Gwales
Math | ynys, nythfa adar, gwarchodfa natur, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.089 km², 11.97 ha |
Uwch y môr | 42 metr |
Gerllaw | Sianel San Siôr |
Cyfesurynnau | 51.730902°N 5.479714°W |
Hyd | 0.5 cilometr |
Rheolir gan | Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
- Ar gyfer y wefan o'r un enw, gweler Gwales.com.
Ynys fechan anghyfanedd i'r gorllewin o Ynys Sgomer oddi ar arfordir de-orllewin Sir Benfro yw Gwales (hefyd Ynys Gwales; Saesneg: Grassholm o'r geiriau Hen Norseg grass "gwair" a holm "ynys isel"). Mae Gwales a Sgomer yn ddwy ynys archeolegol gyfoethog wedi'u lleoli oddi ar arfordir gorllewinol penrhyn Marloes yn ne Sir Benfro. Gwales yw'r tir mwyaf gorllewinol yng Nghymru.
Ceir ar yr ynys olion strwythurau cerrig di-ri, rhwydwaith o olion ffiniau caeau cerrig sy'n rhyng-gysylltu, olion aredig a nodweddion archeolegol eraill. Mae'n amlwg o'r olion hyn fod pobl wedi ffermio yma dros y cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol: Oes Efydd, Haearn, Celtaidd a Chanoloesol.[1]
Cadwraeth
[golygu | golygu cod]Mae'n adnabyddus i ornitholegwyr am ei choloni anferth o fulfrain gwynion (huganau); 32,409 o barau yn 2004, sef tua 8% o boblogaeth y byd. Ers 1947 mae'n eiddo i'r RSPB, y warchodfa gyntaf i'r gymdeithas honno brynu. Dyma'r trydydd nifer mwyaf yn Ewrop a'r 4ydd drwy'r byd.
Mae Gwales wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA neu SSSI) fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[2] Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Mabinogi
[golygu | golygu cod]Yn llenyddiaeth Gymraeg mae Gwales yn fwy adnabyddus fel yr ynys arallfydol y mae'r saith arwr a ddihangasant o Iwerddon yn treulio 80 mlynedd arni yng nghwmni pen Bendigeidfran, yn ôl chwedl Branwen ferch Llŷr, ail gainc Pedair Cainc y Mabinogi:
- Ac yng Ngwales ym Mhenfro y byddwch bedwarugaint mlynedd. Ac yny agoroch y drws parth ag Aber Henfelen, y tu at Gernyw, y gellwch fod yno a'r pen yn ddilwgr gennwch.[3]
Cludiant
[golygu | golygu cod]Mae llongau pleser yn hwylio i Wales o Martin's Haven yn yr haf.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://cherishproject.eu/en/project-areas/welsh-project-areas/12-grassholm-skomer-marloes/ Prosiect CHERISH; adalwyd 3 Ebrill 2024.
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 25 Rhagfyr 2013
- ↑ Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; arg. newydd, 1989). Tud. 45. Diweddarwyd yr orgraff.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Llun awyr o'r ynys Archifwyd 2007-03-10 yn y Peiriant Wayback