Llanychan
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.149°N 3.326°W |
Eglwys a phentreflan yw Llanychan( ynganiad ) (neu Eglwys Hychan Sant), a saif rhwng Rhewl a Gellifor, Rhuthun (Cyfeirnod OS: SJ 114621). Ceir rheithordy o frics coch o'i blaen, ac felly anodd yw gweld yr eglwys o'r ffordd fawr, a llond llaw o dai anedd eraill. Enwyd yr eglwys hynafol hon ar ôl Sant Hychan a fu'n byw ar y safle yn 450 OC, ac mae'r cofnod cyntaf o'r eglwys bresennol yn mynd yn ôl i 1254. Roedd yma ysgol hyd at ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Yma y ganwyd Cyril Radcliffe, Is-iarl 1af Radcliffe a ddaeth yn Gadeirydd y pwyllgor a greodd ffiniau newydd India, Bangladesh a Pacistan. Yn y trais a ddilynodd ar ôl annibyniaeth, credir i rhwng rhai cannoedd o filoedd a dwy filiwn farw,[1] a chafodd miliynau rhagor eu hanafu.
Mae'n blwyf o 567 erw - plwyf lleiaf Esgobaeth Llanelwy. Mae'r pentref oddeutu tair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ruthun.
Cofrestrwyd yr eglwys yn Gradd II* ar 19 Gorffennaf 1966 gan Cadw; rhif cofrestru: 787. Mae distiau pren yn y to yn dyddio o'r 16C. Dim ond dwy eglwys yng Nghymru sydd wedi eu henwi ar ôl Sant Hychan, a dyma un ohonynt. Sonir am yr eglwys hon gyntaf yng Nghofnodion Treth Norwich yn 1254.[2] Mae ei llan gylchog uchel yn nodedig iawn ac yn brawf y bu yma unwaith Eglwys Geltaidd, gynharach. Mae Eglwys Sant Hychan yn debyg iawn o ran arddull i Eglwys Sant Cynhafal, ond ei bod yn llawer llai ac nid oes iddi ddau gorff, nodwedd bensaernïol gyffredin iawn yn Nyffryn Clwyd.
-
Awyrlun
-
Arwydd 'Llanychan'
-
Y Rheithordy
-
Bedd Alan Crosland Graham, Neuadd Clwyd, Rhuthun. AS y Wirral, 1936-45.
-
Y porth
-
Teils llawr yr eglwys
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhydellteyrn
- Fermdy Rhydonnen ffermdy hynafol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Talbot, Ian; Singh, Gurharpal (2009), The Partition of India, Cambridge University Press, ISBN 978-0-521-85661-4, https://books.google.com/books?id=utKmPQAACAAJ
- ↑ "Gwefan Eglwys Llanychan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-26. Cyrchwyd 2009-03-21.
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion