Rhwydwaith Rhyngwladol Dileu Llygryddion
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1998 |
Pencadlys | Göteborg |
Gwladwriaeth | Sweden |
Gwefan | https://ipen.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Rhwydwaith Rhyngwladol Dileu Llygryddion (IPEN) (Saesneg: The International Pollutants Elimination Network)[1] yn rhwydwaith byd-eang o gyrff anllywodraethol sy'n ymroddedig i ddileu llygryddion, megis plwm mewn paent, mercwri a phlwm yn yr amgylchedd, llygryddion organig parhaus (POPs), cemegau sy'n tarfu ar endocrin, a gwenwynau eraill.
Mae IPEN yn cynnwys sefydliadau anllywodraethol er budd y cyhoedd sy'n cefnogi dileu POPs yn fyd-eang trwy Gonfensiwn Stockholm, ac sy'n ceisio dylanwadu ar waith yn dilyn confensiynau Rotterdam a Basel, yn ogystal â Chonfensiwn Minimata ar Fercwri.
Mae gan IPEN mwy na 550 o sefydliadau anllywodraethol er budd y cyhoedd mewn dros 120 o wledydd sy'n cydweithio i ddileu llygryddion gwenwynig, cyn gynted a phosibl, ond mewn modd cymdeithasol gyfiawn. Mae'r genhadaeth hon yn cynnwys cyflawni byd lle mae pob cemegyn yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio mewn ffordd sy'n dileu effeithiau andwyol sylweddol ar iechyd dynol a'r amgylchedd, a lle nad yw llygryddion organig parhaus (POPs) a chemegau o bryder cyfatebol bellach yn llygru amgylcheddau lleol a byd-eang.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Canolfan Cyfraith Amgylcheddol Ryngwladol (CIEL)
- Protocol Llygredd Aer POP
- Confensiwn Stockholm
- Confensiwn Minamata ar Fercwri
- Confensiwn Basel
- Confensiwn Rotterdam
Nodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "New Name Better Reflects Breadth of IPEN's Work". Cyrchwyd 15 November 2019.
- ↑ "IPEN". Cyrchwyd 15 November 2019.