Neidio i'r cynnwys

R. S. Thomas

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ronald Stuart Thomas)
R. S. Thomas
Ganwyd29 Mawrth 1913 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw25 Medi 2000 Edit this on Wikidata
Cricieth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, llenor Edit this on Wikidata
Arddulltelyneg Edit this on Wikidata
PriodMildred Elsie Eldridge Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Cholmondeley, Gwobr Aur y Frenhines am Farddoniaeth, Heinemann Award, Horst-Bienek-Preis für Lyrik Edit this on Wikidata
Clawr casgliad o waith y bardd
Clawr llyfr, gyda llun o R, S. Thomas
Gororau'r Iaith: R. S. Thomas a'r Traddodiad Cymraeg gan Jason Walford Davies

Bardd o Gymru oedd Ronald Stuart Thomas neu R. S. Thomas (29 Mawrth 191325 Medi 2000). Ysgrifennai ei farddoniaeth yn Saesneg ond cyhoeddodd yn ogystal ddarlithiau a chyfrolau rhyddiaith yn Gymraeg. Offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru oedd e wrth ei alwedigaeth. Dysgodd Gymraeg ac yr oedd yn genedlaetholwr digymrodedd.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd. Ei wraig oedd Mildred Eldridge, arlunydd o Loegr.

Treuliodd R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor plwyf gwledig Manafon, Powys (1942–1954) a ficer plwyf Eglwys Fach, Ceredigion am dair mlynedd ar ddeg (1954–1967). O Eglwys Fach aeth i weinyddu fel ficer Aberdaron yn Llŷn. Ar ei ymddeoliad o'r eglwys yn 1978, aeth i fyw i bentref y Rhiw wrth droed Mynydd Rhiw, hefyd yn Llŷn. Enillodd yr Horst-Bienek-Preis für Lyrik ym 1996.

Yn ôl Dafydd Elis-Thomas, mae'i gyfrol Uncollected Poems (2013; www.bloodaxebooks.com) yn "dangos bod RS wedi creu campweithiau'r 20g mewn sawl math o gerddi: cerddi am natur y greadigaeth a chân yr adar, canu tanbaid serch a chariad, y canu mwyaf deallus am Gymru fel cenedl..."[1]

Ymddangosodd R. S. Thomas ar raglen radio Beti a'i Phobol ar Radio Cymru ym mis Chwefror 1996.[2][3][4]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gwaith R. S.

[golygu | golygu cod]

Cyfieithiad

[golygu | golygu cod]
  • Pe Medrwn yr Iaith ac Ysgrifau Eraill, gol. Tony Brown a Bedwyr L. Jones (Abertawe: C. Davies, 1988)
  • Laubbaum Sprache, gol. Kevin Perryman (Denklingen: Babel Verlag, 1998). Dewis o'i farddoniaeth wedi'i chyfieithu i'r Almaeneg.

Astudiaethau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.