Statinau
Atrovastatin | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o gyffuriau meddygol, grŵp neu ddosbarth o endidau moleciwlaidd |
---|---|
Math | meddyginiaeth, anticholesteremic agents, enzyme inhibitor, oxidoreductase inhibitor |
Rhan o | response to statin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae statinau yn grŵp o feddyginiaethau a all helpu i ostwng lefel cholesterol Lipoprotein dwysedd isel (LDL) yn y gwaed. Cyfeirir at golesterol LDL yn aml fel "cholesterol drwg", ac mae statinau yn lleihau eu cynhyrchu o fewn yr iau[1].
Mae cael lefel uchel o golesterol LDL yn beryglus, gan y gall arwain at galedu a chulhau'r rhydwelïau a chlefyd cardiofasgwlaidd. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn derm cyffredinol sy'n disgrifio clefyd y galon neu'r pibellau gwaed. Dyma'r achos marwolaeth fwyaf cyffredin yn y DU. Y prif fathau o glefyd cardiofasgwlaidd yw:
- Clefyd coronaidd y galon - pan gyfyngir cyflenwad gwaed y galon
- Angina - poen mân yn y frest, a achosir gan glefyd coronaidd y galon
- Trawiad ar y galon - pan fo'r cyflenwad o waed i'r galon yn cael ei atal yn sydyn
- Strôc - pan fydd y cyflenwad o waed i'r ymennydd yn cael ei atal
Daw statinau fel tabledi sy'n cael eu cymryd unwaith y dydd. Fel rheol, dylai'r tabledi gael eu cymryd ar yr un pryd bob dydd - mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd ychydig cyn mynd i'r gwely.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae triniaeth gyda statinau'n parhau am oes, gan fod atal y feddyginiaeth yn achosi i'r cholesterol ddychwelyd i lefel uchel o fewn ychydig wythnosau. Yng ngwledydd Prydain mae statinau ar gael drwy bresgripsiwn yn unig. Mae pum math o statin ar gael yn y DU:
- atorvastatin (Lipitor)
- fluvastatin (Lescol)
- pravastatin (Lipostat)
- rosuvastatin (Crestor)
- simvastatin (Zocor)
Bydd pobl sy'n cymryd statinau yn cael prawf gwaed unwaith y flwyddyn i fesur maint y cholesterol sydd yn eu gwaed ac i wirio os yw eu dos o statinau yn ddigonol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ NHS UK Statins adalwyd 14 Ionawr 2018