Meudwy
Un sydd yn llwyr ymryddhau oddi wrth ofalon, sŵn, temtasiynau, a gorchwylion y byd at ddiben cael hamdden i fyfyrio ar bethau crefyddol yw meudwy (ffurf fenywaidd: meudwyes; ffurf luosog: meudwyod, meudwyaid).[1] Triga'r meudwy ar wahân i bobl eraill, megis mewn ogof, twlc anghelfydd yn y mynyddoedd, y coedwig, y diffeithwch, a lleoedd anghysbell eraill. Ffordd o fyw asgetigaidd yw meudwyaeth.
Credir mai yn y 3g y cododd, ac yr ymledodd, egwyddorion meudwyol ymysg y Cristnogion boreuol. Crwydrodd nifer ohonynt i anialdir y Scetis (Wadi El Natrun) a'r rhain a elwir Tadau a Mamau'r Diffeithwch.
Byddai meudwyaid yr Oesoedd Canol yn fynych yn byw mewn unigrwydd hollol, ond byddent yn gyffredin yn ymffurfio yn gymrodoriaeth, ac er fod i bob un o'r rhai hynny ei feudwyfod ei hun, eto byddent oll, ar adegau penodedig, yn ymgyfarfod i offerennu, i weddïo, ac i addysgu ei gilydd. Mae meudwyaid y dosbarth olaf hwn yn cyfansoddi urddau crefyddol, yn debyg i fynachod.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ meudwy. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 5 Mai 2017.