Terfysgaeth
Enghraifft o'r canlynol | eithafiaeth |
---|---|
Math | political crime, ffynhonnell risg, political activism |
Y gwrthwyneb | gwrth-terfysgaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Radicaliaeth a Phrotest | |
HWB | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Terfysgaeth yw'r defnydd o fraw a thrais i fygwth neu orfodi unigolyn, mudiad neu lywodraeth i newid neu wneud rhywbeth - er enghraifft, at bwrpas gwleidyddol. Mae’r trais yn medru bod ar ffurf llofruddiaeth, hunanladdiad, nwyon gwenwynig, herwgipio neu fygythiad i ddinistrio - er enghraifft, bomio.
Mae’r defnydd o fraw gan derfysgwyr hefyd yn fath o ryfela seicolegol yn erbyn pwy bynnag neu beth bynnag yw eu targed. Yn ôl rhai haneswyr, sifiliaid yw prif darged terfysgwyr, ac oherwydd hynny maent yn dueddol o dargedu ardaloedd trefol.
Gall y derfysgaeth gael ei chyflawni gan unigolyn yn gweithredu ar ei ben ei hun, neu gall fod yn derfysgaeth sydd yn cael ei noddi a’i chefnogi gan lywodraeth. Mae enghreifftiau mewn hanes yn dangos hefyd bod mudiadau, grwpiau protest neu grŵp penodol o bobl yn troi at derfysgaeth oherwydd bod cyfyngiadau ar eu hawliau ac nad oes ganddynt ffordd arall o fynegi eu hanfodlonrwydd.
Mae terfysgaeth yn dacteg sydd wedi cynyddu'n raddol yn ystod yr 20fed ganrif ac mae’r dulliau terfysgol wedi mynd yn fwy soffistigedig ac yn anoddach i’r awdurdodau eu monitro a’u darganfod. Llofrudd yn y dorf a saethodd gyda'i wn at Archddug Franz Ferdinand yn 1914 oedd Gavrilo Princip, tra mai nwyon cemegol fel sarin gan derfysgwyr o bell a ddefnyddiwyd mewn ymosodiadau terfysgol diweddar ar ddiwedd yr 20g.
Mae terfysgaeth ddiweddar yr 20g yn targedu mannau poblog, gwasanaethau neu gyfleusterau sy’n cael eu defnyddio gan lawer o bobl - er enghraifft, trafnidiaeth a chludiant, mannau gwaith neu ddigwyddiadau penodol fel cyngherddau.
Erbyn degawdau olaf yr 20g a dechrau’r 21ain ganrif bu cynnydd sylweddol yn nifer yr enghreifftiau o derfysgaeth, er enghraifft, Trychineb Lockerbie, ymosodiad y Tyrau yn Efrog Newydd yn 2001, ymosodiadau ar swyddfa Charlie Hebdo ym Mharis ym 2015 a’r Ymosodiad ar Arena Manceinion ym mis Mai 2017. Yn yr enghreifftiau hyn roedd effeithiau’r derfysgaeth ar raddfa eang, ac anafwyd a lladdwyd hyd at filoedd o bobl.
Diffiniad
[golygu | golygu cod]Nid oes diffiniad cynhwysfawr o derfysgaeth yn bodoli. Mae un diffiniad cryno yn nodi mai "trosedd â chymhelliad gwleidyddol, gyda'r nod o newid ymddygiad y rhai a dargedir" yw terfysgaeth.[1]
Yn ei waith Terrorism and the Liberal State (1986), crybwyllodd Paul Wilkinson nifer o ffactorau wrth geisio diffinio terfysgaeth wleidyddol: y defnydd o fraw i orfodi rhywun i wneud rhywbeth, a'r defnydd o lofruddiaeth a dinistr, neu'r bygythiad o hynny, i orfodi unigolion neu grwpiau i ufuddhau i orchmynion y terfysgwr. Mae terfysgaeth felly yn fodd o ryfela seicolegol sy'n defnyddio bygythiad fel ei phrif arf.[2]
Label gwleidyddol yw terfysgaeth[3] sydd bron byth yn cael ei fabwysiadu'n wirfoddol gan unigolyn neu garfan i ddiffinio eu hunain.[4] Mae gan y term "terfysgw(y)r" ddelwedd negyddol bron yn ddieithriad, ac felly defnyddir termau fel "gwrthryfelwyr", "chwyldroadwyr", "aelodau milisia", neu "gerilas", sydd weithiau â chynodiadau positif, gan unigolion a grwpiau i ddisgrifio eu hunain.[5]
Strategaeth a ddefnyddir yn aml er pwrpasau ideolegol yw terfysgaeth, ac nid ideoleg ynddi ei hunan.[1] Ymgeisia rhai i lunio teipoleg o "weithredoedd terfysgol" yn seiliedig ar dactegau nodweddiadol terfysgwyr yn hytrach na diffiniad o derfysgaeth, ond mae gan hyn hefyd ei broblemau ei hunan. Er enghraifft, gellir gwahaniaethu rhwng tactegau milwrol confensiynol a thactegau terfysgol fel bradlofruddio a herwgipio, ond mae'r rhain yn weithredoedd troseddol cyffredinol yn ogystal, ac nid ydynt yn unigryw i derfysgaeth. Mae'n debyg nad oes math arbennig o weithgarwch sy'n benodol i derfysgaeth.[6]
Gwahaniaethu o gysyniadau eraill
[golygu | golygu cod]Ymgeisir diffiniadau i wahaniaethu rhwng terfysgaeth a mathau eraill o drais gwleidyddol,[7] megis rhyfela herwfilwrol (gerila), terfysg, bradlofruddiaeth, a difrod bwriadol, a thrais troseddol a rhyfel yn gyffredinol.[4] Dadleua Robert Keohane taw prif ffactor nodweddiadol terfysgaeth, sy’n ei gwahaniaethu o ffurfiau eraill o drais, yw ei hamcan o "ddychrynu cynulleidfa yn hytrach na ddinistrio gelyn".[8] Pwysleisiodd Brian Michael Jenkins taw tynnu sylw nifer o bobl yw amcan terfysgwyr yn bennaf, nid niwedio nifer o bobl.[9]
Modd o wahaniaethu rhwng terfysgaeth a rhyfel yw sylwi ar yr elfen o ornest o fewn rhyfel, hynny yw y brwydro rhwng dau weithredydd o fewn cyd-destun milwrol confensiynol, tra bo terfysgaeth yn ddewis i'r "rhai sydd yn rhy wan i wrthwynebu gwladwriaethau mewn modd agored".[10] Ond dadleua Noam Chomsky nid yw terfysgaeth yn arf i'r gwan yn unig, ond hefyd yn arf i'r cryf; ond yn achos gwladwriaethau, fe'i gelwir yn "wrthderfysgaeth", "rhyfela ar raddfa isel", neu "hunanamddiffyniad" (yn hytrach na therfysgaeth wladwriaethol).[11]
Wrth gymharu rhyfela herwfilwrol a therfysgaeth, y gwahaniaeth pennaf yw sut mae'r ddwy strategaeth yn gweld eu targedau: i gerilas, lluoedd gwladwriaethol yw'r prif darged, a thrwy hyn caiff sifiliaid eu niweidio ar ddamwain neu fel sgîl-effaith; i derfysgwyr, sifiliaid yw'r prif darged ac osgoir ymosod ar wrthwynebwyr arfog. Yn ogystal, ffenomen wledig yw rhyfela herwfilwrol yn gyffredinol tra bo terfysgaeth gan amlaf yn digwydd mewn ardaloedd trefol.[7] Yn achos terfysgaeth wladwriaethol, ymgeisir gwahaniaethu rhyngddi a ffurfiau eraill o drais wladwriaethol, megis hil-laddiad.
Terfysgaeth ryngwladol
[golygu | golygu cod]Y Rhyfel Byd Cyntaf
[golygu | golygu cod]Mae amcanion a thensiynau gwleidyddol a chrefyddol wedi bod yn ffactor gyffredin yn rhesymau terfysgwyr dros weithredu. Gweithred derfysgol oedd llofruddiaeth etifedd coron ymerawdwr Awstria-Hwngari, a’r wreichionen a gyneuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar Fehefin 28ain 1914 saethodd gŵr ifanc o’r enw Gavrilo Princip Archddug Awstria, Franz Ferdinand, a’i wraig, Sophie, yn Sarajevo. Roedd Princip yn fyfyriwr ac yn aelod o blaid radicalaidd ‘Y Llaw Ddu’ a oedd eisiau uno Bosnia gyda Serbia a thorri’n rhydd o reolaeth Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Roedd gwrthdaro wedi cynyddu rhwng yr Almaen a gwledydd eraill yn Ewrop, ond defnyddiwyd y digwyddiad gan Awstria-Hwngari fel rheswm dros gyhoeddi rhyfel yn erbyn Serbia fis yn ddiweddarach.[12]
Yr helyntion yng Ngogledd Iwerddon
[golygu | golygu cod]Yr enghraifft amlycaf o derfysgaeth ar dir Pryeinig yn ystod yr 20g oedd yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon. Roedd gwreiddiau’r gwrthdaro ac ymladd yng Ngogledd Iwerddon yn deillio o ymraniad Iwerddon yn 1921. Bryd hynny, gwahanwyd chwe thalaith Brotestannaidd ac Undebol y gogledd oddi wrth weddill Iwerddon, a oedd gan mwyaf yn Babyddol. Gadawyd llawer o Babyddion yn y gogledd wedi’r rhaniad. Wynebodd y rhain lawer o wahaniaethu, er enghraifft, o safbwynt swyddi a thai, ac oherwydd hynny cychwynnwyd mudiadau hawliau sifil i ennill gwell amodau. Dechreuodd y ddwy ochr gynnal protestiadau cyhoeddus a throdd y gwrthdaro yn dreisgar wrth i’r ddwy ochr ddial ar ei gilydd. Anfonwyd milwyr Prydeinig draw yn 1969 i geisio adfer trefn a throdd Belfast yn ddinas ranedig rhwng ardal y Pabyddion ac ardal y Protestaniaid. Roedd Gogledd Iwerddon eisiau aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig tra'r oedd y Pabyddion eisiau gweld Iwerddon gyfan yn troi’n weriniaeth. Yr IRA (Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon), oedd aden filwrol y gweriniaethwyr, ac achosodd y tensiynau rhwng y ddwy ochr lawer o derfysgaeth yn Iwerddon yn ystod y cyfnod hwn. Lluniwyd cytundeb heddwch o’r enw ‘Cytundeb Gwener y Groglith’ yn 1998 a oedd yn gosod telerau ar gyfer sicrhau dyfodol heddychlon yn y wlad.[13]
Y Dwyrain Canol
[golygu | golygu cod]Daeth y sefyllfa wleidyddol a chrefydd yn y Dwyrain Canol yn ffactor a achosodd rai o ddigwyddiadau mwyaf terfysglyd ail hanner yr ugeinfed ganrif a thu hwnt. Yn Jeriwsalem yng Ngorffennaf 1946, bomiwyd gwesty King David, pencadlys y Llywodraeth Brydeinig ym Mhalesteina, gan derfysgwr Seionaidd oedd yn perthyn i grŵp Irgun. Roeddent yn protestio yn erbyn presenoldeb Prydain ym Mhalesteina, a lladdwyd 91 o bobl ac anafwyd 46 yn rhagor.
Yn ystod y 1970au a’r 1980au cafwyd cyfres o ymosodiadau terfysgaidd oedd yn tynnu sylw at y gwrthdaro rhwng yr Israeliaid a’r Palestiniaid yn y Dwyrain Canol. Achos y gynnen rhwng y grwpiau crefyddol hyn oedd pwy oedd â’r hawl (ac felly yn berchen ar) dir Palesteina. Roedd y ddwy ochr yn gweld y tir hwn fel rhan o’u hetifeddiaeth a thir eu cyndeidiau.[14]
Grŵp terfysgaidd Palestinaidd o’r enw Black September oedd yn gyfrifol am laddfa Gemau Olympaidd Munich, Gorllewin yr Almaen ym mis Medi 1972. Dyma’r tro cyntaf i'r Gemau Olympaidd ddychwelyd i'r Almaen ers 1936, pan ddefnyddiodd y Natsïaid y Gemau i hyrwyddo neu fawrygu'r hil Ariaidd. Gwelwyd Gemau 1972 fel cyfle gan Orllewin yr Almaen i unioni atgofion arswydus/ffiaidd y gemau hynny. Roedd y terfysgwyr yn gofyn am ryddhau Palestiniaid a oedd wedi eu carcharu mewn carchardai yn Israel, a bod awyren yn eu hedfan nhw yn ôl i’r Dwyrain Canol. Herwgipiwyd 11 aelod o dȋm Olympaidd Israel o’r pentref Olympaidd a’u dal yn wystlon yno. Lladdwyd nhw i gyd ac un o blismyn Munich yn ogystal â phump o’r wyth terfysgwr.[15][16]
Un o’r ymosodiadau terfysgol mwyaf erchyll ar dir Prydain oedd Trychineb Lockerbie ym Medi 1988. Ffrwydrodd awyren Pan Am 103 uwchben tref Lockerbie yn yr Alban ar ei thaith o Lundain i Efrog Newydd. Roedd bom, yn cynnwys Semtecs, wedi ei guddio mewn chwaraewr casetiau y tu mewn i gês dillad, wedi cael ei amseru i ffrwydro yn yr awyren fel y byddai’n amhosibl i neb ddianc o’r gyflafan. Lladdwyd yr holl deithwyr a’r criw hedfan ar yr awyren, a oedd yn gyfanswm o 259 o bobl. Wrth i’r awyren blymio i’r ddaear lladdwyd 11 o drigolion y pentref a dinistriwyd 21 o dai. Roedd nifer y bobl a laddwyd yn golygu mai hwn oedd yr ymosodiad terfysgol mwyaf angheuol a fu ar brif dir Prydain hyd heddiw.
Cymerodd Libia y cyfrifoldeb am y drosedd derfysgol a chyhuddwyd dau ddyn o Libia – un ohonynt oedd Abdelbaset al-Megrahi. Ganwyd ef yn Tripoli ac roedd wedi astudio yn yr Unol Daleithiau a Chaerdydd yn ystod y 1970au. Cafodd ei benodi yn bennaeth diogelwch y cwmni hedfan Libyan Arab Airlines (LAA) yn y 1980au. Yn 2001 cafwyd ef yn euog o lofruddio 270 o bobl a dedfrydwyd ef i garchar am oes, ond yn 2009 rhyddhawyd ef oherwydd afiechyd. Yn ôl yr FBI roedd al-Megrahi yn gweithio fel asiant cudd-wybodaeth i Libia, a honnwyd mai’r Cadfridog Gaddafi, arweinydd Libia, oedd wedi gorchymyn yr ymosodiad, ond cafodd hynny ei wadu yn nes ymlaen.
Roedd llawer o’r teithwyr ar yr awyren yn Americaniaid a honnwyd bod yr ymosodiad wedi digwydd er mwyn dial am ymosodiadau America ar Tripoli yn 1986.[17][18]
Terfysgwyr unigol
[golygu | golygu cod]Roedd ymosodiadau terfysgol eraill wedi cael eu cyflyrru gan safbwyntiau personol ar faterion penodol. Ar Ebrill 19, 1995 ffrwydrodd bom y tu mewn i gerbyd oedd wedi ei barcio y tu allan i Adeilad Ffederal Alfred P. Murray yn Oklahoma gan Timothy McVeigh. Roedd McVeigh, meddai, yn dial am ymosodiad/gwarchae y Llywodraeth, ddwy flynedd ynghynt i’r diwrnod, ar wersyll ger Waco, Texas. Roedd hwn yn ymosodiad terfysgol yn erbyn ymddygiad Llywodraeth America. Yn Waco, roedd sect grefyddol o’r enw Branch Davidians dan arweinyddiaeth David Koresh yn byw. Yn sgil y ffrwydrad yn Oklahoma lladdwyd dros 160 o bobl (gan gynnwys plant) ac anafwyd dros 500.[19]
Targedwyd y Gemau Olympaidd yn Atlanta, Georgia, yn America yng Ngorffennaf 1996 pan ffrwydrodd bom pibell mewn pac ym Mharc Olympaidd Centennial. Cyhuddwyd dyn o’r enw Eric Rudolph, a oedd yn gwrthwynebu erthyliad, gan yr FBI yn 1998 am y ffrwydrad. Bu’r heddlu yn chwilio amdano ym Mynyddoedd Appalachia a darganfuwyd ef gan yr heddlu yng ngogledd Carolina yn 2003. Dedfrydwyd ef i garchar am oes yn 2005 wedi iddo bledio’n euog i’r ffrwydrad yn Atlanta. Roedd hwn yn enghraifft o unigolyn oedd â fendeta yn erbyn safiad y Llywodraeth ar bynciau penodol.[20]
Islamiaeth radicalaidd
[golygu | golygu cod]Un o nodweddion y derfysgaeth sydd wedi datblygu'n ddiweddar, yn enwedig ers cychwyn yr 21ain ganrif, yw'r modd mae Islamiaeth radicalaidd wedi cael ei chysylltu â’r digwyddiadau terfysgol mwyaf angheuol ar draws y byd. Lladdwyd neu anafwyd dros 10,000 o bobl yn ymosodiadau terfysgol 2001 yn yr Unol Daleithiau. Ar Medi 11, 2001 herwgipiwyd pedair awyren gan 19 o derfysgwyr grŵp Al-Qaeda. Hedfanwyd dwy o’r awyrennau i mewn i dyrau Canolfan Masnach y Byd yn ardal Manhattan yn Efrog Newydd ac un arall i mewn i’r Pentagon yn Washington DC. Llwyddodd y teithwyr yn y bedwaredd awyren i wrthsefyll y terfysgwyr a glaniodd yr awyren mewn cae ym Mhennsylvania. Dymchwelodd y ddau dŵr o fewn dwy awr i’r ymosodiad cyntaf a lladdwyd mwy na 400 o blismyn a diffoddwyr tân, ynghyd â miloedd o bobl oedd yn gweithio neu'n ymweld â’r tyrau. Erbyn i’r ymdrech achub a chwilio orffen amcangyfrifwyd bod tua 3,000 o bobl wedi cael eu lladd a thros 6,000 wedi cael eu hanafu. Ni ddaethpwyd o hyd i lawer o’r cyrff oherwydd graddfa'r difrod.
Yr ymosodiad hwn fu cychwyn y rhyfel yn erbyn Terfysgaeth a’r cysylltiad ag Islamiaeth eithafol. Sbardunwyd yr Unol Daleithiau a rhai o’i chynghreiriaid i geisio dinistrio’r rhwydwaith Islamaidd terfysgol a chanolbwyntiwyd ar ddod o hyd i arweinydd Al-Qaeda, sef Osama bin Laden. Goresgynnwyd Affganistan gan yr Unol Daleithiau yn Hydref 2001 oherwydd amheuon ei fod yn cael lloches gan y wlad. Yn Hydref 2003 goresgynnwyd Irac gan yr Unol Daleithiau a Phrydain oherwydd eu bod nhw’n meddwl bod cysylltiadau rhwng Irac ac Al-Qaeda. Lladdwyd bin Laden ym Mhacistan yn 2011 gan luoedd arbennig yr Unol Daleithiau.[21][22]
Roedd y jihad yn rhan o dactegau terfysgol Islamiaeth eithafol, sef unigolion oedd yn fodlon aberthu eu bywydau i gyflawni amcanion yr achos roedden nhw’n rhan ohono. Gwelwyd hyn hefyd yn ffrwydradau Bali yn Hydref 2002 pan ffrwydrodd bom mewn pac gan hunanfomiwr yng nghlwb nos Paddy’s Bar yn ardal Kuta ar ynys Bali. Lladdwyd 202 o bobl ac anafwyd dros 200. Ymhlith y rhai a laddwyd roedd 88 o Awstralia a 28 o’r Deyrnas Unedig. Cymerwyd cyfrifoldeb am y drosedd gan Osama bin Laden, a dywedwyd bod twristiaid Awstralaidd wedi cael eu targedu er mwyn dial am ran Awstralia yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth ac annibyniaeth Dwyrain Timor.[23][24]
Cafodd grwpiau Mwslimaidd eithafol eu cysylltu â nifer o ymosodiadau terfysgol a ddigwyddodd yn y degawdau dilynol ar draws y byd, er enghraifft, Ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005 lle lansiwyd cyfres o ffrwydradau hunanladdiad ar hyd mannau penodol yn rhwydwaith trafnidiaeth Llundain; ffrwydradau Marathon Boston yn Ebrill 2013; Ymosodiadau Charlie Hebdo ym Mharis, Ffrainc yn Ionawr 2015; ymosodiadau Pont Llundain ac Arena Manceinion yn 2017.[25][26][27][28]
Mewn ymateb i’r ymosodiadau hyn bu cynnydd yn nifer yr ymosodiadau terfysgol gwrth-Islamiaeth mewn gwahanol rannau o’r byd - er enghraifft, ymosodiadau Norwy yn 2011 lle ffrwydrodd bom yn y brifddinas Oslo, ac y saethwyd pobl mewn gwersyll ieuenctid y Blaid Lafur ar ynys Utøya, Norwy, gan Anders Behring Breivik, a Chyflafan Christchurch yn Seland Newydd lle saethwyd 50 o Fwslemiaid yn farw mewn dau fosg ym mis Mawrth 2019.[29][30]
Terfysgaeth yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Yng Nghymru roedd cyfuniad o resymau dros y degawdau pam y trodd pobl at derfysgaeth i fynegi eu protest. Yn ystod y 19eg a’r 20g bu enghreifftiau o derfysg yng Nghymru a achoswyd gan faterion yn ymwneud â diffyg grym gwleidyddol, amodau gwaith a byw, cenedlaetholdeb a hunaniaeth. Defnyddiwyd braw a thrais er mwyn dangos gwrthwynebiad, lleisio barn a cheisio gorfodaeth i newid barn, safbwynt neu benderfyniad.
Cymru ddiwydiannol y 19eg ganrif
[golygu | golygu cod]Ar ddechrau’r 19eg ganrif, yn ystod y 1820au a’r 1830au, roedd grwp o'r enw y Teirw Scotch yn terfysgu yn ardaloedd diwydiannol siroedd Mynwy a Morgannwg. Byddent yn codi ofn ac yn bygwth pobl oedd yn gormesu gweithwyr yn eu barn nhw - er enghraifft, meistri a pherchnogion y gweithfeydd, ymfudwyr o Loegr ac Iwerddon. Gan amlaf roedd y bygythiadau yn cael eu cynnal liw nos a byddai achos llys ffug i ‘brofi’r’ troseddwr neu droseddwyr cyn hynny. Eu bwriad oedd creu undod ymhlith y gweithwyr diwydiannol, ac roedden nhw’n fath o undeb llafur cynnar. Roedden nhw'n ymosod ar bobl oedd yn ‘torri’r’ undod hwnnw, er enghraifft, wedi torri streic. Roedden nhw'n defnyddio gwisg i guddio pwy oedden nhw, gan ddefnyddio pen tarw coch fel rhan o’r wisg. Fe fydden nhw'n canu cyrn ac yn ymweld/ymosod ar dai ‘blackleggers’ oedd wedi torri streic neu dorri undod y gweithwyr mewn rhyw ffordd. Roedd ymosod ar dai a malu dodrefn yn nodwedd o’r ffordd roedden nhw'n gweithredu. Roedden nhw'n anfon llythyrau bygythiol ac yn bygwth defnyddio trais i sicrhau ‘trefn’ ar weithwyr diwydiannol yr ardaloedd hyn.[31][32]
Ym Mehefin 1831, adeg Terfysg Merthyr, meddiannwyd tref Merthyr gan brotestwyr, sef gweithwyr yn y gweithfeydd haearn lleol oedd yn protestio yn erbyn amrywiaeth o gwynion a phryderon - er enghraifft, y System Dryc atgas, amodau byw a gwaith gwael, a diffyg pleidlais. Trodd y protestio yn dreisgar gydag elfennau o derfysgaeth pan ymosododd y terfysgwyr ar awdurdodau ac eiddo.
Adeg y terfysg bu ymddygiad a gweithgareddau'r protestwyr yn ddigon o fygythiad fel bod y Ddeddf Derfysg wedi cael ei darllen, a galwodd William Crawshay a’r awdurdodau lleol am gymorth y milisia lleol. Galwyd milwyr draw o Aberhonddu, Caerdydd, Llantrisant a Chastell-nedd hefyd i geisio rheoli’r sefyllfa. Adfeddiannodd y protestwyr yr eiddo oedd wedi ei atafaelu gan Lys y Deisyfion a’i ddychwelyd i’w berchnogion. Aeth y dorf i chwilio drwy dŷ beili o’r enw Thomas Williams ac ymosodwyd ar dŷ Joseph Coffin, Llywydd Llys y Deisyfion, yn ogystal â dinistrio’r cofnodion o ddyledion pobl roedd ef yn eu cadw. Adeg y terfysg, a barodd am wythnos gyfan, fe wnaeth yr ynadon a’r meistri haearn faricedio eu hunain yn Nhafarn y Castell, gymaint oedd eu hofn ynghylch natur dreisgar y sefyllfa. O ffenestri’r dafarn saethodd y milwyr i’r dorf gan ladd tri o’r dorf ar unwaith, ac yn dilyn ymladd ffyrnig lladdwyd 24 arall o’r dorf ac anafwyd 16 o filwyr. Does neb yn siŵr faint yn union o’r dorf a laddwyd gan fod llawer o gyrff wedi eu cludo ymaith a’u claddu’n gyfrinachol. Daeth y terfysgoedd i ben ar Fehefin 6 gyda 18 o arweinwyr yn cael eu harestio, gan gynnwys Richard Lewis (Dic Penderyn), a grogwyd yng Ngharchar Caerdydd am drywanu milwr o’r enw Donald Black yn ei goes. Mae Dic Penderyn yn cael ei gydnabod fel merthyr cyntaf y dosbarth gweithiol yng Nghymru.
Yn 1839 roedd Gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn cael ei gweld fel protest oedd yn rhan o wrthryfel mwy ym Mhrydain, ac yn ôl rhai haneswyr roedd yn ymgais at chwyldro cenedlaethol. Gyda siom Deddf Diwygio 1832, gan na chynigiwyd y bleidlais, roedd y diffyg grym gwleidyddol i ddosbarth gweithiol Cymru wedi cyfrannu at dwf Siartiaeth, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol newydd.
Roedd apêl Siartaeth yn gryf yng nghymoedd cloddio glo Sir Morgannwg a Sir Fynwy. Ffigwr blaenllaw yn rhengoedd Siartwyr Sir Fynwy oedd John Frost o Gasnewydd a oedd wedi bod yn Faer Casnewydd. Roedd cefnogaeth i ‘rym corfforol’ Siartaeth yn gryf yn yr ardal hon, ac oherwydd hynny cafodd cyfarfodydd Siartaeth eu gwahardd a hyfforddwyd pobl i ddefnyddio arfau i wrthsefyll Siartaeth.
Daeth tri arweinydd Siartaeth yr ardaloedd hyn ynghyd mewn cyfarfod yn y Coed-duon ar Fai 20, 1839, sef Zephaniah Williams, John Frost a William Jones, a’r bwriad oedd gorymdeithio i Gasnewydd ac ymgynnull fel tair colofn yn y dref. Cychwynnwyd storio arfau fel rhan o’r paratoadau ar gyfer gwrthryfel a allai fod yn rhan o wrthryfel mwy ym Mhrydain.
Daeth yr awdurdodau i wybod am y trefniadau hyn a threfnodd Thomas Phillips, Maer Casnewydd, bod 500 o gwnstabliaid gwirfoddol a milwyr yn cael eu hanfon i Gasnewydd. Anfonwyd tua 30 o filwyr i Westy’r Westgate. Wedi clywed hyn penderfynodd y Siartwyr orymdeithio tuag at y gwesty a cheisio cael mynediad. Saethodd y milwyr at y dorf y tu allan, yna at y Siartwyr tu allan a thu mewn i Westy’r Westgate, gan ladd tua 22 o bobl. Adlewyrchwyd perygl y sefyllfa i’r awdurdodau yn llymder y cosbau a roddwyd i’r arweinyddion John Frost, Zephanaiah Williams a William Jones, sef crogi, diberfeddu a chwarteru. Cafodd y ddedfryd hon ei lleihau i drawsgludo yn nes ymlaen. Yn yr un modd roedd y gweithwyr amaethyddol yn ardaloedd gwledig de-orllewin Cymru yn troi at derfysgu drwy ymosod ar gatiau’r tollbyrth, a oedd yn ffocws i’w cynddaredd.
Cymru wledig y 19eg ganrif
[golygu | golygu cod]Bu Helyntion Beca yn codi arswyd ar yr ardal hon o Gymru rhwng 1839 a 1843, pan godwyd braw ac ofn ar y rhai a oedd yn gysylltiedig â’r tollbyrth a’r tlotai. Ymosodwyd ar gatiau'r tollbyrth, y tollbyrth, ceidwaid y tollbyrth a daeth tirfeddiannwyr a chlerigwyr lleol yn darged y llythyron bygythiol oedd yn cael eu hanfon gan Beca. Cyrhaeddodd trais y protestio ei anterth yn 1843 gydag ymddygiad a gweithredoedd yn dod yn fwy treisgar, gan ledaenu i ymosod ar eiddo’r rhai a oedd yn gwrthwynebu Beca. Defnyddiwyd gynnau ar 16 Mehefin pan saethwyd at Gwnstabliaid Gwirfoddol ger Caerfyrddin, ac o ganlyniad i hyn anfonodd y Llywodraeth filwyr, sef y 4ydd Dragwniaid Ysgeifn o Gaerdydd.
Ym Mehefin 1843 gorymdeithiodd tua 2,000 o gefnogwyr Beca i gyflwyno eu cwynion i Ynadon Heddwch yn Neuadd y Dref. Ond yn fuan iawn trodd y tloty yn darged dicter i’r protestwyr, a aeth i mewn i’r adeilad ac achosi difrod.
Roeddent ar fin rhoi’r adeilad ar dân pan gyrhaeddodd y milwyr a chymryd 60 o garcharorion. Yn yr un flwyddyn cafodd dynes 75 mlwydd oed o’r enw Sarah Williams, ceidwad y tollau, ei lladd wrth ymyl tollborth yr Hendy, ger Llanelli, yn ystod ymosodiad ar y tollborth.[33]
Cymru'r 20fed ganrif
[golygu | golygu cod]Boddi Capel Celyn
[golygu | golygu cod]- Prif: Capel Celyn
Yn ystod y 1950au a’r 1960au bu enghreifftiau yn hanes Cymru pan ddangosodd y bobl eu gwrthwynebiad i’r ffordd roedd hawliau Cymru fel gwlad, ei hiaith a’i diwylliant yn cael ei diystyru a’u hanwybyddu. Roedd agor Cronfa Ddŵr Tryweryn yn 1965 yn dystiolaeth o hynny. Bu gwrthwynebiad chwyrn pan basiwyd Mesur Boddi Cwm Tryweryn ger y Bala ym Meirionnydd yn 1957 er mwyn adeiladu cronfa ddŵr a fyddai’n darparu dŵr i ddinas Lerpwl. Mynegwyd anfodlonrwydd â'r cynllun gan y mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru, trigolion y pentref, ac aelodau blaenllaw o fywyd cyhoeddus Cymru fel Ifan ab Owen Edwards, Megan Lloyd George, Plaid Cymru ac ar draws Cymru gyfan.
Roedd Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn yn gymuned glos, amaethyddol, uniaith Gymraeg, gyda 67 o drigolion. Byddai cymuned gyfan yn cael eu gorfodi i symud o’u cartrefi ac nid oedd Lerpwl yn talu ceiniog i Gymru am y dŵr.
Yn 1956 arweiniodd Gwynfor Evans, arweinydd Plaid Cymru, orymdaith o drigolion Capel Celyn a’u cefnogwyr drwy ganol dinas Lerpwl er mwyn gofyn i Gyngor y ddinas ailystyried y cynllun. Anfonwyd llythyron a deisebau fel rhan o’r ymgyrch. Pleidleisiodd 35 o 36 Aelod Seneddol Cymru yn erbyn y cynllun (ataliodd 1 ei bleidlais) a gyflwynwyd yn 1957, ond ofer fu’r ymbil. Pasiwyd y cynllun yn y Senedd yn Llundain yng Ngorffennaf 1957.
Siomwyd a chwerwyd llawer gan yr ymateb difater a ddangoswyd tuag at safbwynt pobl Cymru ar y mater. Arestiwyd a rhoddwyd dirwy i David Pritchard a David Walters ym mis Medi 1962 am ddifrodi offer ar y safle. Cymaint oedd dyfnder y gwrthwynebiad i’r boddi fel y bu enghreifftiau eraill o ddifrod yng Nghwm Tryweryn. Ar Chwefror 10, 1963 ffrwydrwyd trosglwyddydd a oedd yn y gronfa a chosbwyd Emyr Llewelyn Jones, myfyriwr yn Aberystwyth ac aelod o Fudiad Amddiffyn Cymru, am y weithred. Fe’i dedfrydwyd i garchar am ddeuddeg mis ac yn fuan wedyn chwythwyd peilon trydan yng Ngellilydan gan Owain Williams a John Albert Jones, a oedd hefyd yn aelodau o Fudiad Amddiffyn Cymru. Cafodd y ddau garchar am flwyddyn.
Er gwaetha'r gwrthwynebiad cyhoeddus aeth y cynllun yn ei flaen ac fe agorwyd Llyn Celyn fel cronfa ddŵr yn swyddogol ar 28 Hydref 1965. Rhaid oedd adeiladu heolydd newydd gan fod yr heol o Bala i Ffestiniog yn cael ei boddi, a chost y prosiect oedd £20 miliwn. Roedd llyn Celyn yn dal 71,200 megalitr o ddŵr, ac yn cynnwys yr argae mwyaf yng Nghymru. Cafodd cofeb ei hadeiladu wrth ymyl y llyn a gerddi coffa a symudwyd hen gerrig beddi Capel Celyn yno.
Cynhaliwyd protest yn ystod seremoni agoriad swyddogol y Gronfa Ddŵr ar Hydref 28ain, 1965, lle'r oedd Arglwydd Faer Lerpwl yn bresennol. Bu’r seremoni yn un llawn tensiwn rhwng y gwahoddedigion a’r protestwyr. Llosgwyd Baner yr Undeb, bu taflu cerrig a heclo. Yn bresennol hefyd mewn lifrau milwrol roedd parafilwyr Byddin Rhyddid Cymru.
Dechreuwyd ymgyrch recriwtio gan Fyddin Rhyddid Cymru yn 1963, ond protest Tryweryn oedd yr achlysur cyntaf iddynt ymddangos yn gwrthdystio. Yn 1969 arestiwyd yr arweinwyr a dedfrydwyd chwech ohonynt, yn cynnwys yr arweinydd Julian Cayo Evans, i bymtheg mis o garchar. Cafodd ei arestio ar y diwrnod yr arwisgwyd Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf.[34][35]
Clywedog
[golygu | golygu cod]Yn nyffryn Clywedog ger Llanidloes, Powys, adeiladwyd cronfa ddŵr er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Birmingham. Ar 31 Gorffennaf 1963 cafodd Mesur Clywedog ei wneud yn ddeddf gwlad gyda sêl y frenhines, ac fe ddechreuodd y gwaith adeiladu. Byddai 615 acer o dir amaethyddol yn Nyffryn Clywedog yn cael ei golli a thair fferm yn cael eu boddi. Tyfodd gwrthwynebiad ymhlith trigolion lleol i'r cynllun i adeiladu cronfa ddŵr yn y dyffryn. Arweiniwyd yr ymgyrch yn erbyn boddi Clywedog gan aelodau o Blaid Cymru. Yn Ebrill 1963 cyfarfu is-bwyllgor Clywedog am y tro cyntaf i drafod sut oedd modd achub y dyffryn. Roedd y pwyllgor yn cynnwys J. W. Meredydd, Arthur Thomas, Islwyn Ffowc Ellis, Elystan Morgan ac Elwyn Roberts.
Penderfynodd Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru gymryd prydles ar 2.6 acer o dir yn nyffryn Clywedog am bum mlynedd ar hugain. Rhannwyd y tir yn 75 uned a logwyd gan 200 o bobl, o Gymru a thu hwnt, a wrthwynebai'r cynllun. £12 oedd pris uned o dir ac fe'i rhannwyd yn bedwar rhan am £3 yr un.
Y prif reswm am brynu'r tir hwn oedd bod perchnogion tir yn cael lleisio barn mewn ymchwiliad cyhoeddus i'r cynllun. Y bwriad hefyd oedd cadw tresbaswyr oddi ar y tir. Gwyddai pwyllgor amddiffyn Clywedog na ellid rhwystro'r cynllun, ond roedd prynu'r tir yn fodd iddynt brotestio yn erbyn y datblygiad arfaethedig. Er gwaethaf eu hymdrechion pasiwyd deddf a roddai'r hawl i'r llywodraeth bwrcasu'r tir drwy orfodaeth, ac ni wnaeth yr ymgyrch prynu tir rwystro'r gronfa ddŵr rhag cael ei hadeiladu. Ar 13 Ebrill 1965 cynhaliwyd diwrnod i'r wasg Brydeinig yn nyffryn Clywedog tra'r oedd y gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen. Tarfodd rhai o aelodau Plaid Cymru, yn cynnwys yr arweinydd Gwynfor Evans, ar y diwrnod er mwyn dangos nad oedd y Cymry a'r bobl leol yn fodlon ar yr hyn oedd yn digwydd.
Ar 6 Mawrth 1966 ffrwydrodd bom ar safle'r argae ac amheuwyd bod cysylltiad rhwng y digwyddiad a Mudiad Amddiffyn Cymru, dan arweiniad John Barnard Jenkins. Gwnaed gwerth £36,000 o ddifrod ac fe gollwyd gwerth chwe wythnos o waith yn sgil difrod y ffrwydron. Gosodwyd bomiau hefyd yn y Deml Heddwch yn 1968, ac yn Abergele ar fore Arwisgo'r Tywysog Siarl yn 1969, pan laddwyd Arwel Jones a George Taylor gan eu bom eu hunain.[36]
Yr Arwisgiad yn 1969
[golygu | golygu cod]- Prif: Arwisgiad Tywysog Cymru
Corddwyd emosiynau a theimladau dwfn adeg Arwisgiad Siarl, mab hynaf Elizabeth II, fel Tywysog swyddogol Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Roedd y digwyddiad yn atgof o oresgyniad Edward I o Gymru yn 1282 yn dilyn lladd Llywelyn ein Llyw Olaf. Gorchmynnodd Edward I y byddai teitl Tywysog Cymru yn cael ei roi i etifedd gorsedd Lloegr o hynny ymlaen. Roedd hynny'n symbol o ormes Lloegr. Yn ystod y paratoadau ar gyfer yr Arwisgiad a diwrnod yr Arwisgiad yn 1969 cafwyd nifer o alwadau ffôn ffug i’r awdurdodau am fomiau, a darganfuwyd gwahanol ymdrechion gan aelodau o Fudiad Amddiffyn Cymru i drefnu ffrwydradau. Trefnwyd pedwar ffrwydrad er mwyn tarfu ar y digwyddiadau. Ddiwrnod cyn yr Arwisgiad lladdwyd dau aelod o'r Mudiad pan ffrwydrodd y gelignite yn eu meddiant. Ffrwydrodd bom yng ngardd Prif Gwnstabl Gwynedd a darganfuwyd bom ar bier Llandudno. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach collodd bachgen 10 mlwydd oed ei droed wedi iddo faglu dros ffrwydron y tu allan i siop haearnwerthwr roedd Siarl wedi ei phasio ar y ffordd i’r castell. Arestiwyd John Jenkins a Frederick Alders yn Nhachwedd 1969 ac anfonwyd hwy i’r carchar am achosi ffrwydradau, ac yn dilyn hynny daeth ymgyrch fomio MAC i ben.[37]
Meibion Glyndŵr
[golygu | golygu cod]Yn nes ymlaen yn y 1980au bu grŵp cenedlaetholgar o’r enw Meibion Glyndŵr yn llosgi ac yn bomio nifer o dai haf ac ail gartrefi yng ngogledd a gorllewin Cymru. Eu bwriad oedd ceisio perswadio’r Llywodraeth i roi blaenoriaeth i Gymry yn y farchnad dai leol.[38]
Roedd eu hymgyrch fomio hefyd yn targedu swyddfeydd cwmnïau gwerthu tai, carafannau ac iardiau cychod. Roedd y grŵp wedi cychwyn eu hymgyrch losgi ar ddiwedd y 1970au ac roedd wedi parhau hyd at ganol y 1990au. Enwyd hwy ar ôl Owain Glyndŵr, y tirfeddiannwr o linach hen deuluoedd brenhinol Powys a Deheubarth Cymru.
Yn ystod ymgyrchoedd Meibion Glyn Dŵr ni laddwyd ac ni anafwyd unrhyw un yn ddifrifol. At ei gilydd ymosododd ymgyrch fomio'r grŵp ar tua 230 o dai haf ac yn 1993 dedfrydwyd a charcharwyd Siôn Aubrey Roberts, dyn 21 mlwydd oedd o Langefni, i 12 mlynedd o garchar yn Llys Ynadon Caernarfon am anfon bomiau tân drwy'r post. Cafwyd ef hefyd yn euog o anfon dyfeisiau cynnau tân drwy'r post at Wyn Roberts, Gweinidog Cymru ar y pryd, ac uwch aelodau'r heddlu. Cymaint oedd ofn yr awdurdodau ynghylch bygythiadau Meibion Glyn Dŵr fel bod gwasanaeth cudd MI5 wedi bod yn rhan o'r ymchwiliadau i bwy oedd yn gyfrifol am yr ymgyrchoedd bomio. Yn ystod achos llys Siôn Roberts datgelwyd yn eu tystiolaeth i'r llys bod ysbïwyr MI5 wedi bod yn goruchwylio symudiadau Siôn Roberts ac wedi bod yn bygio ei fflat yn Llangefni, Ynys Môn.
Yn ystod yr ymchwiliadau, daeth i'r amlwg bod Siôn Roberts, a dau arall, sef David Gareth Davies a Dewi Prysor Williams, a gafwyd yn ddi-euog o'r cyhuddiadau yn eu herbyn, yn aelodau o grŵp a oedd yn ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru, sef Y Cyfamodwyr. Roedd y tri hefyd yn gefnogol i Feibion Glyn Dŵr. Codwyd nifer o amheuon am ddibynadwyedd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdodau yn ystod achos llys Siôn Roberts, ond ni ddarganfuwyd pwy yn union oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau bomiau tân.[39][40][41]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Weinberg a Davis (1989), t. 6.
- ↑ Wilkinson (1986), t. 51.
- ↑ Weinberg a Davis (1989), t. 3.
- ↑ 4.0 4.1 Townshend (2002), t. 3.
- ↑ Laqueur (2003), t. 232.
- ↑ Townshend (2002), t. 5.
- ↑ 7.0 7.1 Weinberg a Davis (1989), t. 7.
- ↑ Keohane (2002), t. 142.
- ↑ Jenkins (1975), t. 158.
- ↑ Townshend (2002), t. 6–7.
- ↑ Chomsky (2002), t. 134.
- ↑ "Trosolwg o'r Rhyfel Byd Cyntaf" (PDF). HWB. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-11-24.
- ↑ "'Yr Helyntion' yng Ngogledd Iwerddon". Encyclopedia Britannica.
- ↑ "Y Rhyfel yn y Dwyrain Canol". Encyclopedia Britannica.
- ↑ "Gemau Olympaidd Munich 1972". BBC.
- ↑ "Lladdfa Gemau Olympaidd Munich". Encyclopedia Britannica.
- ↑ "Trychineb Lockerbie". Golwg 360.
- ↑ "Trychineb Lockerbie". Encyclopedia Britannica.
- ↑ "Ffrwydrad Dinas Oklahoma". Encyclopedia Britannica.
- ↑ "Bomio Gemay Olympaidd Atlanta 1996". Encyclopedia Britannica.
- ↑ "Ymosodiadau Medi 2001". Encyclopedia Britannica.
- ↑ "Ymosodiadau Medi 2001". BBC.
- ↑ "2002 Bali Bombings". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 24 Mawrth 2017.
- ↑ "The 12 October 2002 Bali bombing plot". BBC News (yn Saesneg). 2012-10-11. Cyrchwyd 2020-03-26.
- ↑ "Boston Marathon bombing of 2013 | terrorist attack, Massachusetts, United States". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-26.
- ↑ "Ymosodiadau bom Llundain 2005". Encyclopedia Britannica.
- ↑ "Ymosodiad terfysgol Llundain 2005". Golwg 360.
- ↑ "Bomio Llundain: Cymry'n cofio". BBC.
- ↑ "Ymosodiadau Oslo ac Utoya 2011". Encyclopedia Britannica.
- ↑ "Cyflafan Christchurch, Seland Newydd". Encyclopedia Britannica.
- ↑ "Natur Troseddau". BBC.
- ↑ Davies, John. Hanes Cymru. tt. 354–355.
- ↑ "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC.
- ↑ "Pleidiol wyf i'm gwlad" (PDF). CBAC.
- ↑ "Tryweryn". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2001-03-07.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Clywedog". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-27.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Pleidiol wyf i'm gwlad" (PDF). CBAC.
- ↑ Gwyddoniadur Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 609.
- ↑ Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2001). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 609.
- ↑ "Meibion Glyndwr". Daily Post.
- ↑ "Meibion Glyndwr". The Guardian.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Chomsky, N. (2002) 'Who Are the Global Terrorists?'. Yn Worlds in Collision: Terror and the Future of Global Order, golygwyd gan Ken Booth a Tim Dunne, tt. 128–37. Basingstoke: Palgrave Macmillan.
- Jenkins, B. (1975) 'International terrorism: A balance sheet'. Survival, 17(4), tt. 158–64.
- Keohane, R. O. (2002) 'The Public Delegitimation of Terrorism and Coalitional Politics'. Yn Worlds in Collision: Terror and the Future of Global Order, golygwyd gan Ken Booth a Tim Dunne, tt. 141–51. Basingstoke: Palgrave Macmillan.
- Laqueur, W. (2003) No End to War: Terrorism in the Twenty-First Century. Llundain: Continuum.
- Townshend, C. (2002) Terrorism: A Very Short Introduction. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.
- Weinberg, L. B. a Davis, P. B. (1989) Introduction to Political Terrorism. Efrog Newydd: McGraw-Hill.
- Wilkinson, P. (1986) Terrorism and the Liberal State. Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Efrog Newydd.