Gweirlöyn y perthi
Pyronia tithonus | |
---|---|
Benyw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Pyronia |
Rhywogaeth: | P. tithonus |
Enw deuenwol | |
Pyronia tithonus (Linnaeus, 1767) |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn y perthi, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod y perthi; yr enw Saesneg yw Hedge Brown, Gatekeeper, a'r enw gwyddonol yw Pyronia tithonus.[1]
Mae'n debyg iawn i weirlöyn y ddôl ond gellir dweud y gwahaniaeth gan fod gweirlöyn y perthi yn cael seibiant gyda'i adenydd wedi'u ar agor a gweirlöyn y ddôl yn aros â'i ddwy adain wedi'u cau. Mae glöyn y perthi, hefyd, ychydig yn llai.[2]
Bwyd
[golygu | golygu cod]Mae'r Siani flewog yn hoff iawn o fwyta gweiriau megis: Agrostis, Festuca, Poa ac Elymus repens.
Mae'r oedolyn, ar y llaw arall, yn cael ei neithdar o flodau Rubus fruticosus (sef mwyar duon), Carlina vulgaris (ysgall), Succisa pratensis, Pulicaria dysenterica, Eupatorium cannabinum, Ligustrum vulgare (prifed), Jacobaea vulgaris, Trifolium pratense (meillionen) a Thymus praecox (teim)
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloÿnnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae gweirlöyn y perthi yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd gloÿnnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Anon. "Gatekeeper". A-Z of butterflies. Butterfly Conservation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-11. Cyrchwyd 8 Awst 2011.