth sain, rhaglenni dogfen a chynhwysion eraill. Yn ychwanegol, cynhwysodd rhai storïau megis The Ark in Space ddewis i wylio'r stori gydag effeithiau arbennig newydd, tra chynhwysodd storïau eraill megis The Curse of Fenric fersiwn estynedig gyda deunydd na chafodd eu darlledu o'r blaen. Rhyddhawyd storïau wrth y saith Doctor gwreiddiol ar DVD yn y DU ac yng Ngogledd America, gyda'r ffilm teledu 1996 hefyd ar DVD.
Ar wahân i'r dwy arc hyd gyfres, The Trial of a Time Lord a The Key to Time, dewisodd BBV Video a 2|entertain rhyddhau'r storïau'n unigol, yn lle cyfres llawn o'r hen gyfres; serch hynny mae sawl rhyddhad gyda thema, neu ar aml-stori wedi'u rhyddhau'n hefyd. Yn debygol, cafodd storïau dwy ran eu rhyddhau gyda stori hirach a'i dilynodd neu'i rhagflaenodd (er i rai cael rhyddhad unigol fel The Sontaran Experiment). Ar adegau, cafodd storïau eu rhyddhau i gyfateb gyda digwyddiad yn ymwneud â'r gyfres ôl-2005, fel cafodd The Invasion of Time, yn cynnwys y Sontarans ei rhyddhau tua'r un pryd i'r Sontarans dychwelyd i Doctor Who yn The Sontaran Stratagem / The Poison Sky.
Casglodd rhyddhad arbennig, y set bocs Lost in Time, episodau "amddifad" o'r 1960au, gan gafodd gweddill episodau'r storïau eu dileu. Gwelodd rhyddhad o storïau anghyflawn eraill, The Invasion a The Reign of Terror, animeiddiad o'r episodau coll gan ddefnyddio recordiau sain cartref o'r episodau.
Yn wahanol i raglennu teledu eraill gyda rhyddhadau fideo cartref, ni chafodd storïau Doctor Who o'r gyfres 1963-89 eu rhyddhau mewn trefn y darllediad gwreiddiol, gan greu trefn rhyddhad ar hap. Gan anwybyddu ffilm teledu Paul McGann, nid oedd yn bosib gwylio rhediad cyfan Doctor ar DVD heb ymyrraeth nes rhyddhad The Twin Dilemma yn 2009.
- Cyflawnwyd cyfnod y Chweched Doctor gyda The Twin Dilemma ar 7 Medi 2009.
- Cyflawnwyd cyfnod y Pumed Doctor gyda The Awakening ar 20 Mehefin 2011.
- Cyflawnwyd cyfnod y Seithfed Doctor gyda The Greatest Show in the Galaxy ar 30 Gorffennaf 2012.
- Cyflawnwyd cyfnod y Trydydd Doctor gyda The Mind of Evil ar 3 Mehefin 2013.
- Cyflawnwyd cyfnod y Doctor Cyntaf gyda The Tenth Planet ar 24 Gorffennaf / 14 Hydref 2013.
- Cyflawnwyd cyfnod y Pedwerydd Doctor gyda Terror of the Zygons ar 29 Gorffennaf / 30 Medi 2013.
- Cyflawnwyd cyfnod yr Ail Ddoctor gyda The Underwater Menace ar 26 Hydref 2015.
Mae pob un episôd yn archif y BBC eisioes wedi rhyddhau ar DVD.
O ganlyniad i fformat stori-wrth-stori y rhyddhadau DVD, roedd gan bob stori sawl ychwanegiad o ddeunyddiau atodol ar gyfer y gyfres. Cynhwysodd pob rhyddhad o leuaf un ac weithiau mwy o rhaglen dogfen yn y cefn, sylwebaethau sain, a clipiau eraill cysylltiadol megis clipiau Blue Peter, golygfeydd dileuwyd, a chyoeddiadau parhad y BBC os gafon nhw eu cadw. O ganlyniad, Doctor Who yw'r un gyfres deledu i gael y nifer mwyaf erioed o deunydd yn dogfennu'r rhaglen ar ryddhadau cartref.
Cyfres Newydd[]
Mae DVDs ar gyfer cyfres BBC Cymru wedi'u rhyddhau'n wahanol, gyda 2|entertain yn ethol i ryddhau rhyddhadau "fanila" (heb ychwanegiadau) disc sengl gyda thri neu bedwar (yn eithrio Series 2: Volume 1 gydag ond dwy episôd), wedi'u dilyn yn hwyrach gan set bocs cyfres llawn (gydag ychwanegiadau). Yn ychwanegol, rhyddhawyd yn y setiau bocs oedd golygiadau arbennig o Doctor Who Confidential, ynghyd episodau elusennol megis Time Crash. Roedd David Tennant yn ymglwm iawn gyda chynhyrchiad y setiau bocs yn cynnwys ei episodau ef, gan recordiau dyddiaduron fideo ar gyfer pob un. Gwelodd yr animeiddiad arbennig The Infinite Quest ar DVD ar ddwy ochr yr Iwerydd. Yn 2009 a 2010, rhyddhaodd BBC Video episodau arbennig 2009, gan gynnwys episôd Nadolig 2008, The Next Doctor, yn unigol. Nid oedd y DVD yma'n "fanila" gan gynhwyson nhw ychwanegion fel Doctor Who Confidential a chyngerdd y Proms 2008. Rhyddhawyd set bocs, gan gynnwys The Next Doctor, yn Ionawr 2010 gyda rhyddhad Gogledd America yn Chwefror. Dilynwyd hon gan rhyddhad DU a UDA o'r ail animeiddiad Dreamland.
Cyfresi deilliedig[]
Mae pob un cyfres deilliedig Doctor Who y BBC wedi'u rhyddhau ar DVD: K9 and Company: A Girl's Best Friend, Torchwood, The Sarah Jane Adventures, a Class. Mae'r cyfres K9 deilliedig answyddogol wedi'i rhyddhau ar DVD. Yn ychwanegol, mae'r cyfresi yn y cefn Doctor Who Confidential a Torchwood Declassified wedi'u rhyddhau ar DVD, fel arfer trwy ychwanegiadau ar set bocs y gyfres llawn atodol, er i'r episodau Confidential, o achos hawliau cerddoriaeth a ffilm a chyfyngiadau gwagle, bod ar gael fel Doctor Who Confidential Cutdown yn unig. Nid yw un episôd o Totally Doctor Who erioed wedi'i rhyddhau ar DVD, gan eithrio The Infinite Quest, a wnaeth ddarlledu fel rhan o'r rhaglen.
Rhyddhawyd prin rhai o'r gynhyrchiadau deilliedig annibynol o'r 1990au ar DVD, megis y gyfres P.R.O.B.E.. Hyd heddiw, yr unig rhyddhad wrth y BBC o'r deunydd yma yw Devious, yn cynnwys Jon Pertwee, ffilm gynhyrchodd cefnogwr, a gafodd 12 munud ohoni ei chynnwys fel ychwanegiad ar ryddhad 2009 DVD The War Games.
Rhwng 2009 a 2014, cyhoeddwyd cylchgrawn o'r enw Doctor Who DVD Files yn y DU, yn cynnwys DVD ar gyfer dwy episôd o'r gyfres newydd, ac yn hwyrach storïau'r hen gyfres.
Er i ddyfeisiad y fformat manylder uwch Blu-ray yn ail hanner y 2000oedd bygwth gwaredu DVDs manylder arferol, yn union fel wnaeth CDs i finyl yn yr 1990au, profodd y fformat DVD i fod yn boblogaidd a gwydn iawn, yn enwedig gyda rhyddhadau hen ffilmiau a chyfresi teledu sydd, o ganlyniad i gyfyngiadau'r cynhyrchiad gwreiddiol, ddim yn gallu cael eu cyflwyno mewn fformat manylder uwch. Achos cynhyrchwyd y gyfres 1963-1989 ar dâp fideo manylder arferol, bydd rhaid trin y storïau dirfaith ar gyfer rhyddhad manylder uwch.
Gwahaniaethau rhanbarthau[]
Yn tueddol, rhyddhawyd DVDs Doctor Who ym marchnad Rhanbarth 2 y DU yn gyntaf, gyda rhyddhad hwyrach yng Ngogledd America yn Rhanbarth 1 a Rhanbarth 4 yn Awstralia. (Mae yna mân eithriadau, megis rhyddhad cyfres 1 The Sarah Jane Adventures yn Rhanbarth 1 yn gyntaf, a rhyddhad The Key to Time: Special Edition yng Ngogledd America yn Mawrth 2009, gyda rhyddhad Rhanbarth 2 yn nhymor yr hydref 2009 - ond roedd rhyddhad Rhanbarth 1 yn ail-bacediad o ryddhad Rhanbarth 2 gynharach yn 2007). Yn gyffredinol, roedd ond un neu dwy wahaniaeth rhwng rhyddhad Rhanbarth 2 a Rhanbarth 1 o unryw dwy stori; y wahaniaeth mwyaf amlwg oedd y paced allanol y stori. Mae gan rhyddhad yr hen gyfres (e.e Hen Gyfres 1 trwy Hen Gyfres 26, yn cynnwys y seith Doctor cyntaf) yn Rhanbarth 2 fformat cofiadwy sydd yn eithaf tebyg i ryddhadau Rhanbarth 4, ond yn eithaf wahanol i bacedu Rhanbarth 1.
Mae rhai ychwanegion wedi cael eu gollwng wrth rhyddhadau. Er enghraifft, gollyngwyd ychwanegiad wrth rhyddhad Rhanbarth 1 The Trial of a Time Lord yn cynnwys y cyflwynydd Anne Robinson, mae'n bosib o achos i trafferthau dros ddarn o gerddoriaeth. Yn debyg, cafodd sylwebaeth sain John Barrowman a gynhwyswyd yn set bocs DVD Rhanbarth 2 BBC Cymru Doctor Who ei gollwng ar gyfer y rhyddhad Rhanbarth 1 o achos dechreuodd ef ganu ar un adeg.
Un o'r prin enghreifftiau o wahaniaethau rhwng rhanbarthau DVD gyda rhyddhad The Chase. Cynhwysodd y stori gwreiddiol clip yn cynnwys perfformiad "Ticket to Ride" gan The Beatles. Cynhwyswyd yr olygfa yma yn rhyddhad Rhanbarth 2 y stori, ond cafodd yr olygfa ei tynnu wrth rhyddhadau y tu allan i Ranbarth 2. Digwyddodd gwahaniaeth enfawr eraill ym Mis Medi 2010 pan nad oedd rhaglen dogfen yn adrodd hanes cynhyrchu Planet of Fire, "The Flames of Sorn", o achos "trafferth hawliau anesgyniadwy". Hyd heddiw, dyna'r unig ychwanegiad sylweddol i gael ei colli i gwsmeriaid Rhanbarth 1.
Yn gyffredinol mae'r Rhanbarthau yn cael eu gwahanu fel yr olynol:
- Rhanbarth 1: Unol Daleithiau America, Canada, a phob tiriogaeth yr UDA.
- Rhanbarth 2: Ewrop (yn eithrio'r hen wledydd Sofiet), Siapan, y Canol Dwyrain, yr Aifft, De Affrica (a'i cymdogion Lesotho a Swaziland), tiriogaethau tramor Ffrainc a'r Ynys Las.
- Rhanbarth 3: De-ddwyrain Asia, Taiwan, Hong Kong, Macau, a De Corea.
- Rhanbarth 4: America o Meciso i'r de (gan gynnwys y rhan fwyaf o De America), y Caribî, Awstraila, Seland Newydd, ac Oceania.
- Rhanbarth 5: Hen wledydd yr USSR, rhanbarthau Affrica ac Asia sydd ddim yn rhan o Rhanbarth 2 neu 3 (yn cynnwys India), Mongolia, a Gogledd Corea.
- Rhanbarth 6: Tsieina.
Yn aml, bydd rhyddhadau DVD Doctor Who yn cael eu deall fel cael eu rhyddhau o fewn Rhanbarth, ond yn debygol bydd DVD yn cael ei rhyddhau i mewn i farchnad. Yn bennaf, cafodd DVDs Doctor Who eu rhyddhad ym marchnadau'r Deyrnas Unedig (Rhanbarth 2), Gogledd America (Rhanbarth 1), ac Awstralia (Rhanbarth 4). Mae'r marchnadau eraill sydd yn bodoli o fewn Rhanbarth 2 a 4 wedi hefyd gweld rhyddhadau DVD lleol; yn aml mae rhein yn gyfieithiad gyda dewisiadau marchnata wahanol i ryddhadau'r DU, Gogledd America ac Awstralia.
Ychwanegion[]
- Gwelwch Rhestr ychwanegion DVD Doctor Who
Cloriau[]
Cloriau DVD[]
- Prif erthygl: Cloriau DVD Doctor Who
- Cloriau DVD Doctor Who/Rhanbarth 1
- Cloriau DVD Doctor Who/Rhanbarth 2
- Cloriau DVD Doctor Who/Rhanbarth 4
- Cloriau DVD Doctor Who/Rhanbarth 6
- Cloriau DVD Torchwood
- Cloeiau DVD SJA
Cloriau Blu-ray[]
- Cloriau Blu-ray Doctor Who
- Cloriau Blu-ray Torchwood
- Cloriau Blu-ray SJA
Rhestr rhyddhadau[]
BBC Video[]
- Prif erthygl: Rhestr rhyddhadau DVD y BBC
- Prif erthygl: Rhestr rhyddhadau Blu-ray y BBC
Rhyddhadau eraill[]
I'w hychwanegu.