Tawakkol Karman
Tawakkol Karman | |
---|---|
Tawakkol Karman yn 2011. | |
Ganwyd | 7 Chwefror 1979 Ta'izz |
Dinasyddiaeth | Iemen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ymgyrchydd heddwch, newyddiadurwr, gwleidydd, amddiffynnwr hawliau dynol |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel |
Gwefan | http://www.tawakkolkarman.net, https://tkif.org/en/ |
Newyddiadurwraig a gwleidydd o Iemen ac ymgyrchydd dros hawliau dynol yw Tawakkol Abdel-Salam Karman (Arabeg: توكل عبد السلام خالد كرمان Tawakkul ‘Abd us-Salām Karmān; hefyd Tawakul,[1] Tawakel;[2][3][4] ganwyd 7 Chwefror 1979).[4] Hi oedd wyneb gyhoeddus Chwyldro Iemen (2011–12), ac fe'i elwir yn "y Ferch Haearn" a "Mam y Chwyldro" gan ei chydwladwyr.[5][6] Derbyniodd Karman Wobr Heddwch Nobel yn 2011, ynghyd ag Ellen Johnson Sirleaf a Leymah Gbowee.[7] Hi yw'r Iemeniad cyntaf, y fenyw Arabaidd cyntaf,[8][9] a'r ail fenyw Fwslimaidd i ennill Gwobr Nobel, a'r unigolyn ieuangaf i ennill y Wobr Heddwch ac eithriad Malala Yousafzai.
Cyd-sefydlodd y garfan "Newyddiadurwragedd Heb Gadwyni" yn 2005.[1] Daeth Karman i sylw'r cyhoedd yn Iemen trwy ei newyddiaduraeth a'i hymgyrch dros wasanaeth newyddion ffôn symudol a gafodd ei wrthod trwydded yn 2007. Y flwyddyn honno, dechreuodd trefnu ac arwain protestiadau wythnosol o blaid ryddid y wasg.[1][10] Dan ei harweiniad, rhoddwyd cefnogaeth i'r "Chwyldro Jasmin" yn Nhiwnisia (Rhagfyr 2010–Ionawr 2011) a'r Gwanwyn Arabaidd. Gwrthwynebodd Ali Abdullah Saleh, Arlywydd Iemen, yn gyhoeddus.[11]
Yn ôl cebl diplomyddol a ddatgelwyd gan WikiLeaks, er i Karman lladd ar Sawdi Arabia yn gyhoeddus roedd hi hefyd yn trefnu cyfarfodydd dirgel â'r Sawdïaid i ymofyn am eu cefnogaeth. Hi wnaeth canmol Sawdi Arabia am gytundeb trawsnewid llywodraeth a chafodd ei ystyried gan nifer o ddiwygwyr fel brad yn erbyn y chwyldro. Yn ogystal, cyhuddodd Karman yr Arlywydd Abd Rabbuh Mansur Hadi o gefnogi'r Houthi ac Al Qaeda.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Al-Sakkaf, Nadia (17 June 2010). "Renowned activist and press freedom advocate Tawakul Karman to the Yemen Times: "A day will come when all human rights violators pay for what they did to Yemen"". Women Journalists Without Chains. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-30. Cyrchwyd 30 January 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Evening Times (Glasgow). Arrest Sparks Protest. 24 January 2011. Retrieved 8 October 2011 from the Lexis-Nexis Database.
- ↑ Emad Mekay. Arab Women Lead the Charge. Inter Press Service (Johannesburg), 11 February 2011. Retrieved 8 October 2011 from the Lexis-Nexis Database.
- ↑ 4.0 4.1 "Yemen laureate figure of hope and controversy". Oman Observer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-12. Cyrchwyd 15 November 2011.
- ↑ Macdonald, Alastair (7 October 2011). "Nobel honours African, Arab women for peace". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-09. Cyrchwyd 16 November 2011.
- ↑ Al-Haj, Ahmed; Sarah El-Deeb (7 October 2011). "Nobel peace winner Tawakkul Karman dubbed 'the mother of Yemen's revolution'". Sun Sentinel. Associated Press. Cyrchwyd 8 October 2011.
- ↑ "Nobel Peace Prize awarded jointly to three women". BBC Online. 7 October 2011. Cyrchwyd 16 November 2011.
- ↑ "Profile: Nobel peace laureate Tawakul Karman". BBC Online. 7 October 2011. Cyrchwyd 16 November 2011.
- ↑ "Yemeni Activist Tawakkul Karman, First Female Arab Nobel Peace Laureate: A Nod for Arab Spring". Democracynow.org. Cyrchwyd 10 December 2011.
- ↑ "Renowned activist and press freedom advocate Tawakul Karman to the Yemen Times:"A day will come when all human rights violators pay for what they did to Yemen."". Yemen Times. 3 November 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-05. Cyrchwyd 15 November 2011.
- ↑ "New protests erupt in Yemen". Al Jazeera. 29 January 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 January 2011. Cyrchwyd 30 January 2011.
- ↑ yemenanon (27 June 2015). "Tawakul Karman turns to Saudi in 2011". Cyrchwyd 13 December 2016.
- Genedigaethau 1979
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Sana'a
- Enillwyr Gwobr Heddwch Nobel
- Gwleidyddion o Iemen
- Mwslimiaid o Iemen
- Merched a aned yn y 1970au
- Newyddiadurwyr Arabeg o Iemen
- Newyddiadurwyr benywaidd yr 21ain ganrif o Iemen
- Pobl y Gwanwyn Arabaidd
- Pobl o linach Dyrcaidd
- Pobl o Taiz
- Ymgyrchwyr hawliau dynol
- Ymgyrchwyr o Iemen