Menna Gwyn
Menna Gwyn | |
---|---|
Ganwyd | 23 Gorffennaf 1941 ![]() |
Bu farw | 6 Ebrill 2006 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyhoeddwyr, actor, cynhyrchydd radio ![]() |
Cyflogwr | |
Priod | Aled Gwyn ![]() |
Darlledwraig o Gymraes oedd Menna Gwyn (23 Gorffennaf 1941 – 6 Ebrill 2006) a oedd yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Bu'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1959 a 1962. Penodwyd ei gŵr Aled yn weinidog ar Eglwys Henllan Amgoed, Sir Gaerfyrddin yn Medi 1966 a daeth Menna yn rhan o fywyd cymdeithasol yr ardal.
Bu'n athrawes yn Ysgol Pantycaws am rai blynyddoedd, cyn cael plant. Cychwynnodd Cangen Hendygwyn o Ferched y Wawr yn 1970 a sefydlodd Cylch Meithrin yn ei chartref, tua 1972. Roedd hefyd yn cymryd dosbarthiadau nos i Ddysgwyr, yn Ysgol Griffith Jones.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu'n actores yn y 1970au pan ddaeth yn aelod o gast gwreiddiol Pobol y Cwm gan chwarae Nyrs Jenni rhwng 1974 a 1975.
Wedi hynny daeth yn gyhoeddwr gyda Radio Cymru gan gysylltu rhaglenni a darllen bwletinau newyddion. Roedd yn adnabyddus am ei llais cyfoethog a ddisgrifiwyd fel 'melfedaidd' gan Aled Glynne Davies.[2] Bu'n cyflwyno rhaglenni fel Gwynfyd a Menna a'r Clasuron. Cafodd Menna ei phenodi'n Uwch Gyhoeddwr Radio Cymru ac roedd yn gyfrifol am arwain tîm o gyflwynwyr a chynnig hyfforddiant. Cynhyrchodd raglenni fel Beti a’i Phobol a Wythnos i'w Chofio hefyd.
Ar deledu bu'n cyflwyno ar y rhaglen deledu nosweithiol Heddiw.[3]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod a'r Prifardd Aled Gwyn a chafodd ddau o blant, Non a Rolant.
Bu farw yn 64 mlwydd oed ar ôl salwch hir.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cofio Menna. BBC Cymru (Ebrill 2006).
- ↑ TEYRNGEDAU I MENNA GWYN. Y Dinesydd (Mai 2006). Adalwyd ar 1 Medi 2020.
- ↑ Menna Gwyn yn marw , BBC Cymru, 6 Ebrill 2006. Cyrchwyd ar 1 Medi 2020.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Menna Gwyn ar wefan Internet Movie Database