Ysgythru
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Ysgythriad)
Proses brintio drwy endorri'r ddelwedd ag asid ar wyneb metel, copr gan amlaf, yw ysgythru.[1] Câi'r plât ei orchuddio'n gyntaf gyda sylwedd diddos rhag asid, gan amlaf cyfansawdd o gwyr gwenyn, bitwmen, a resin. Tynnir llun y dyluniad ar y grwnd ysgythru hwn gyda nodwydd neu offeryn miniog arall. Yna, rhoddir asid nitrig neu Dutch mordant (toddiant o asid hydroclorig a photasiwm clorad) i gael gwared ar y rhannau na amddiffynir gan y grwnd, ac o ganlyniad mae patrwm o linellau cilfachog ar hyd y dyluniad. Rhoddir yr inc yn y llinellau hwn, a gwasgir y plât ar bapur i drosglwyddo'r dyluniad a chreu'r print.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ysgythru. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.
- ↑ (Saesneg) Etching. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.